Codi cabanau gwyliau ger Merthyr yn 'warthus'

  • Cyhoeddwyd
cabanau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cabanau yn cael eu hadeiladu ar safle Canolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmni gwyliau Forest Holidays wedi bod yn amddiffyn cynllun ar y cyd i godi 40 o gabanau pren "eco sensitif" ar safle ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog .

Mae'r cabanau yn cael eu hadeiladu ar safle Canolfan Ymwelwyr Garwnant yng nghanol coedwig Coed Taf Fawr wrth ymyl yr A470 ger Merthyr Tudful.

Dywedir y bydd y prosiect yn dod â "swyddi gwerthfawr, mewnfuddsoddiad a buddion economaidd i dde Cymru ac y bydd y cabanau yn gwella'r amgylchedd naturiol oherwydd eu dyluniad a'u rheolaeth sensitif".

Y bwriad yw creu hyd at 60 o swyddi a rhoi hwb blynyddol o £1.5m i'r economi leol.

Ffynhonnell y llun, Efan ap Ifor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan ap Ifor yn byw gerllaw ac yn dweud nad yw'r cynllun yn eco-gyfeillgar

'Parc i bobl gyfoethog?'

Ond mae Efan ap Ifor sy yn byw gyda'i deulu ym mhentref Penderyn ger y safle yn dweud fod y cynllun yn "warthus".

Mae ef a'i wraig a'u tri o blant yn mynd yno yn aml i gerdded ac mae'n poeni yn fawr am effaith posib y datblygiad ar fywyd gwyllt yn lleol "yn enwedig o gofio bod y safle mewn Parc Cenedlaethol", meddai.

Dywed na ddylai'r parc roi "blaenoriaeth i barc chwarae ac antur i ymwelwyr cyfoethog".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn destun pryder mawr i Efan a'i deulu

Proses graffu 'drylwyr'

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): "Ry' ni yn ystyried o ddifri ein rôl wrth warchod a gwella amgylchedd Cymru.

"Felly mae unrhyw ddatblygiad ar dir yr ydym yn ei reoli yn wynebu proses o sgrwtineiddio trylwyr a dyw ein partneriaeth gyda Forest Holidays yn Ngarwnant, ddim yn eithriad i hyn."

Wrth gyhoeddi'r cynllun fe ychwanegodd Mr Bown: "Un o'n rolau allweddol yw rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ffordd sydd o fudd i amgylchedd, pobl ac economi Cymru.

"Mae'r bartneriaeth hon gyda Forest Holidays, lle mae eu lleoliadau cabanau wedi'u dylunio i ddiogelu a gwella coedwigoedd, yn enghraifft wych o hyn."

Mae CNC yn rheoli tua 126,000 hectar o goetir ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n gorchuddio 6% o dir Cymru.

Mae nhw nawr yn dweud eu bod yn awyddus i annog mwy o "gyfleoedd masnachol cynaliadwy sydd o fudd i amgylchedd Cymru, i bobl ac i fyd natur - nawr ac yn y dyfodol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan ap Ifor a'i deulu yn mwynhau cerdded a threulio amser yng nghoedwig Taf Fawr

Yn ystod pandemig Covid-19 mae parciau cenedlaethol Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wrth i fwy o bobl fanteisio ar y cyfle i fynd ar deithiau dydd a gwyliau yn nes at adref.

Dywedodd Jodie Bond, Rheolwr Materion Cyhoeddus Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bod yr awdurdod yn "croesawu datblygiad gwledig cynaliadwy o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog".

Ond, mae Efan ap Ifor yn anhapus bod y cabanau wedi cael caniatâd cynllunio gan y parc ac yn disgrifio'r prosiect fel "twristiaeth ddinistriol" .

'Buddion economaidd'

Yn ôl llefarydd ar ran awdurdod cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fe gafodd y cais ei ystyried yn "ofalus iawn, gan edrych ar yr effaith economaidd-gymdeithasol ynghyd â'r effaith ar yr amgylchedd naturiol".

"Rydyn ni yn credu fod y cynllun o fudd ac yn helpu i gyflwyno ein strategaeth twristiaeth gynaliadwy," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd cabanau cwmni Forest Holidays ym Meddgelert yn 2018

Mae Forest Holidays yn rhedeg 11 lleoliad ar draws y DU mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Forestry England, a Forestry & Land Scotland.

Agorwyd eu safle cyntaf yng Nghymru ym Meddgelert ym mis Mehefin 2018. Garwnant, Bannau Brycheiniog fydd ail leoliad y cwmni yng Nghymru a'r chweched lleoliad mewn Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Prif Weithredwr Forest Holidays, Bruce McKendrick: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud cyfraniad gwerthfawr ac eco-sensitif i'r economi dwristiaeth gynyddol yn Ne Cymru, creu swyddi lleol newydd, gwelliannau i amgylchedd y goedwig ac fe fydd buddion economaidd i ardal gyfagos yn sgil ein lleoliad newydd."