Dyn o flaen llys mewn cysylltiad â marwolaeth ei chwaer

  • Cyhoeddwyd
Amanda SelbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amanda Selby tra ar wyliau gyda'i theulu yn Nhywyn

Mae dyn 19 oed wedi ymddangos eto mewn llys mewn cysylltiad â marwolaeth ei chwaer 15 oed mewn parc gwyliau yn Sir Conwy.

Bu farw Amanda Selby yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ar 31 Gorffennaf y llynedd.

Mae Matthew Selby, o Ashton-under-Lyne, Manceinion, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Iau trwy gyswllt fideo o Garchar Y Berwyn, Wrecsam.

Bydd yn rhaid iddo ddod gerbron y llys mewn person ar gyfer gwrandawiad ple ddydd Llun 7 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig