Y cerddor John Cale yn 80

  • Cyhoeddwyd
CerddoriaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

The Velvet Underground. O'r chwith i'r dde - Nico, Moe Tucker, Sterling Morrison, Lou Reed, John Cale

Roedd yn aelod blaenllaw o un o'r grwpiau pwysicaf erioed, a heddiw, 9 Mawrth 2022, mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 80.

Dyma gyfle i edrych yn ôl ar yrfa syfrdanol y cerddor o Garnant a chwestiynu os oes digon o werthfawrogiad ohono yng Nghymru?

"Dim ond 10,000 copi wnaeth werthu, ond wnaeth pawb wnaeth brynu hi ddechrau band." Dyma eiriau'r cynhyrchydd cerddoriaeth Brian Eno am albym cyntaf y grŵp The Velvet Underground.

Maen nhw'n cael eu hystyried yn un o'r grwpiau mwyaf dylanwadol erioed.

Roedd dylanwad y grŵp roc a rôl avant garde o Efrog Newydd yn chwyldroadol yn y 60au. Gyda chymorth yr artist Andy Warhol a'r ddelwedd a greodd i'r grŵp ganwyd oes newydd radical ym myd cerddoriaeth a chelf arbrofol.

Roedd y band, a sefydlwyd yn 1964, yn cynnwys Lou Reed, y gitarydd Sterling Morrison, y drymiwr Moe Tucker ac un cerddor talentog o Sir Gaerfyrddin o'r enw John Cale.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau gwreiddiol The Velvet Underground yn cyflwyno eu hail albym, White Light, White Heat. Mae'r band yn "ysbrydoliaeth anferth" i'r grŵp Los Blancos. Mae John Cale i'w weld i'r ail o'r dde

Mae stori John Cale a'r Velvet Underground yn gyfarwydd i'w ffans gan gynnwys nifer fawr o gerddorion o Gymru. Ond yn ôl aelod blaenllaw y byd cerddoriaeth Cymraeg, sydd wedi recordio gydag o yn ei gyfnod gyda Big Leaves, gallwn ni wneud mwy i ddathlu ei gyfraniad.

Pwy ydi John Cale?

Cafodd ei eni ym mhentref glofaol Garnant, ger Rhydaman yn 1942 - ei dad yn löwr a'i fam yn athrawes ysgol gynradd. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf.

Chwaraeodd yr organ yn Eglwys Rhydaman ac fe ymunodd â Cherddorfa Ieuenctid Cymru yn 13 oed ble'r oedd yn perfformio ochr yn ochr ag Endaf Emlyn a Karl Jenkins.

Ar ôl cyfnod ym Mhrifysgol Goldsmiths yn Llundain yn astudio cerddoriaeth prynodd docyn un ffordd i Efrog Newydd yn 1963 i barhau i astudio cerdd ym Massachusetts.

Glaniodd yn y ddinas gyda'i acen gref Gymreig a dechrau gweithio gyda'r cyfansoddwr La Monte Young, un o hoelion wyth y symudiad avant garde.

Meddai John Cale wrth bapur newydd The Guardian yn 2016: "Nes i ddim sylwi tan ar ôl iddo adael bod llawer iawn o nodio a gwenu yn mynd ymlaen… oherwydd doedd e rili ddim yn deall be' oeddwn yn dweud oherwydd fy acen!"

The Velvet Underground & Nico (1967)

Trwy'r diwylliant celfyddydol tanddaearol yn Efrog Newydd daeth i gysylltiad â Lou Reed ac Andy Warhol a ffurfio The Velvet Underground. Yna cynhyrchwyd un o'r campweithiau mwyaf erioed - The Velvet Underground & Nico.

Hon oedd albym cyntaf y grŵp ac mae'n cynnwys caneuon fel Sunday Morning, Femme Fatale, Heroin, ac I'm Waiting for The Man. Mae'n cael ei ystyried fel yr albym art-rock cyntaf erioed. Mi dalodd yr artist Andy Warhol i gynhyrchu'r albym ar yr amod fod y gantores ac actores o'r Almaen, Nico, yn rhan ohono.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clawr yr albym The Velvet Underground & Nico gan yr artist Andy Warhol. Mae'n cael ei ystyried fel un o'r cloriau mwyaf eiconig erioed, ac wedi ei ddylunio fel bod modd tynnu'r croen banana yn ôl i ddatgelu ffrwyth coch

Cyfrannodd y cymysgedd o eiriau pryfoclyd Lou Reed, llais Nico a sŵn arbrofol avant garde Cale at ddiffinio albym sydd yn dal i gael ei werthfawrogi hyd heddiw.

Roedd deinameg y berthynas rhwng Cale a Reed wrth wraidd llwyddiant y grŵp yn yr albym ond fe ddirywiodd pethau rhyngddynt nes i Cale adael yn dilyn eu hail albym White Light, White Heat yn 1968. Daeth y grŵp i ben dair blynedd yn ddiweddarach ar ôl rhyddhau dau albym arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Cale a Lou Reed yn perfformio gyda'r Velvets yn Cafe Bizarre, Efrog Newydd, yn 1965

Gyrfa sengl

Erbyn hynny roedd y Cymro o Garnant wedi symud ymlaen i greu gyrfa lwyddiannus iddo ei hun fel cynhyrchydd a cherddor.

Cynhyrchodd nifer o albymau gan gynnwys albym cyntaf The Stooges, tri o albymau Nico, albym gan The Modern Lovers ac mae'n ymddangos ar albym enwog Bryter Layter gan Nick Drake.

Yn 1974 fe ymunodd â Island Records yn Llundain a gweithiodd ar albymau gan Squeeze, Patti Smith a Sham 69. Yn fwy diweddar cynhyrchodd albym cyntaf Happy Mondays yn 1987.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Cale (chwith) yn perfformio gyda Patti Smith (dde) yn yr Ocean Club, Efrog Newydd. Ers 1968 mae'r cerddor wedi rhyddhau 16 albym gan gynnwys Vintage Violence, Paris 1919, Fear a Music for a New Society

Dylanwad ar Gymru

Degawd The Beatles oedd yr 1960au ond fe gynigodd y Velvets rywbeth arall, sef agwedd DIY gyda llai o bwyslais ar berffeithio'r ochr cynhyrchu wnaeth ddylanwadu ar pync, roc a grunge yn y degawdau wnaeth ddilyn.

Mae'r dylanwad hefyd i'w weld ar gerddoriaeth Cymraeg cyfoes heddiw.

"Mae'r Velvet Underground wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i ni fel band, ac i fi yn bersonol," meddai Gwyn Rosser o Los Blancos.

"Beth sydd wedi atynnu ni tuag at y band yw'r amrywiaeth mewn dynamig yn eu synau ond eu bod dal i weddu'r un fath o arddull, yn ogystal â'r elfen Gymreig gyda John Cale yn dod o Sir Gâr. Mae'r amrywiaeth yma mewn deinameg yn cael ei weld yn I'm Waiting For My Man.

Ffynhonnell y llun, Gwyn Rosser
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Velvet Underground wedi cael dylanwad ar Los Blancos yn ôl Gwyn Rosser (canol)

"Os wyt ti'n cymharu'r perfformiadau byw i'r rhai ar y record mae'n amrywio ac maen nhw'n swnio fel caneuon gwbl wahanol. Mae'n cadw'r band yn gyfredol a'n fywiog hyd yn oed 60 mlynedd wedyn."

Ers dechrau'r ganrif mae John Cale wedi bod yn ceisio ail-gysylltu â'i wreiddiau yng Nghymru. Yn y gorffennol mae o wedi cyfaddef ei fod yn teimlo euogrwydd am "redeg i ffwrdd" gan golli'r Gymraeg.

Mae'r cerddor Meilyr Gwynedd yn cofio pan ddaeth Cale i chwarae gyda Big Leaves fel rhan o raglen Camgymeriad Gwych ar S4C yn 2000. "Roedd o'n brofiad gwych, ac roeddan ni i gyd yn gyffrous," meddai.

"Dwi'n cofio ar y diwrnod, aros amdano i gyrraedd, pawb ar biga' drain, ac os oeddan ni eisiau cael smôc, roeddan ni'n gorfod mynd yn bell o'r adeilad, a gwneud yn siŵr peidio â gwneud pryd oedd o'n cyrraedd. Roedd hyn i gyd bach yn od, gan ystyried ei fod o wedi bod yn un o fandiau mwyaf gwallgof y 60au!

"Un o'r caneuon wnaethon ni oedd Synfyfyrio, ac roedd o'n edrych fel ei fod yn mwynhau ei hun yn ychwanegu rhan synth."

Etifeddiaeth

Pan gynrychiolodd Cymru yn y Venice Biennale yn 2009 ei berthynas â'r iaith Gymraeg oedd thema ei waith.

Wrth gyhoeddi hynny, meddai John Cale: "Mae'n cynnig cyfle i mi fynd i afael â rhai materion ynglŷn â fy nghefndir sydd wedi bod mor segur am mor hir."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Cale yn Los Angeles, 2019

Yn 2019 gofynnodd Cale wrth y cerddor o Sir Benfro, Cate Le Bon, i ymuno ag o mewn cyngerdd yn y Philharmonie de Paris. Mae o hefyd yn ymddangos ar gân Corner of My Sky gan yr artist electroneg o Ddinbych, Kelly Lee Owens gafodd ei ryddhau llynedd.

Meddai Meilyr Gwynedd: "Beth oeddwn i yn edmygu am John Cale ar y pryd oedd ei fod wedi gadael cymuned fach yn ne Cymru, a symud draw i Efrog Newydd a gwneud llwyddiant enfawr o'i hun. Nes 'mlaen ddois i sylweddoli'r holl ddylanwad roedd wedi ei gael ar gerddoriaeth eraill."

Ond er fod llawer yng Nghymru yn ei werthfawrogi dywed Meilyr Gwynedd ei fod "yn cael y teimlad fod John Cale ychydig bach fel Dylan Thomas yma.

"Mae fel petai yn cael yn ei werthfawrogi yn fwy yn America na adref, felly ddylsa ni wneud yn siŵr fod ni'n gwerthfawrogi popeth mae'r Cymro o Garnant wedi ei wneud."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig