Mwy o gwynion i gynghorau lleol na chyn Covid
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cwynion a gafwyd am gynghorau lleol yn uwch na chyn cyfnod Covid, medd data newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae'r data yn dangos fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi derbyn oddeutu 12,000 o gwynion yn ystod tri chwarter cyntaf 2021/22 sy'n gyfystyr, medd yr Ombwdsmon, â 5.1 o gwynion am bob 1,000 o drigolion Cymru.
Fe wnaeth awdurdodau lleol yng Nghymru dderbyn y gŵyn mewn tua 40% o'r achosion a gaewyd ganddynt yn nhrydydd chwarter y flwyddyn.
"Mae'r ffigwr hwn wedi aros yn uchel yn gyson drwy gydol y flwyddyn - gyda chwynion am wastraff a sbwriel yn denu cyfradd cadarnhau o 73%", medd yr adroddiad.
Ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dr Marlene Davies o Brifysgol De Cymru: "Chi'n talu treth cyngor a 'dych chi ddim yn cael y sbwriel wedi'i gasglu, ma' tyllau yn yr hewl - chi'n mynd i ddanfon cwyn i mewn.
"Yn y cyfnod clo roedd pobl yn cwyno falle na ddylid talu cymaint o dreth cyngor am nad oedden nhw'n cael y gwasanaethau. O'dd hwnna yn creu lot o gwynion.
"Ond wrth gwrs, fel chi'n gwybod, roedd cynghorau yn gorfod 'neud mwy o waith - gwaith gwahanol oherwydd y pandemig.
"Os oeddech chi'n ysgrifennu mewn i'r cyngor a bod pobl yn gweithio o adre' byddai fe, o bosib, yn cymryd mwy o amser i chi gael ateb.
"Mae cynghorau i fod i ymateb o fewn 20 diwrnod os ydyn nhw'n cael cwyn."
Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Mae'r cyhoeddiad data diweddaraf hwn yn dangos bod nifer y cwynion bellach yn uwch nag oedd cyn y pandemig a, gyda 9% o gwynion yn cael eu cyfeirio at ein swyddfa, mae'n dangos bod llwythi achosion yn uchel ym mhobman.
"Rydym wedi ymrwymo i sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy ymdrin â chwynion yn well - ac rydym bellach wedi darparu mwy na 200 o sesiynau hyfforddi i gyrff cyhoeddus yng Nghymru drwy ein Hawdurdod Safonau Cwynion.
"Y gobaith yw y bydd hyn yn golygu bod mwy o achwynwyr yn cael ymateb boddhaol i'w cwynion yn gynnar yn y broses."
Bydd etholiadau'r Cyngor Sir a Chynghorau Cymuned yn cael eu cynnal yng Nghymru ar 5 Mai 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016