Degawd o garchar am ladd dyn 20 oed 'diniwed' ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Brandon Luke SillenceFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr bod Brandon Sillence 'yn chwilio am drwbl' cyn ymosod ar Dean Skillin a'i gefnder

Mae dyn lleol wedi cael dedfryd o 10 mlynedd o garchar am ladd dyn ifanc o Gaernarfon gydag un dwrn mewn ymosodiad direswm tu allan i westy ym Mangor.

Roedd Brandon Sillence, 25, wedi pledio'n euog i ddynladdiad Dean Skillin, 20, tu allan i Westy Waverley, ger stesion y ddinas, ar 19 Medi 2020.

Dyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau ei fod yn ddieuog o lofruddiaeth.

Dywedodd y barnwr ei fod yn "ceisio ymddangos fel dyn pwysig" pan ddyrnodd Mr Skillin, oedd "yn ddyn ifanc ag enw da eithriadol".

'Roeddech chi'n ymladdgar'

"O glywed y dystiolaeth yn yr achos hwn, rwyf yn gwbl glir eich bod y noson honno, am resymau y gallwch chi yn unig eu hesbonio, yn chwilio am drwbl," meddai'r Barnwr Geraint Walters wrth y diffynnydd.

"Roeddech chi'n ymladdgar yn y cyfnod cyn y troseddau a gafodd eu cyflawni."

Clywodd y llys bod yr heddlu wedi cael eu galw i'r gwesty am resymau nad oedd yn ymwneud â'r achos, a bod Sillence wedi arddangos agwedd ymosodol tuag atyn nhw.

Gyda'r heddlu'n dal yno, ac yn fuan wedi i swyddogion siarad gyda Sillence, fe ymosododd ar Dean Skillin a'i gefnder, Taylor Lock.

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd y barnwr fod Sillence wedi sarhau un o'r swyddogion heddlu a "30 eiliad yn ddiweddarach roeddech chi wedi dod â bywyd un dyn i ben ac anafu dyn arall".

Ychwanegodd: "Ni allai'r heddlu hyd yn oed fod wedi eich hatal rhag gwneud yr hyn roeddech chi am ei wneud.

"Fe wnaethoch chi ymosod ar y ddau ddyn yma pan roeddech chi, i bob pwrpas, wedi eich hamgylchynu gan swyddogion heddlu - heb falio dim."

Aros i wylio wedi'r ymosodiad

Dywedodd bod y weithred a laddodd Mr Skillin yn syth "yn ddwrn nerthol gan ddyn oedd yn fedrus yn hynny o beth".

Cyfeiriodd at y ffaith bod Sillence wedi aros a gwylio pobl yn ceisio helpu Mr Skillin.

"Mae'r diffyg syndod hwnnw'n dangos eich bod wedi bwriadu achosi niwed sylweddol i'r dioddefwr," meddai, gan ychwanegu bod Mr Skillin "erioed wedi peri trafferth i'w deulu, i'r heddlu nac i chithau chwaith".

Fe wnaeth y barnwr "wrthod yn llwyr" honiad Sillence ei fod wedi ymosod ar y ddau am ei fod yn credu bod cyfaill ar fin dioddef ymosodiad.

Doedd plentyndod "ofnadwy" y ddiffynnydd, meddai, ddim yn esbonio'r hyn a wnaeth nag yn ei esgusodi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd rhieni Dean Skillin ddatganiadau dirdynnol i'r llys am effaith ei farwolaeth

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd tad Dean Skillin, Harry nad oedd gan ei fab "yr un asgwrn drwg yn ei gorff".

Dywedodd: "Dwi'n teimlo bod fy nghalon wedi ei rwygo ohona'i.

"Dwi'n teimlo na alla'i gario ymlaen. Does neb yn deall sut dwi'n teimlo."

Datgelodd ei fod yn yfed gormod wedi'r farwolaeth ac wedi dod â pherthynas i ben, a bod effaith arno wrth ei waith.

'Anobaith llwyr a dicter anferthol'

Dywedodd mam Dean, Rebecca White ei bod yn meddwl am ei farwolaeth "drwy'r adeg", gan deimlo popeth "o anobaith llwyr i ddicter anferthol".

Mae'r galar, meddai "yn dal mor gignoeth a phoenus" â noson y farwolaeth 15 mis yn ôl.

Disgrifiodd gorfod dweud wrth un o'i phlant eraill na fyddai "un o'r brodyr mawr gorau gallwch chi ei ddymuno" yn dod adref.

"Roedd bywyd Dean mor llawn ac roedd ganddo gymaint o gynlluniau ar gyfer y dyfodol," meddai. "Roedd Dean wastad yn gwneud ei orau ym mhopeth a wnaeth."

Wedi'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Jon Russell o Heddlu Gogledd Cymru bod Sillence "wedi cymryd bywyd dyn diniwed".

Ychwanegodd: "Er na allai unrhyw ddedfryd dod â Dean yn ôl, rwy'n gobeithio bod yr hyn a ddigwyddodd heddiw yn rhoi rhywfaint o gyfiawnder i'w deulu."