'Wnes i wneud tiffin siocled i Desmond Tutu'
- Cyhoeddwyd
Llond plât o frechdanau, sosej-rôl a thiffin siocled wedi ei weini ar y llestri tsieina gorau. Dyna'r wledd brofodd Desmond Tutu pan aeth draw am de bach i gartref Bethan Richards yn Rhydaman yn 1986.
Newydd droi'n bymtheg oed oedd Bethan, ddaeth yn adnabyddus fel cantores y grŵp Diffiniad, pan ddaeth yr ymwelydd byd-enwog draw am de.
Yn dilyn marwolaeth yr Archesgob Desmond Tutu 'nôl yn Rhagfyr 2021, mae hi'n rhannu ei hatgofion o'r eicon heddwch a'r ymgyrchydd gwrth-apartheid gyda Cymru Fyw.
Doedd gen i ddim syniad person mor anhygoel oedd e ar y pryd. Roedd e gyda ni am ei fod wedi bod yn pregethu yng nghapel Gellimanwydd yn Rhydaman a fe ddaeth i'n tŷ am ginio cyn mynd i Heathrow, a dychwelyd i Dde Affrica.
Roedd wedi bod yn annerch yng ngŵyl Teulu Duw yn Llanelwedd y diwrnod cynt, a fe fu Mam yn eithaf blaenllaw wrth drefnu'r ŵyl. Roedd hi'n gweithio i Cyngor Eglwysi Cymru ar y pryd, sef Cytûn erbyn hyn.
Mae cywilydd gyda fi i ddweud, ond doedd dim llawer o ddiddordeb gyda fi mewn gwleidyddiaeth yn bymtheg oed. O'n i'n gwybod am apartheid a'r sefyllfa yn Ne Affrica ond do'n i ddim cweit yn deall pa mor anferth oedd Desmond Tutu. Ac roedd e'n anferth bryd hynny, yn wleidyddol ac yn ddyngarol achos roedd e wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel ym 1984, dim ond dwy flynedd cyn iddo fe ddod draw i'n tŷ ni!
Gŵyl Teulu Duw
Pregeth a thiffin yn Rhydaman
Ddoth e i Rydaman achos roedd e'n aros dros nos gyda'r Parch Noel Davies yn Abertawe, un o drefnwyr Gŵyl Teulu Duw a boss Mam. Wedyn y bore Sul ar ôl penwythnos Teulu Duw, daeth e i bregethu mewn oedfa yng nghapel Gellimanwydd. Oedd e'n orlawn, doedd dim lle i bawb yn y capel. Roedd rhaid i fi sefyll yn y cyntedd.
Wedyn ar ôl yr oedfa ddoth e i'n tŷ ni i gael bwyd cyn mynd i'r maes awyr yn Heathrow. Oedd rhyw 15-20 o bobl yn ein cartref; nathon ni wahodd pobl i ddod draw achos wrth gwrs, roedd e'n big deal.
Wy'n cofio ryshan o gwmpas gyda Mam i 'neud bwyd, ac o'n i wedi gwneud rhyw fath o tiffin siocled y diwrnod cynt i Desmond Tutu ac o'n i'n meddwl fod e'n delicious.
Wy'n cofio mynd i'r ysgol y bore Llun wedyn a dweud wrth Bev, fy ffrind: "Beth os i fi wedi rhoi gwenwyn bwyd i Desmond Tutu a bydda i wedi ei ladd e!" a Bev yn dweud wrtha i i beidio becso.
Beth arall wnaeth fy nharo oedd ei fod e'n ofnadwy o fyr. I fi'n fyr, wy'n bum troedfedd ac un modfedd ond doedd e ddim llawer talach na fi, roedd e'n fach iawn. Ond roedd ganddo wên anferthol.
Roedd e wir yn lico ei fwyd, a wedi peilo ei blât. Os fi'n cofio'n iawn wnaeth Mam wneud doggy bag iddo fe fynd gydag e i Heathrow. Fi'n cofio'r bwyd i gyd; y vol-au-vents, brechdanau a sausage rolls.
Wy hefyd yn cofio eistedd yn y 'stafell fyw a nath e annerch ni i gyd. Eto doedd y geiniog ddim wir yn cwympo yn bymtheg oed pa mor eiconig oedd y boi yma. Ar ôl siarad gyda ni, wnaeth e adael y tŷ mewn côt law fach, aeth e mewn i gar y Parch Noel Davies, rowlo lan mewn pelen fach yn y sedd gefn, rhoi blanced dros ei hun a mynd i gysgu.
Mae'n debyg iddo gysgu yr holl ffordd o Rydaman i Heathrow!
Cyfarfod Tutu heb newid bywyd
Mae'n golygu llawer mwy nawr wrth edrych yn ôl, ond fel merch yn ei harddegau (gyda pherm gwael!) roedd mawredd a phwysigrwydd cael enillydd gwobr Nobel yn ein tŷ ddim wedi fy nharo tan rai blynyddoedd wedyn, wrth i mi edrych ar y newyddion a sylweddoli bod y ffenomena byd eang yma wedi joio sausage rolls yn ein cartref.
Licen i weud bod e di newid ym mywyd i ond sa i'n credu nath e achos wnaeth e ddim registro yn iawn ar y pryd. Pan gafodd Mandela ei ryddhau ac wrth i apartheid ddod i ben wnes i sylwi pa mor bwysig oedd e. Daeth Desmond Tutu yn rhan o ddiwylliant poblogaidd mewn ffordd. Os bydde rhywun yn ennill gradd 2:2, bydde pobl yn dweud "Ges i Tutu!" erbyn y 90au.
Atgof wnaeth aros yn fy mhlentyndod i oedd hon am amser hir. Wrth fynd yn hynach mae'r digwyddiad wedi dod yn llawer pwysicach i fi.
Hefyd o ddiddordeb: