Uned Hergest 'ddim yn addas i'w bwrpas', medd cadeirydd Betsi

  • Cyhoeddwyd
Mark Polin
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Polin fod "prinder cyfalaf yn genedlaethol" yn "gyfyngiad sylweddol" i fyrddau iechyd

Mae cadeirydd bwrdd iechyd y gogledd wedi cyfaddef nad yw uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd "yn addas i'w bwrpas".

Daw ei sylwadau yn sgil adroddiad damniol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymchwilio i hunanladdiad claf yn Hergest y llynedd.

Amlygodd yr adroddiad hwnnw, ac un arall i farwolaeth claf arall mewn uned iechyd meddwl gyfagos, fethiannau wrth arsylwi cleifion a arweiniodd at "ganlyniadau catastroffig".

Wrth annerch pwyllgor yn Senedd Cymru, dywedodd Mark Polin fod "pryder am ffitrwydd Hergest o ran ei allu i ddarparu gwasanaethau clinigol modern mewn modd diogel".

"Mae yna brinder cyfalaf yn genedlaethol ac mae hynny'n gyfyngiad sylweddol i ni fel bwrdd iechyd ac i fyrddau iechyd eraill hefyd," meddai'r cadeirydd.

"Byddem wrth ein bodd yn gallu cyflwyno achos busnes ar gyfer Hergest oherwydd nid yw'n yn addas i'w bwrpas.

"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chyfleuster clinigol is-optimaidd ac yn ceisio gwneud ein gorau mewn amgylchiadau anodd.

"Rwy'n siŵr y byddwn gyda'n gilydd yn lleihau'r risg i gleifion ymhellach, ond mae'n parhau i fod yn her."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi dyrannu dros £1.1 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol dros y tair blynedd ariannol nesaf."

'Ar y trywydd iawn'

Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Mark Isherwood AS yn y cyfarfod fod llawer o'r materion a arweiniodd at y marwolaethau diweddar wedi'u hamlygu sawl gwaith yn y gorffennol, a chyn belled yn ôl a 2013.

Dywedodd Teresa Owen, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd, bod bwriad i gael gwared ar yr arfer o gymysgu cleifion sydd â gwahanol anghenion meddygol ar wardiau "o fewn misoedd".

"Dwi'n cydymdeimlo gyda'r teuluoedd o ran y marwolaethau diweddar ar unedau... hoffwn ddweud bod y bwrdd iechyd rŵan yn gweithio'n wahanol," meddai.

"Tra bod heriau o hyd, dwi'n teimlo ein bod yn gwneud newidiadau... Am y tro, dwi'n teimlo ein bod ar y trywydd iawn.

"Rydym wedi dechrau'r broses o atal carfanau cymysg (mixed cohorting). Dechreuodd hynny ar 21 Chwefror. Mae gennym ni bedwar cam i weithio drwyddyn nhw rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adolygiad ar uned seiciatryddol Hergest hefyd ei gomisiynu ar ôl cwynion gan staff yno

Cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 ar ôl cael ei reoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru am bum mlynedd.

Methiant gwasanaethau iechyd meddwl oedd un o'r rhesymau dros osod y bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig.

Ond mae'r bwrdd wedi cael rhybudd i wneud newidiadau brys neu wynebu dychwelyd i fesurau arbennig.

Os bydd hynny'n digwydd, mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, Nick Bennett wedi cwestiynu a all y bwrdd iechyd barhau yn "ei ffurf strwythurol bresennol".

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi rhoi tri mis i reolwyr wneud gwelliannau.