Clwb Pêl-droed Wrecsam i brynu tir stadiwm y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod yn y broses o brynu tir stadiwm y Cae Ras.
Prifysgol Glyndŵr sydd wedi bod yn berchen ar y tir (y freehold) ers 2011, wedi cyfnod o ansicrwydd o ran perchnogaeth.
Mae gan y clwb berthynas dda gyda'r brifysgol, a'r clwb sydd eisoes yn gyfrifol am reoli'r stadiwm wedi iddo arwyddo les 99 mlynedd yn 2016.
Ond dywedodd y perchnogion, y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y bydd cael bod yn berchen ar y Cae Ras yn eu rhoi "â rheolaeth dros ein tynged ein hunan".
Daw'r cyhoeddiad flwyddyn yn union ers i Reynolds a McElhenney ddod yn berchnogion swyddogol ar y clwb.
Dywedodd y perchnogion eu bod wedi bod yn trafod y pryniant gyda Phrifysgol Glyndŵr, a'u bod yn disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth.
"Roedd hi'n amlwg hyd yn oed cyn i ni brynu Wrecsam fod dod â pherchnogaeth dros y Cae Ras yn ôl i'r clwb yn bwysig dros ben i'r cefnogwyr," meddai Reynolds a McElhenney mewn datganiad.
"Does 'na ddim yn fwy symbolaidd na bod yn berchen ar eich cartref ei hun, a thra bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wastad wedi cefnogi ein gweledigaeth, rydyn ni wrth ein boddau i fod â rheolaeth dros ein tynged ein hunan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021