Defnyddio gorchmynion gwrth-stelcian bum gwaith mewn blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Dim ond pum gorchymyn amddiffyn rhag stelcian a gyhoeddwyd y llynedd er gwaethaf mwy na 7,000 o droseddau stelcian yr adroddwyd amdanynt yng Nghymru.
Canfu'r ymchwiliad gan y BBC hefyd fod nifer y troseddau stelcian yr adroddwyd amdanynt wedi mwy na dyblu yn 2021 o gymharu â 2020.
Mae ymgyrchwyr nawr yn galw am well addysg a hyfforddiant fel bod swyddogion yn gallu adnabod pryd mae angen gorchymyn.
Dywed pob un o'r pedwar heddlu fod stelcian yn drosedd ddifrifol ac roedd y gorchmynion yn un dull a ddefnyddiwyd i fynd i'r afael â'r drosedd.
Cyflwynwyd Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcian ddwy flynedd yn ôl i helpu'r heddlu i weithredu'n gyflym.
Ond canfu cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC nad oedd rhai o heddluoedd Cymru wedi gwneud cais am eu defnyddio o gwbl dros y flwyddyn ddiwethaf.
'Cymryd llawer o ddewrder'
Cafodd Sara Manchipp o Bort Talbot ei stelcian am wyth mis. Cafodd y troseddwr ei ddal a'i garcharu.
Dywedodd: "Rwy'n poeni am y neges y mae'n ei hanfon at ddioddefwyr posibl oherwydd mae'n cymryd llawer iawn o ddewrder i ddod ymlaen fel dioddefwr.
"Rwy'n meddwl bod y nifer o orchmynion stelcian mewn blwyddyn yn dangos nad yw'r heddlu'n cymryd hyn yn ddigon difrifol."
Dywedodd Sara ei fod yn "bositif" bod mwy o bobl yn adrodd y drosedd ond dywedodd fod y nifer uchel o droseddau yn dangos angen brys i atal ac addysgu am ymddygiad stelcian.
"Dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn deall rhai mathau o ymddygiad, gan fod negeseuon cyson digroeso yn gyfystyr â stelcian a'i fod yn drosedd.
"Rwy'n meddwl y gallai gwersi mewn ysgolion neu golegau helpu pobl i sylweddoli beth sy'n ymddygiad annerbyniol," ychwanegodd.
Mae Sara eisiau ei phrofiad i helpu eraill a allai fod yn mynd trwy sefyllfa debyg i deimlo y gallant godi llais a chael eu credu.
"Os yw rhywun yn anfon negeseuon digroeso atoch, neu os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich stelcian mewn unrhyw ffordd, gadewch i'm hachos fod yn wers y bydd yn cael ei drin ac na fyddant yn ennill."
'Dylai niferoedd Cymru fod 10 gwaith yn uwch'
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Sussex, Katy Bourne yw'r arweinydd ar gyfer stelcian yng Nghymru a Lloegr.
Mae hi hefyd wedi cael ei stelcian gan ddweud ei fod yn "siomedig" bod heddluoedd Cymru wedi cyhoeddi nifer mor fach o orchmynion.
"Rydyn ni'n gwybod bod gorchmynion amddiffyn yn gweithio, maen nhw'n ffordd effeithiol o roi sicrwydd i'r dioddefwr eu bod nhw'n cael gwrandawiad hefyd ac maen nhw'n cymryd y cyfrifoldeb oddi ar y dioddefwr rhag gorfod gwneud cais am waharddeb, sy'n gostus," meddai.
Dywedodd fod ymgyrchoedd cenedlaethol ac erlyniadau stelcio proffil uchel ymhlith y rhesymau pam fod gwell ymwybyddiaeth i adrodd am stelcian.
Cafodd heddlu Sussex tua 2,500 o adroddiadau stelcian y llynedd a chyhoeddodd tua 42 o orchmynion gyda 12 arall yn aros am wrandawiadau llys.
"Os ydych chi'n defnyddio'r niferoedd tebyg, yna fe ddylech chi fod yn gweld fwy na thebyg 10 gwaith yr hyn rydych chi'n ei weld yng Nghymru yn barod."
Beth ddatgelodd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am bob heddlu?
Gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed-Powys gais yr un am ddau orchymyn, a ganiatawyd.
Gwnaeth Heddlu De Cymru ddau gais, cafodd un gorchymyn interim ei gyhoeddi a chafodd y llall ei dynnu'n ôl.
Ni wnaeth Heddlu Gwent gais am unrhyw orchmynion.
Beth yw Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcian?
Cyflwynwyd gorchmynion amddiffyn rhag stelcian ym mis Ionawr 2020 i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Maent yn orchmynion sifil sy'n ceisio amddiffyn dioddefwyr, ac mae'n drosedd torri amodau gorchymyn.
Mae'r heddlu'n gwneud cais i ynadon am orchymyn, sydd fel arfer yn parhau mewn grym am ddwy flynedd. Y syniad yw y gellir ei ddefnyddio'n gyflym ac mae gorchymyn interim yn darparu amddiffyniad ar unwaith tra bod penderfyniad yn cael ei wneud.
Pan gânt eu cyhoeddi, gallant gynnwys gwahardd troseddwr rhag cysylltu ag unigolyn trwy gyfryngau cymdeithasol, trwy drydydd parti neu fod o fewn pellter penodol i'w gartref neu weithle.
Roedd Delyth Jewell, Aelod o'r Senedd Dwyrain De Cymru dros Blaid Cymru, yn ymchwilydd yn 2012, a weithiodd ar ymchwiliad yn San Steffan i Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997.
Cyhoeddodd y prif weinidog ar y pryd, David Cameron, y byddai deddfau stelcian yn cael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2012.
"Cafodd yr ymgyrch ei harwain gan oroeswyr stelcian a theuluoedd dioddefwyr a gollodd eu bywydau, felly mae'n wirioneddol siomedig ein bod ni bellach 10 mlynedd yn ddiweddarach a dioddefwyr yn dal i gael eu siomi," meddai Delyth Jewell.
"Mae mor rhwystredig bod y gorchmynion hyn yn bodoli a dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio."
Pan ofynnwyd iddi a oedd stelcian yn cael ei gymryd o ddifrif dywedodd ei fod yn "loteri cod post" i lawer o bobl a dargedwyd gan yr ymddygiad.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, er gwaethaf y nifer "isel" o orchmynion a roddwyd fod stelcian wedi ei gymryd yn ddifrifol iawn ganddo ef a Heddlu Gogledd Cymru.
"Rydyn ni'n cydnabod bod angen i ni wneud mwy ac rydyn ni'n gweithio'n galed tuag at hyn.
"Mae cefnogi dioddefwyr a gwneud yn siŵr bod rhywun yn gwrando arnyn nhw hefyd yn hanfodol," meddai.
'Gwybodaeth a dealltwriaeth'
Dywedodd yr Uwcharolygydd Phil Sparrow o Adran Diogelu'r Cyhoedd Heddlu De Cymru bod y llu yn cymryd pob adroddiad o stelcian o ddifrif ac wedi sicrhau y byddai pob dioddefwr yn cael ei drin â pharch ac urddas.
Ychwanegodd: "Mae mynd i'r afael â stelcian domestig ac annomestig yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
"Gall gorchmynion atal stelcian fod yn arf hynod ddefnyddiol ac mae'n un ffordd o ddarparu amddiffyniad i ddioddefwyr a mynd i'r afael â'r rhai sy'n cyflawni troseddau o'r fath.
"Mae'n ddarn cymharol newydd o ddeddfwriaeth ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu eu defnydd pan fo hynny'n briodol."
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn defnyddio "ystod o dactegau i fynd i'r afael â'r drosedd ddifrifol hon".
Ychwanegodd y llu: "Mae hyn yn cynnwys addysg a hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer ein staff rheng flaen, sydd wedi arwain at erlyn yn llwyddiannus y rhai a ddrwgdybir o fod yn gyfrifol am stelcian."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi rhoi nifer o fentrau ar waith dros y flwyddyn ddiwethaf i wella eu hymateb.
Ychwanegodd: "Er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ein swyddogion mae arweinydd stelcian yr heddlu wedi cynhyrchu podlediad ar-lein sy'n cael ei gyflwyno i bob swyddog rheng flaen a staff fel rhan o'u diwrnodau hyfforddi rheolaidd."
Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn "disgwyl i bob heddlu wneud defnydd llawn" o'r Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcian "ac mae'r Gweinidog Diogelu wedi ysgrifennu at brif gwnstabliaid nad yw eu heddluoedd wedi gwneud cais am lawer ohonyn nhw, i wneud hynny'n glir".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ansawdd uchel yng Nghymru, ac mae ein cwricwlwm newydd yn cynnwys Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n nodi'r dysgu gorfodol yn y maes hwn".
Mwy ar Wales Live, BBC One Wales Ddydd Mercher am 10.30pm, neu ar iPlayer
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020