Sut mae cymryd y cam nesaf i'r Gymraeg yn Sir y Fflint?

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion ym mlwyddyn 6 Ysgol Croes Atti, safle Shotton. Carys, Azaria, Abigail a Amelia.
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion ym mlwyddyn 6 Ysgol Croes Atti yn Shotton; Carys, Azaria, Abigail ac Amelia

Bydd disgyblion yn trosglwyddo o'r ysgol Gymraeg yn Shotton i addysg uwchradd yn ddiweddarach eleni - a hynny am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2014.

Dan adain Ysgol Croes Atti - sydd â safle mwy yn Y Fflint - mae'r ysgol wedi tyfu ac mae dros 70 o blant yno bellach.

Ac mae'n fenter allai gael ei hefelychu cyn hir yn ardal Bwcle a Mynydd Isa, lleoliad tebygol ysgol cyfrwng Cymraeg nesa'r sir.

Cafodd bwriad i ddatblygu'r ddarpariaeth yno ei gadarnhau yn nrafft diweddar Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg yr awdurdod.

Ond wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd ymgyrchwyr iaith bod angen i gynghorau ar draws y wlad "symbylu'r galw" a "hyrwyddo" er mwyn creu mwy o siaradwyr.

Strategaeth addysg

Yn Shotton mae'r pennaeth, Gwyn Jones, yn dweud y bydd hi'n "ddiwrnod trist ofnadwy" pan fydd y llwyth cyntaf yn gadael am Ysgol Maes Garmon - ond bydd o hefyd yn "goblyn o falch".

"Mi agorwyd yr ysgol gyda 10 o ddisgyblion meithrin ddim yn medru Cymraeg o gwbl," meddai.

"Mae wedi bod yn heriol ar adegau. 'Dan ni wedi cwffio, brwydro i gael cyllid i ddatblygu'r safle. Fel 'dan ni'n gweld o'r WESP [Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg] presennol, mae hynny wedi dod yn ffrwyth."

Disgrifiad o’r llun,

"Dan ni wedi cwffio, brwydro i gael cyllid i ddatblygu'r safle," meddai Pennaeth Ysgol Croes Atti, Gwyn Jones

Y "ffrwyth" dan sylw ydy buddsoddiad o fwy na £1m mewn adeiladau ar safle'r ysgol yng nghanol Shotton - gwaith sydd ar y gweill.

Ond gyda chynghorau ar draws Cymru wedi gorfod cyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg i'r llywodraeth erbyn diwedd Ionawr, mae'r golygon mewn rhai ardaloedd ar y genhedlaeth nesaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn strategaeth Sir y Fflint mae cadarnhad o'u bwriad i sefydlu ysgol ar gyfer ardal Bwcle a Mynydd Isa.

'Pam ddim ysgol Gymraeg?'

"Mae 'na nifer o deuluoedd Cymraeg yn byw yma," meddai Vanessa Leach, sy'n byw ym Mwcle ac yn gweithio yn y byd addysg.

"Un ai [teuluoedd] Cymraeg iaith gyntaf, sydd eisiau gyrru eu plant i ysgolion Cymraeg, neu teuluoedd sydd eisiau rhoi'r cyfle yna i'w plant.

"Ac mae Bwcle yn tyfu'n sydyn iawn ar hyn o bryd - mae 'na dai yn cael eu codi ym mhobman yma. Felly mae angen mwy o ysgolion, a pham ddim cael un cyfrwng Cymraeg?"

Tu hwnt i Fwcle, mae'r cyngor sir yn nodi bwriad i sefydlu canolfan drochi i hwyr-ddyfodiaid, yn ogystal â sicrhau bod llai o lefydd gwag mewn ysgolion ar hyd y sir.

Mae prosiectau eraill eisoes ar waith, gan gynnwys ehangu ac adnewyddu Ysgol Glanrafon yn Yr Wyddgrug a chodi adeilad pwrpasol newydd yn ardal Oakenholt i gymryd lle safle presennol Ysgol Croes Atti, Y Fflint.

'Awydd gwirioneddol' i symud ymlaen

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi ymateb i bob un cynllun strategol drafft holl gynghorau Cymru, ac yn teimlo fod diffyg manylder mewn sawl un, er gwaethaf "awydd gwirioneddol i symud addysg Gymraeg ymlaen".

"Mae cynyddu capasiti yn un peth - ond nid capasiti mae'r cynlluniau hyn yn mynd i fod yn ei fesur, ond y plant o fewn y system," meddai Elin Maher o'r mudiad.

"Felly mae 'na elfen ychwanegol fan hyn, sef symbylu'r galw - hynny yw, creu system addysg o fewn sir sydd yn denu rhieni a phlant. Ac felly mae'r elfen hyrwyddo yn mynd i orfod cymryd cam pellach."

Disgrifiad o’r llun,

Safle Shotton o Ysgol Gymraeg Sir y Fflint

Mae arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn dweud eu bod nhw'n cydweithio gyda phartneriaid fel Mudiad Meithrin a'r Urdd i greu'r galw hwnnw - ac mae o'n credu bod lle pwysig i'r ardal os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

"Pan welsom ni dystiolaeth bod dim digon o gapasiti, fel yn achos Ysgol Glanrafon yn Yr Wyddgrug, mi wnaethon ni weithio gyda'r llywodraeth i ehangu ac adnewyddu'r ysgol i greu mwy o le," meddai'r Cynghorydd Ian Roberts.

"Ac wrth gwrs mi fuasen ni'n gwneud hynny ble bynnag fo'r angen.

"Ond dwi'n meddwl hefyd bod gan siaradwyr Cymraeg ran i'w chwarae yn hyn… Os y cawn ni filiwn o siaradwyr, yna 'dan ni'n fwy tebygol o gyrraedd y targed hwnnw drwy weithio mewn llefydd fel Sir y Fflint, sydd â phoblogaeth fawr o fewn y gogledd, na thrwy anelu am gynnydd bach yn y gogledd-orllewin."

Gwersi i'w dysgu

Yn Shotton, mae Gwyn Jones yn annog y rheiny fydd ynghlwm ag ysgol newydd yn ardal Bwcle i "gymryd cyngor".

"Mae 'na lot o bethau 'dan ni wedi eu dysgu - rhai pethau 'san ni'n eu gwneud eto, rhai 'san ni ddim," meddai.

"Yn sicr rhaid i ti hybu'r Gymraeg 'efo dy ddisgyblion, ac mae'n rhaid i ti gael staff o'r ansawdd orau ti'n gallu ei gael," ychwanegodd.

Pan ddaw mis Medi, ffarwelio â'r cyntaf o'u graddedigion bach fydd Mr Jones a staff safle Shotton Ysgol Croes Atti.

Mae'n bosib, ymhen rhai blynyddoedd, y bydd staff yn ardal Bwcle yn gwneud rhywbeth tebyg.

Pynciau cysylltiedig