Carcharu dynes am ladd bachgen 17 oed ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae dynes ifanc o Sir Y Fflint a laddodd bachgen 17 oed mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ger Llanelwy wedi cael dedfryd o bum mlynedd o garchar.
Plediodd Chantelle Gleave, sy'n 22 oed ac o Shotton, yn euog ym mis Tachwedd i gyhuddiad o achosi marwolaeth Ethan Ross, o Lanelwy, trwy yrru'n beryglus.
Clywodd Llys Y Goron Yr Wyddgrug bod y diffynnydd yn edrych i lawr ac yn cyfri arian pan darodd ei char Vauxhall Astra gefn moped Ethan, oedd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Dinbych.
Bu farw mewn ysbyty yn Stoke ddeuddydd wedi'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am 21:55 nos Sadwrn 12 Medi y llynedd, wrth iddo deithio'r ffordd arferol adref o'i waith fel gweinydd yng Nghastell Bodelwyddan.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands mai dyma "un o'r achosion mwyaf trist" iddo fod yn rhan ohono a bod datganiad mam Ethan, yn un o'r rhai mwyaf dirdynnol iddo ei glywed.
Wrth ddedfrydu Gleave, sy'n disgwyl babi ym mis Ebrill ac a ymddangosodd yn y llys trwy gyswllt fideo, ei bod wedi ymddwyn mewn ffordd "eithriadol o anghyfrifol".
Clywodd y llys bod Gleave yn gyrru gan wybod nad oedd dau brif olau ei char yn gweithio, a'i bod yn defnyddio'r lampau niwl yn hytrach.
Roedd y ffordd ddwyreiniol ger cyffordd 26 wedi ei goleuo'n dda, a chafodd gyrwyr eraill ddim trafferth gweld moped Ethan a'i basio'n ddiogel. Roedd holl oleuadau'r moped hefyd yn gweithio'n gywir.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Gleave, wrth deithio adref o Fae Colwyn, wedi edrych i lawr i gyfri £100 mewn arian parod ar sedd flaen y car cyn iddi daro'r moped.
'Weles i mohono'
Stopiodd plismon nad oedd ar ddyletswydd oedd yn digwydd teithio i'r un cyfeiriad ac fe welodd Ethan yn gorwedd ar y ffordd.
Dywedodd Gleave wrtho: "Weles i mohono, roedd yn mynd mor araf." Dywedodd wedyn ei bod wedi bod yn cyfri ei chyflog ar y pryd.
Clywodd meddyg fu'n trin Ethan ar y ffordd, y diffynnydd yn dweud: "Dyma ddiwrnod gwaethaf fy mywyd. Edrychwch ar fy nghar."
Cafodd Ethan ei gludo yn y lle cyntaf i Ysbyty Glan Clwyd ac yna mewn hofrennydd i ganolfan arbenigol yn Stoke ble bu farw o anafiadau difrifol i'w ymennydd a'r ysgyfaint.
Yn ei datganiad i'r llys, dywedodd ei fam, Helen Ross mai geiriau olaf y ddau i'w gilydd pan adawodd y tŷ i fynd i'w waith oedd "caru ti".
Roedd yn "fachgen perffaith, rhyfeddol", meddai, ac mae bywyd y teulu hebddo "yn uffern ar y ddaear".
Gan gyfeirio at rai o obeithion ei mab at y dyfodol, dywedodd: "Roedd Ethan yn caru'r gofod. Seren yn ei enw yw'r oll sydd gyda ni i'w atgoffa o hynny. 17 mlynedd o fywyd a'r dyfodol mwyaf disglair o'i flaen, wedi mynd mewn chwinciad."
Dywedodd ei bod yn falch eithriadol bod eraill wedi elwa o organau Ethan wedi ei farwolaeth, "ond dyw hynny ddim yn gwneud hi'n haws i fyw hebddo yma yn y byd. Mae fy nghalon wedi torri."
Roedd penderfyniad y diffynnydd i yrru'r car gan wybod bod y prif oleuadau'n ddiffygiol yn un "hynod a di-hid", medd y barnwr.
"Yna, gan yrru ar gyflymder o 60 mya, fe wnaethoch chi ddewis, am ryw reswm anesboniadwy, i ddechrau cyfri'r arian gawsoch chi eich talu... mae teulu wedi cael eu chwalu gan ddamwain hollol osgoadwy."
Gan gydnabod ei henw da cyn y drosedd, fe'i dedfrydodd i bum mlynedd o garchar, a'i gwahardd rhag gyrru am saith mlynedd a hanner.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd Gleave hefyd wedi defnyddio'r ffôn, yn ddi-gyffwrdd, am rai munudau cyn y gwrthdrawiad a rhoi gorchymyn i'w theclyn sat nav.
"Doedd dim parch gan Gleave at unrhyw un arall y noson honno," meddai'r Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd y llu.
Mynegodd y gobaith y bydd ei dedfryd yn "rybudd clir i unrhyw un sy'n cymryd risg trwy yrru heb dalu sylw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020