Poen teulu wedi llofruddiaeth merch gan ei phartner
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi siarad am ei phoen wrth feddwl y gallai hi fod wedi gwneud mwy er mwyn atal llofruddiaeth ei merch.
Cafodd Lauren Griffiths ei lladd gan ei dyweddi Madog Rowlands flwyddyn wedi iddo geisio'i thagu yn eu fflat.
Mae'r teulu yn mynnu y dylai'r awdurdodau fod wedi dweud wrthynt am yr ymosodiad blaenorol yn sgil problemau iechyd meddwl Ms Griffiths, a'u bod yn teimlo fod yr heddlu wedi'u methu.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad oes hawl ganddynt i ddweud wrth deulu ar eu liwt eu hunain y gall unigolyn fod yn gyfrifol am drais yn y cartref, a bod yna ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Ms Griffiths.
'Cymaint mwy i'r achos'
Cafodd Ms Griffiths, oedd yn 21 oed, ei llofruddio gan Rowlands ym mis Ebrill 2019.
Fe wnaeth Rowlands lapio ei chorff mewn clingfilm yn eu fflat yng Nghaerdydd ac archebu cyffuriau a bwyd cyn ffonio 999 dros ddiwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd y myfyriwr 23 oed ei ddedfrydu i garchar am oes, ond mae teulu Ms Griffiths yn teimlo y gallai hi fod yn fyw heddiw pe byddai hi fod wedi cael mwy o gefnogaeth.
Dywedodd Alison Turner, mam Ms Griffiths, mai'r tro cyntaf iddi glywed am ymgais Rowlands i dagu ei merch ym mis Mawrth 2018 oedd ar ôl iddi gael ei lladd.
Pan ddaeth yr heddlu i'r fflat ar ôl yr ymosodiad cyntaf, dywedodd Ms Griffiths bod y cwpl wedi cytuno i ladd eu hunain ond iddi hi newid ei meddwl, a bod Rowlands wedi colli ei dymer.
"Doedd hyn ddim yn domestic, roedd cymaint mwy i'r achos," meddai Ms Turner wrth raglen Wales Live BBC Cymru.
"Dwi wir yn meddwl pe bydden ni wedi gwybod, wrth gwrs fyddai pethau wedi newid.
"Roedd hi wedi cytuno i ladd ei hun gyda Rowlands ac wedyn newid ei meddwl.
"Dylai hynny fod wedi canu larwm, ac fe ddylai'r heddlu fod wedi cysylltu â ni.
"Fe wnaeth o gyfaddef ei fod wedi ceisio'i lladd hi. Fe ddylen nhw fod wedi delio â hynny'n well."
Merch 'garedig a chariadus'
Er fod Lauren yn 19 oed pan ddigwyddodd yr ymosodiad cyntaf, dywedodd ei chwaer Alisha Griffiths y dylai'r heddlu fod wedi cynnig mwy o gefnogaeth iddi o ganlyniad i'w phroblemau iechyd meddwl.
Roedd Lauren, oedd wedi derbyn diagnosis o anhwylder personoliaeth datgysylltiol, yn un o saith o blant.
Fel yr ail hynaf, roedd hi'n mwynhau creu straeon amser gwely i'w brodyr a'i chwiorydd bach.
Roedd Ms Griffiths yn hoff o wisgo colur a lliwio'i gwallt, yn enwedig adeg calan gaeaf, medd ei chwaer.
Roedd hi'n caru darllen, yn "garedig a chariadus," a'r math o berson "fyddai'n rhoi'r punt olaf yn ei phwrs i chi".
Fe wnaeth Ms Griffiths a Rowlands gwrdd yn y coleg yn Wrecsam, ac yn 2017 fe symudodd hi o'i chartref yng Nghroesoswallt i Gaerdydd er mwyn bod gyda Rowlands wrth iddo astudio yn y brifysgol.
Yn ôl ei chwaer, fe wnaeth Ms Griffiths newid yn ddramatig o ganlyniad i'r berthynas, ac ni wnaeth y teulu sylweddoli gymaint oedd Rowlands yn ei cham-drin ac yn ceisio'i rheoli.
Fe wnaeth Ms Griffiths ddechrau gwisgo dillad Rowlands, rhoi'r gorau i wisgo colur, ac eillio'i phen.
Mae mam Ms Griffiths am ddefnyddio achlysur ei phen-blwydd ddydd Gwener i godi ymwybyddiaeth am gam-drin o fewn perthynas.
"Roedd hi mor annibynnol wrth dyfu i fyny," medd ei chwaer Alisha Griffiths, sy'n 25.
"Roedd hi'n gwneud yr hyn a mynnai, ond fe ddaeth hi'n llai ac yn llai annibynnol; fe wnaeth popeth droi mewn i 'Sioe Madog' rhywsut.
"Fe fyddai hi ond yn gwneud pethau hefo fo, ac nid oedd hi'n gwneud unrhyw beth os nad oedd o yno.
"Roedd o'n ymddangos ychydig yn wenwynig o'r tu allan - nid oedd hi'n gallu mynd i unrhyw le hebddo."
Roedd Rowlands yn ymddangos i reoli arian Ms Griffiths hefyd, meddai.
Cyn yr achos llys yn 2020, fe welodd y teulu luniau a fideo o ymweliad yr heddlu i'r fflat yn ardal Cathays wedi'r ymosodiad cyntaf yn 2018.
"Dywedodd hi wrth yr heddlu nad oedd hi eisiau marw… roedd hi'n edrych mor fregus, fel plentyn bach," medd ei chwaer.
"Roedd o'n ceisio rheoli ei meddwl hi, i gael hi i gredu fod ganddi'r un syniadau ag o - ond doedd hi ddim."
Mae mam a chwaer Ms Griffiths yn rhedeg yn ystod mis Mawrth i godi arian ac ymwybyddiaeth i helpu menywod a phlant sydd wedi eu heffeithio gan drais yn y cartref.
"Os oes un person yn dweud wrthych chi eich bod chi'n werth dim, dyw hynny ddim yn wir," meddai Ms Turner, 48.
"Rydych chi'n meddwl y byd i rywun."
Dywedodd Heddlu De Cymru fod gan bobl yr hawl i ofyn i'r heddlu a yw eu partner yn beryglus, a bod modd gofyn yr un peth am bartner ffrind agos neu aelod o'ch teulu.
O dan amgylchiadau penodol, mae modd i'r heddlu rannu'r wybodaeth hon ar eu liwt eu hunain gydag unigolyn all fod mewn perygl.
Ond nid oes ganddynt yr hawl i wneud hynny gyda theulu'r unigolyn, medden nhw.
Ychwanegodd Heddlu De Cymru fod yna ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Ms Griffiths, ac y bydden nhw'n ymroi eu hunain i ddysgu unrhyw wersi sydd yn codi o'r adroddiad.
"Mae dod i'r afael â thrais a cham-drin merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers amser hir, ac rydyn ni'n cydnabod y pryder ynghylch diogelwch personol wrth fod lefelau trais gyda'r uchaf erioed.
"Rydyn ni'n benderfynol o ddarparu'r gwasanaeth gorau posib i ddioddefwyr a mynd ar ôl troseddwyr ar bob cyfle i wneud hynny. Rydyn ni'n parhau i feddwl am deulu a ffrindiau Lauren."
Os ydych chi wedi'ch heffeithio gan y stori hon, mae gan BBC Action Line ddolenni i sefydliadau sy'n gallu cynnig cymorth a chyngor.
Mwy ar y stori hon ar Wales Live ar BBC One Wales am 22:30 ddydd Mercher 22 Mawrth, ac yna ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020