'Mae llwyth yn bosib os wyt ti'n credu ynddot ti dy hun'
- Cyhoeddwyd
"Creda yn pwy wyt ti achos mae pwy wyt ti'n ddigon da ac mae llwyth yn bosib os wyt ti'n credu ynddot ti dy hun."
Dyna neges Manuela Niemetscheck, Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Betsi Cadwaladr 2022 ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda'r seicotherapydd celf yn uned iechyd meddwl Hergest, Ysbyty Gwynedd am be' sy' wedi ei hysbrydoli yn ei bywyd a'i gwaith.
Dysgu Cymraeg i fagu teulu
Yn wreiddiol o Vancouver, Canada symudodd Manuela i Gymru ar ôl cyfnod yn byw yn Catalunya lle cyfarfodd â Chymro sydd bellach yn ŵr iddi. Erbyn hyn mae Manuela, ei gŵr a'u dwy ferch sy'n saith a naw oed, wedi ymgartrefu ym Methesda.
Cychwynnodd Manuela ddysgu Cymraeg yn syth ar ôl symud i Gymru yn 2004 gan wneud cwrs WLPAN a mynd i Nant Gwrtheyrn.
Ond pan aeth hi'n feichiog, daeth dysgu'r iaith yn bwysicach fyth iddi.
Meddai: "Pan dwi 'di bod yn feichiog, mae o wedi bod mor glir i fi; dwi isio siarad Cymraeg efo'r plant a dwi isio eu hiaith gyntaf fod yn Gymraeg a dwi isio nhw siarad Cymraeg efo'i gilydd.
"Ac mae cael plant wedi helpu fi i ddysgu llwyth. Ti'n dysgu caneuon Cymraeg, caneuon plant a darllen llyfrau efo nhw.
"Wrth i lyfrau'r genod fynd yn fwy soffistigedig dwi'n deud wrthyn nhw ofyn i Dad gan 'mod i ddim yn dallt, ond eu hateb nhw ydy, 'Mam, ti o hyd yn dweud wrthan ni i jest trio ein gorau glas' felly maen nhw wedi troi'n diwtoriaid i fi!'"
'Bydda'n hyderus wrth ddysgu iaith'
Fel un a fagwyd mewn prif-ddinas amlddiwylliannol fel Vancouver sy'n "lle gwych i glywed gwahanol ieithoedd o gwmpas chdi", mae dysgu ieithoedd wedi bod yn rhan naturiol bwysig ym mywyd Manuela.
Er mai Saesneg yw ei iaith gyntaf, derbyniodd ei haddysg yng Nghanada trwy gyfrwng Ffrangeg sy'n iaith swyddogol yn y wlad. Yng Nghanada dysgodd Sbaeneg hefyd cyn symud i Catalunya i weithio fel athrawes Saesneg a chelf.
Buan sylweddolodd Manuela bod angen iddi fedru Catalaneg yn ogystal â Sbaeneg yn Catalunya. Eglura: "Pan es i fyw i Catalunya, sylwais bod pawb yn siarad Catalan felly wnes i ei bigo i fyny ac yno wnes i wir ddeall bod angen bod yn hyderus wrth ddysgu iaith.
"Yn y cychwyn ti bron iawn fel babi a dim ond rhai geiriau sydd gen ti, ond efo dyfalbarhad ti'n datblygu iaith. Mae angen i ti fwrw ymlaen a gwneud llwyth o gamgymeriadau. Mae pobl yn gwerthfawrogi bo' chdi'n trio."
Dysgwyr Cymraeg Betsi Cadwaladr
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, cyhoeddwyd mai Manuela yw enillydd Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Betsi Cadwaladr 2022. Ers 2019 mae'r gystadleuaeth yn gwobrwyo dysgwyr mwyaf ymroddedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cipiodd Manuela'r wobr eleni ar ôl ysgrifennu am ei siwrne fel dysgwraig a sut mae hi'n defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith. I Manuela, mae gallu cynnig therapi seicolegol drwy'r Gymraeg yn uned iechyd meddwl Hergest, Ysbyty Gwynedd yn hanfodol.
Eglura Manuela: "Pan ti'n dod i Hergest, ella ti mewn sefyllfa lle ti'n teimlo'n reit fregus. Os ti'n siarad mwy nag un iaith mae'n bwysig bod sesiynau therapi yn adnabod hynny achos mae'n rhan o hunaniaeth a diwylliant person.
"Weithia' ti'n gallu teimlo emosiynau gwahanol mewn ieithoedd gwahanol a ti'n cael hunaniaeth wahanol. Mae'n bwysig i fi bod bob person yn teimlo'n gyfforddus i fod yn bwy ydyn nhw a 'mod i'n creu be' dwi'n ei alw'n linguistically empathic space."
Iechyd meddwl a'r iaith Gymraeg
Yn y gorffennol mae cryn feirniadaeth wedi bod ar y diffyg mewn gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Un sydd wedi codi llais am hynny a sydd wedi ysbrydoli Manuela yw'r awdures Angharad Tomos.
"Es i weld Angharad Tomos yn sgwrsio yn y brifysgol ym Mangor a roedd hi'n sgwrsio am yr iaith Gymraeg a iechyd meddwl, a'i phrofiad hi ohono fo. Dwi jest wedi bod yn llawn ysbrydoliaeth ers clywed hwnna," meddai Manuela.
"Mae wedi gwneud i mi feddwl am fy ngwaith o bersbectif pobl sy'n siarad Cymraeg a'r gwasanaeth dwi isio ei roi i bobl yr ardal."
Gyrfa: 'Gwna be ti'n fwynhau'
Yn ei gwaith o ddydd i ddydd fel seicotherapydd celf mae Manuela'n cynnal sesiynau sy'n caniatáu i glaf siarad, defnyddio deunyddiau celf neu'r ddau i fynegi eu hunain.
Eglura Manuela: "Efo celf, mae'n ffordd o fynegi dy hun a chysylltu efo emosiynau. Mae'n gallu deud mwy am sut wyt ti'n teimlo na geiriau weithiau."
Er yn swydd arbenigol iawn, gwneud yr hyn mae hi'n ei fwynhau mae Manuela yn y bôn.
Meddai: "Dwi o hyd yn dysgu ond dwi'n meddwl bod swyddi wastad yn cynnwys pethau dwi'n caru sef celf, neud gwahaniaeth a natur.
"Rŵan dwi isio neud mwy o environmental art therapy lle ti'n mynd tu allan a ti'n defnyddio natur fel deunyddiau celf yn lle pethau fel paent a phensel.
"Wnaeth rhywun ddweud wrtha i pan o'n i yn y brifysgol i beidio poeni amdan lle ti am gael swydd, jest gwna be' ti angen neud. Dwi dal i gofio hynny a mae'n gyngor gwych i unrhyw un dwi'n meddwl."
Hefyd o ddiddordeb: