Gwobrau'r Selar: Gwobr Cyfraniad Arbennig i Tecwyn Ifan
- Cyhoeddwyd
Mae'r Selar wedi cyhoeddi mai'r cerddor Tecwyn Ifan sydd wedi ennill Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar eleni.
Fe gafodd y newyddion ei gyhoeddi yn ystod sgwrs arbennig a ddarlledwyd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher.
Mae cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg Y Selar yn cynnal gwobrau cerddorol blynyddol ers 2009.
Ffurfiodd Tecwyn Ifan ei fand cyntaf Perlau Taf ar ddiwedd y 1960au pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Dâf.
Aeth ymlaen wedyn i ffurfio'r grŵp Ac Eraill gyda thri cherddor amlwg arall sef Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.
Chwalodd y grŵp ym 1975, ac fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio fel artist unigol yn fuan wedi hynny.
Rhyddhaodd ei albwm cyntaf Y Dref Wen ym 1977 - record sy'n cael ei chydnabod fel un o glasuron mwyaf yr iaith Gymraeg.
Daeth cyfres o recordiau hir i ddilyn ar ddiwedd y 70au a dechrau'r 80au, ac mae wedi rhyddhau deg o albyms hyd yma.
Dros y blynyddoedd mae wedi rhyddhau clasuron gan gynnwys 'Y Dref Wen', 'Stesion Strata', 'Bytholwyrdd', 'Ofergoelion' a 'Sarita' i enwi dim ond rhai.
Aeth Aled Hughes i'w gartref yr wythnos ddiwethaf i recordio sgwrs, gan ddatgelu ar ddiwedd y sgwrs honno fod Tecwyn wedi cael ei wobrwyo eleni.
Bydd rhagor o enillwyr Gwobrau'r Selar yn cael eu datgelu ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru nos Fercher a nos Iau, 17-18 Chwefror.
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2017