'Mae'n bwysig bod pobl yn gallu gweld fi'n llwyddo'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Stori Jalisa: 'Dwi yn teimlo fel role model ddu'

"Dwi'n teimlo fel 'role model' ddu. Mae 'na lot o blant o liw yn yr ardal ac mae'n neis bo' nhw'n gallu gweld rhywun llwyddiannus yn dod o'r ardal."

Mae Jalisa Phoenix-Roberts wedi agor academi ddawns a theatr ar hen stad ddiwydiannol yn Llansawel ger Castell-nedd, gyda 112 o blant bellach yn dod drwy'r drysau.

Gyda'r bwriad o ddatblygu'r busnes ymhellach, mae Jalisa'n gobeithio cael cefnogaeth ar ôl dechrau'r academi heb unrhyw gymorth cychwynnol.

O'r 5,000 o fusnesau newydd mae Llywodraeth Cymru wedi'u cefnogi dros y pum mlynedd ddiwetha', roedd 58% wedi eu cychwyn gan fenywod a 10% gan bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

'Anoddach i rai'

Yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, mae Busnes Cymru yn gwneud gwaith da yn hybu entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc ac yn cefnogi busnesau newydd a bach.

Ond mae'n cydnabod bod y sefyllfa'n gallu bod yn anoddach i rai o fewn cymdeithas wrth ddechrau busnes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Rydych chi'n fwy tebygol o fethu na llwyddo os ydych chi'n edrych fel fi," medd Vaughan Gething

"Rydych chi'n fwy tebygol o fethu na llwyddo os ydych chi'n edrych fel fi, beth bynnag yw eich talent," meddai.

"Byddai'n syndod, a dweud y gwir, pe na bai'r agweddau hyn yn bodoli ym mhob maes yn y gymdeithas. Dyma'r her i ni."

Mae Jalisa yn awyddus i greu cyfleodd yn ei bro enedigol, Port Talbot, a hefyd sicrhau bod yna fwy o gyfleoedd i blant drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae'n rili bwysig bod pobl yn gallu gweld fi'n llwyddo a hefyd bod y plant yn gallu gweld rhywun o'r ardal yn gallu gwneud e hefyd - bo' chi'n gallu 'neud beth bynnag chi mo'yn 'dach bywyd chi.

"A hefyd 'neud pethe'n yr iaith Gymraeg, mae'n rili bwysig i fi. Mae'n bwysig bod yr ardal yn cael mwy o bethau yn Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Seren, Olivia ac Elsie wrth eu bodd yn yr academi ddawns

Mae'r plant sy'n aelodau o'r academi wrth eu boddau gyda'r dosbarthiadau ac mae Olivia sy'n 10, Elsie, 9 a Seren, 7, yn astudio dawns a drama yno sawl gwaith yr wythnos.

"Ti'n gallu dawnsio, ti'n gallu creu ffrindiau newydd a ti'n gallu bod mas o'r tŷ," meddai Olivia.

"Wy'n dwli ar ddrama mwy na unrhyw beth. Ni'n neud drama ac weithiau'n dysgu sioe newydd," dywedodd Seren.

Mae Busnes Cymru'n darparu gwasanaeth mentora yn ogystal â rhoi cyngor mentergarwch i gymunedau ffoaduriaid mewn eglwysi a mosgiau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Maggie Ogunbanwo o Benygroes fusnes yn cynhyrchu bwyd Affricanaidd

Un sy'n mentora eraill yw Maggie Ogunbanwo o Benygroes, ger Caernarfon, sydd wedi byw yn y gogledd ers 15 mlynedd.

Mae ganddi fusnes sy'n cynhyrchu bwyd Affricanaidd ac mae'n gwneud gwaith pontio rhwng adran bwyd a diod Llywodraeth Cymru a chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

"Mae help i fusnesau bwyd a diod drwy Menter a Busnes, a fi hefyd," meddai.

"Ar hyn o bryd ma' fy networks i wedi tyfu a dwi'n gwybod lle mae'n bosib cael help."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi ymrwymo i gefnogi mentergarwch ymhlith menywod a chydnabod nodweddion, diwylliant ac amgylchiadau amrywiol.