Pum munud gyda'r bardd Haf Llewelyn

  • Cyhoeddwyd
Haf LlewelynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Haf Llewelyn

Mae'r llenor Haf Llewelyn wedi ennill gwobr Tir Na N-Og am ei nofel Diffodd y Sêr, sydd wedi ei seilio ar hanes Hedd Wyn, ac wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol o farddoniaeth Llwybrau.

Yn wreiddiol o Ardudwy ond erbyn hyn yn byw yn Llanuwchllyn, mis Ebrill hi fydd Bardd y Mis Radio Cymru, felly dyma ambell gwestiwn i ddod i'w hadnabod yn well.

Rydych chi wedi sgrifennu nofel wedi ei seilio ar hanes Hedd Wyn. Pa un cwestiwn fyddech chi wedi hoffi gofyn iddo?

Wrth ysgrifennu Diffodd y Sêr, mi ges i'r fraint o ddod i adnabod Gerald Williams a Malo Bampton, dau o blant Anni, chwaer Hedd Wyn. Gan i Anni farw tra roedd y plant yn ifanc, cawsant lawer iawn o sylw eu Nain - sef mam Hedd Wyn. Ac er nad oeddynt wrth gwrs yn cofio eu hewythr enwog, rhywsut roedd y sôn am Ellis yr Ysgwrn, yn fyw iawn yn eu cof.

Wrth sgwrsio gyda Gerald Williams a Malo Bampton felly mi fyddwn yn teimlo'n agos iawn at y teulu, ac yn teimlo'n hynod o freintiedig o gael sgwrsio gyda dau mor annwyl. Anwyldeb a direidi hefyd oedd yr argraff gryfaf y byddwn i'n ei chael o'u hewythr - dyn ifanc gyda bywyd llawn o'i flaen oedd Hedd Wyn. A dyna drasiedi pob rhyfel - ei bod yn cymryd y rhai sydd gan gymaint o fyw ar ôl i'w wneud, oddi wrthym.

Roedd Ellis yr Ysgwrn yn fachgen deallus a golygus, a phan aeth i ffwrdd i'r rhyfel, byddai'n ysgrifennu cerddi i un ferch arbennig, sef Jennie Owen. Cerdd iddi hi ar achlysur ei phen-blwydd oedd, mae'n debyg ei gerdd olaf. Mi hoffwn ofyn i Jennie felly petai Hedd Wyn wedi cael dod yn ei ôl o Wlad Belg, ai gydag o y byddai wedi treulio gweddill ei bywyd.

Fel Hedd Wyn, fe'ch magwyd chi ar fferm fynydd - sut brofiad oedd hynny?

Do, cefais fy magu ar fferm fynydd yng Nghwm Nantcol, Ardudwy. Roedd yn brofiad hynod o braf. Roedd yn aelwyd brysur, rydw i'n un o bump, a byddai cyfeillion a pherthnasau'n mynd a dod o hyd. Roedden ni hefyd yn 'cadw pobl ddiarth' - fy mam yn gwneud brecwast a chinio min nos i'r ymwelwyr. Roedd hynny'n brofiad diddorol, gan i ni ddod i adnabod pobl o ddiwylliannau, diddordebau ac arferion gwahanol.

Ffynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Cwm Nantcol

Ar y ffarm wedyn, roedden ni'n helpu yn y cyfnodau prysur, yr ŵyna, hel mynydd, cneifio a'r cynhaeaf. Mae gen i atgofion cymysg o hel y mynydd - y Rhinogydd - gan ei fod yn waith caled a ninnau'n dringo'r llethrau yn ein welingtyns, a gorfod rhedeg wedyn i geisio cael y blaen ar y defaid! Ond ar y cyfan, mae fy atgofion o gyfnod cneifio a'r cynhaeaf gwair yn felys iawn, byddai cymdogion yn dod i helpu, a byddai llawer iawn o hwyl i'w gael.

Fel un sy'n sgrifennu i oedolion, pobl ifanc a phlant - beth oedd eich hoff lyfr yn blentyn, yn eich arddegau ac yn oedolyn?

Dw i'n cofio fy nhad yn darllen storiâu o Llyfr Mawr y Plant i ni, roedden ni'n arbennig o hoff o storiâu am lwynogod - felly Siôn Blewyn Coch oedd y ffefryn. Roedd fy nhad a'm brawd yn helwyr, a byddai ganddynt straeon am lwynogod o hyd. Erbyn hyn dw i ddim yn hoff iawn o'r syniad o saethu llwynog - oni bai bod angen amddiffyn diadell wrth gwrs.

Pan yn fy arddegau roeddwn i'n darllen llawer o'r 'clasuron' Saesneg. Erbyn heddiw, dw i'n mwynhau pob mathau o lyfrau, ond nofelau ydy'r ffefrynnau. Does gen i ddim hoff lyfr, dw i yn darllen llawer, felly dw i'n darganfod awdur newydd cyffrous yn gyson. Yn ddiweddar dw i wedi mwynhau I Am Thunder, Muhammad Khan. Ond rydw i yn edmygu'r awduron Gwyddelig Jess Kidd, Sally Rooney a Claire Keegan, mi fedraf ymgolli yng nghwmni eu cymeriadau nhw am oriau.

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Rydw i'n arbennig o hoff o waith Maya Angelou - mae ei cherddi mor llawn ysbryd ac enaid. Roedd hi'n gallu cyfleu cymaint yn ei llinellau, roedd hi'n herfeiddiol a dewr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Maya Angelou, yr awdur a'r bardd o America, fu farw yn 2014

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Y Gwladwr, Gerallt Lloyd Owen. Mae'n disgrifio mor berffaith y bobl hynny y cefais i fy magu yn eu plith.

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Mae fy nofel Ga' i Fyw Adra? (Carreg Gwalch) newydd gael ei chyhoeddi. Dw i'n nerfus iawn bob tro mae fy ngwaith yn gweld golau dydd. Ar hyn o bryd dw i'n gweithio ar nofel wedi ei seilio yn rhannol ar gymeriadau'r darlun Salem.

Hefyd o ddiddordeb: