Omicron: Cynlluniau Dolig yn y fantol am flwyddyn arall?
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ofnau bod cynlluniau Nadolig yn y fantol am yr ail flwyddyn yn olynol yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Mae rheolau coronafeirws Cymru bellach yn cael eu hadolygu bob wythnos yn lle bob tair wythnos mewn ymateb i'r amrywiolyn newydd.
Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi dweud ei bod yn rhy gynnar i ddweud a fydd cyfyngiadau dros y Nadolig.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi annog pobl i wneud profion llif unffordd cyn mynd i siopa, mynd i bartïon Nadolig neu ymweld ag eraill.
Maen nhw hefyd yn awgrymu bod pobl yn gwisgo masgiau mewn tafarndai a bwytai, pan nad yw pobl yn bwyta.
Y llynedd cafodd cynlluniau i lacio rheolau Covid rhwng 23 a 27 Rhagfyr i ganiatáu i bobl gwrdd ag anwyliaid eu dileu ychydig ddyddiau ynghynt.
Yn lle hynny, dim ond dwy aelwyd oedd yn cael cwrdd, a hynny ar Ddydd Nadolig yn unig.
'Meddwl am y darlun ehangach'
Mae'r perfformiwr a'r ymgyrchydd unigrwydd Carys Eleri wedi treulio llawer o'r pandemig yn byw gyda'i mam yn ardal Tymbl Uchaf yn Sir Gaerfyrddin.
Mae hi wedi cynllunio Nadolig teuluol bach a diodydd gyda ffrindiau.
Ond mae wedi dod i delerau â'r ffaith bod y pandemig yn golygu nad yw trefniadau wastad yn digwydd fel sydd wedi'i gynllunio.
"Nes i dreial gostwng fy nisgwyliadau a bod yn eithaf hamddenol ynglŷn â hyn a meddwl am y darlun ehangach - rwy'n ddiogel ac yn iach ac mae fy nheulu'n iach," meddai.
Dywedodd iddi gadw ei hysbryd yn uchel trwy ddechrau rhedeg a threulio mwy o amser yng nghefn gwlad trwy'r pandemig.
Dywedodd ar hyn o bryd y dylai pobl geisio peidio â chanslo cynlluniau maen nhw wedi'u gwneud gydag eraill.
"Yn enwedig os ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, efallai eu bod nhw wedi bod yn edrych ymlaen i'ch gweld chi," meddai.
"Rwy'n berson sengl, mae gan bobl o'ch cwmpas deuluoedd enfawr ac os ydyn nhw'n canslo rhywbeth mae eu bywyd yn brysur beth bynnag.
"Efallai fy mod i'n edrych ymlaen yn fawr at y rhyngweithio yna, felly os ydych chi'n canslo rhywbeth, aildrefnwch rywbeth yn eithaf cyflym - gofalwch am eich gilydd, byddwch yn ymwybodol iawn o sefyllfaoedd eich gilydd."
Anogodd bawb hefyd i anfon cardiau Nadolig eleni.
"Rydyn ni wedi arfer â negeseuon testun, e-byst, cyfryngau cymdeithasol, anfon cwpl o emojis coed Nadolig ar Facebook... ond dyw hynny ddim yn rhoi unrhyw gysylltiad â'r person hwnnw," meddai.
"Galwadau ffôn a chardiau Nadolig - gwnewch y pethau hynny os gwelwch yn dda."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021