Pum munud gyda Menna Elfyn

  • Cyhoeddwyd
Menna ElfynFfynhonnell y llun, Menna Elfyn

Mae hi'n un o brif lenorion Cymru ers yr 1970au gyda'i gwaith wedi ei gyfieithu i ddeunaw o ieithoedd, a thrwy gydol mis Mawrth Menna Elfyn fydd Bardd y Mis ar Radio Cymru.

Yn ystod y 70au a'r 80au fe fuoch yn ymgyrchu'n ddi-drais dros Gymdeithas yr Iaith a CND, a chael eich arestio a'ch carcharu. Pa faterion heddiw sy'n eich gwneud chi'n danbaid am newid?

Wel yr un math o gonsyrn sydd gennyf heddiw at y byd ag oedd ddegawdau yn ôl sef y llyfr Silent Spring Rachel Carson a'i phroffwydoliaeth bwysig. Roedd rhywun wastad yn meddwl bryd hynny pe baem yn cael gwared ar ryfeloedd, a'r holl gemegau yn y ddaear y byddai yna well cyflwr i'n hamgylchedd ond mae ein trachwant a'n diofalwch am y ddaear yn eithafol bellach.

Ffynhonnell y llun, US Fish and Wildlife Services
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Carson, awdur y llyfr gwyddonol Silent Spring, arweiniodd at newid yn y defnydd o gemegau gan amaethwyr yr Unol Daleithiau

Rhaid byw mewn gobaith wrth gwrs yng ngallu creadigol y ddynol-ryw i leddfu ar y distryw a darganfod dulliau arbrofol newydd i achub y sefyllfa. Rwy'n sgrifennu hwn ar ddiwrnod pan yw corwynt Eunice ar led ac yn falch o lochesu yn fy myfyrgell.

Ond beth am werinoedd tlawd y byd sydd heb gartrefi cryf a chynnes? Ar un o'm silffoedd, mae pamffled fechan a gyhoeddwyd gan SERA - yn 1973 - Socialism & Ecology gan Raymond Williams. Geiriau o gallineb mewn byd sydd yn mynd yn fwy didostur at y gwan a'r tlawd.

Rydych chi wedi sgwennu geiriau i nifer o ganeuon - o rai pop/gwerin yn yr 1960au i libreti - beth ydi'r apêl?

Dechreuais fel un yn canu mewn band, yn canu'r delyn a'r gitâr ac yn ysgrifennu geiriau ar gyfer y gerddoriaeth (Helen Howells oedd yn gwneud y gerddoriaeth). Wedi blwyddyn neu ddwy, a record, Rhoddais Fryd (Y Trydan!) fe chwalodd y grŵp wrth inni fynd i wahanol golegau.

Ffynhonnell y llun, Recordiau Dryw/Hawlfraint Sain
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 1968, rhyddhawyd sengl hir gan Y Trydan flwyddyn yn ddiweddarach

Ond rwy wastad wedi fy nenu at ysgrifennu libreti ac wedi bod yn ffodus i dreulio cyfnod yn Efrog Newydd yn ysgrifennu Symffoni Gorawl adeg y Mileniwm 2000, ac yn dilyn hynny, cydweithio gyda chyfansoddwyr eraill o America, ac yng Nghymru: Karl Jenkins, Pete Stacey ac eraill ond cydweithio'n agos gyda Pwyll ap Siôn: o oratorio i opera Gymraeg gyda darnau Saesneg 'Gair ar Gnawd' yn 2015.

Mae fy marddoniaeth gobeithio yn 'canu' mewn modd arall a mynnaf glywed ei rhythmau yn y mesur rhydd. Dyw'r gerdd ddim yn orffenedig nes imi ei chlywed fel sgôr sy'n canu a chyffroi gobeithio.

Gwrandewch ar Rhoddaist Fryd gan Y Trydan:

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Various Artists - Topic

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Various Artists - Topic

Rydych chi'n awdur nofelau i blant, wedi bod yn Fardd Plant Cymru, ac erbyn hyn yn nain i nifer o blant… sut blentyn oeddech chi?

Sut blentyn oeddwn i? Swil iawn iawn, ac ofnus. Un yn caru'r cyrion yn caru fy nghwmni fy hun - mae cyfansoddi'n hawlio hynny - er rwy wrth fy modd fel 'mamo' i bedwar o wyrion - dau fachgen a dwy ferch. Un sy'n gorfod cyhoeddi a darllen ei gwaith ydw i - nid yw'n dod yn reddfol. Haws darllen i gannoedd weithiau nag i griw bach.

Pa mor bwysig ydi cyfieithu gwaith awduron Cymraeg i ieithoedd eraill?

Rwy wedi bod yn ffodus i gael fy nghyfieithu i ugain o ieithoedd a dwy gyfrol arall yn y wasg eleni - un yn Swedeg (detholiad) a'r llall yn Sbaeneg (Bondo) ac mae cyfrol Arabeg ar y gweill a chyfieithwyr o Tseina a gyhoeddodd gyfrol fechan o'm gwaith (gwasg yn Hong Kong) am wneud un arall, swmpus. Rwy'n petruso ynghylch yr olaf o gofio natur fy ngwaith a'r sefyllfa gymhleth yn y wlad honno.

Ffynhonnell y llun, Menna Elfyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith Menna Elfyn wedi eu cyfieithu i ddeunaw o ieithoedd, yn cynnwys Hindi, Sbaeneg a Mandarin

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

O, alla i ddim â dewis un yn benodol - mae e fel ceffylau bach y ffair eiriol yn troi, codi i fyny ac i lawr, ac rych chi am fod nesa at - William Blake un funed, yna Christina Rossetti y funed nesa - neu Wislawa Szymborska am ei hiwmor cynnil ond fy arwr cyntaf yn Gymraeg oedd ac yw T. Gwynn Jones a chofiaf ddysgu ei gerddi hirion ar fy nghof am fy mod yn caru ei gerddi - yn wir, awn i berlewyg yn eu hadrodd. Er, dw i ddim yn siwr y byddwn am gael sbri yn y ffair gydag e, chwaith!

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Unrhyw un o gerddi hirion TGJ - Cynddilig efallai - am ei bod yn gerdd gywrain ac yn brotest yn erbyn rhyfel ond hefyd yn mynegi clwyfadwyedd dynol. Ond beth am y lleill? Mae fy mhen yn troi eto gyda'i gerddi cyfoethog. Waldo hefyd yn dynn ar ei sawdl. Ac mor ddarllenadwy i gynulleidfaoedd dramor - ac mor ddwys.

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Wel mae cyfrol o farddoniaeth Gymraeg yn cael ei chyhoeddi gan Barddas ddiwedd mis Mawrth eleni yn dwyn y teitl Tosturi a hon fydd y gyfrol gyntaf yn Gymraeg yn unig am ddegawd a'm pymthegfed llyfr o farddoniaeth. Mae hon yn crisialu sawl degawd mewn gwirionedd.

Ffynhonnell y llun, Barddas/Llun Meinir Mathias

Rwy hefyd wedi cwblhau drama Saesneg a gomisiynwyd i National Theatre Wales a gobeithiaf y caiff ei llwyfannu rywbryd yn gynnar y flwyddyn nesa.

Mae'n Gymreig iawn gyda llaw. Ac rwy am ysgrifennu drama yn Gymraeg nesa' gan fod sawl blwyddyn wedi mynd ers i mi lunio drama Gymraeg yn flynyddol i'r cynhyrchydd ysbrydoledig ac annwyl Aled Jones. Drato shwd beth - iddo ymddeol!

Pynciau cysylltiedig