Prosiect adfywio mwyaf ar ôl y Blitz ar fin agor yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Bae Copr o'r awyrFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gam cyntaf y datblygiad gyfrannu dros £17m y flwyddyn i economi Abertawe

"Bydd canol Abertawe yn edrych yn gwbl wahanol erbyn 2020 wrth i'r trawsnewidiad mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd ddigwydd yno."

Dyna oedd geiriau arweinydd cyngor y ddinas, Rob Stewart, yn 2015.

Ar ôl pandemig byd-eang, mae cam cyntaf y prosiect adfywio mwyaf ar ôl y Blitz, gwerth £135m, ar fin cael ei gwblhau.

Mi fydd rhannau allweddol o ddatblygiad Bae Copr ar agor i'r cyhoedd ddydd Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 3,500 o bobl yn yr arena newydd sy'n rhan o'r datblygiad

Fe gafodd yr arena newydd, sydd â lle i gynulleidfa o 3,500, ei agor yn swyddogol ddydd Iau gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Ddydd Gwener, mi fydd y bont lliw aur uwchben Heol Ystumllwynarth, sy'n cael ei adnabod gan rai bobl leol fel y 'Crunchie' a'r 'Taco', yn agor gan gysylltu canol y ddinas â'r arena, y marina a'r traeth.

Mi fydd maes parcio newydd gyda 345 o leoedd hefyd yn agor am y tro cyntaf ddydd Gwener.

'Newid yn y ffordd mae pobl Abertawe yn gweld eu dinas'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac arweinydd Cyngor Sir Abertawe, Rob Stewart ymhlith y rhai a agorodd yr arena'n swyddogol ddydd Iau

"Bwriad hyn oedd gwneud rhywbeth sbeshal," meddai arweinydd y cyngor, Rob Stewart.

"Roedd pobol yn amheus a fyddai'r cynlluniau'n digwydd, ond wrth weld pobol yn trafod lliw a siâp y bont, roedd 'na newid.

"Yn lle cwestiynu a fyddai rhywbeth yn digwydd, roedden nhw'n cwestiynu beth oedd yn digwydd, ac mae hynny'n newid mawr yn y ffordd mae pobl Abertawe yn gweld eu dinas," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y digrifwr John Bishop bydd y cyntaf i berfformio ar lwyfan yr arena ers iddo agor yn swyddogol

Ar ôl cynnal cyngherddau prawf gyda cherddorion lleol y penwythnos diwethaf, mi fydd drysau'r arena, yn agor nos Fawrth nesaf, 15 Mawrth, gyda sioe gan y digrifwr John Bishop.

Mi fydd y band roc Royal Blood yn perfformio nos Sadwrn 19 Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae parc arfordirol wedi'i greu hefyd - lle arall i ymlacio ar arfordir Bae Abertawe

Mi fydd y parc arfordirol yn agor y mis yma - y parc cyntaf newydd yn y ddinas ers oes Fictoria.

Mae'n cynnwys meinciau a phaneli solar fydd yn galluogi ymwelwyr yn gallu eu defnyddio i wefru batris ffonau symudol a chyfrifiaduron.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd sy'n arwain at y bont wedi ei enwi ar ôl yr athletwr o Abertawe, Cyril George Cupid, a dorrodd sawl record

Enw'r llwybr i fyny at y bont newydd fydd Cupid Way ar ôl y rhedwr Cyril Cupid, o Abertawe, dorrodd sawl record yn ystod ei yrfa.

Fe oedd y Cymro cyntaf i redeg canllath mewn llai na 10 eiliad ac fe gynrychiolodd tîm cyntaf Cymru i gystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth (Gemau'r Gymanwlad erbyn hyn).

"Fe fydde fe wrth ei fodd," meddai ei nith, Olwyn Cupid.

"Nid dim ond am fod hyn yn dathlu ei lwyddiannau athletaidd, ond mae'n gydnabyddiaeth fod pobol ddu yn Abertawe.

"Does dim llawer medrwn ni ei wneud am ein hanes ni ond fe allwn ni wneud lot am ein dyfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys ym mhethau a bod Abertawe yn croesawu pawb," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bont lliw aur yn agor ddydd Gwener ac yn cysylltu canol y ddinas gyda'r arena newydd, y marina a'r traeth

Mae cam cyntaf Bae Copr yn rhan allweddol o'r cynllun i adfywio Abertawe, gydag amcangyfrif y bydd y cam cyntaf yn cyfrannu £17.1m y flwyddyn i economi'r ddinas.

Mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau am ragor o ddatblygiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig