Pobl yn 'gwerthu cyffuriau'n agored' yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
"Mae yna werthu cyffuriau agored yn agos at yr eglwys a'r castell, yng nghanol ardaloedd preswyl.
"Pobl yn feddw iawn, pobl yn amlwg dan ddylanwad cyffuriau yn ystod y dydd, yn agos iawn at y man chwarae i blant. Ac mae pobl yn mynd yn bryderus iawn, iawn ac yn ofnus iawn gan yr ymddygiad hwn."
Nid disgrifiad yw hwn o'r sefyllfa mewn canol dinas ond yn hytrach rhywbeth sydd, yn ôl Brian Middleton, yn mynd ymlaen yn agos i'w gartref yn Aberystwyth yn ward Rheidol o'r dref.
Mae Mr Middleton yn dweud bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref glan-y-môr yn cynyddu - a hynny meddai o ganlyniad i bobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol yn cael eu symud o rannau eraill o'r DU i lety rhent yn y dref.
Dywedodd bod "hyn yn achosi myrdd o broblemau i'r trigolion a hefyd i'r bobl dlawd, anffodus hynny sydd angen cymorth, a chymorth penodol.
"Yr hyn y gallwn ei weld yw eu bod yn cael eu gadael yn Aberystwyth mewn fflatiau neu fflatiau un ystafell.
"Dyw'r gwasanaethau ddim yma i'w helpu - a dyw'r meddygfeydd lleol, y fferyllfeydd, yr adran damweiniau ac achosion brys lleol, yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ddim wedi'u paratoi ar gyfer y nifer uchel o bobl sy'n cael eu denu i Aberystwyth a dydy nhw ddim yn cael unrhyw fath o gymorth."
Roedd Brian yn un o tua 40 o drigolion lleol a fynychodd gyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar i drafod yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
'Gwrando ar eu pryderon'
Cafodd yr heddlu a chynrychiolwyr Cyngor Ceredigion eu gwahodd, ond nid oedd y naill na'r llall yn gallu bod yn bresennol.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedden nhw'n gallu anfon unrhyw un i'r cyfarfod ond dywed datganiad eu bod am roi sicrwydd i "breswylwyr a phobl leol … ein bod ni'n gwrando ar eu pryderon, a bod camau rhagweithiol ar y gweill i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.
"Mae angen ymateb partneriaeth i'r materion a godwyd, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i'w datrys a mynd i'r afael â nhw, a dod o hyd i atebion hirdymor."
Dywed Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, fod yr heddlu yn falch o'r ffordd y mae'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae'n rhywbeth y byddwn yn canolbwyntio arno yn y blynyddoedd i ddod hefyd, felly rydym yn cymryd pryderon ein cymunedau yn ddifrifol iawn.
"Byddwn yn gobeithio y bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo pobl Aberystwyth ac wrth gwrs bydd ein timau cymdogaeth yn cymryd rhan."
Data diweddar
Mae data'r heddlu yn dangos bod 108 o ddigwyddiadau gwrth-gymdeithasol yn ward Rheidol yn ystod y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, gyda chynnydd mewn adroddiadau rhwng mis Ebrill a mis Medi.
Roedd hyn yn ostyngiad o 146 o ddigwyddiadau yn y flwyddyn flaenorol.
Serch hynny, mae trigolion y ward yn teimlo bod y broblem yn cynyddu a bod rhaid iddyn nhw ffonio'r heddlu yn aml.
Yn ddiweddar, fe wnaeth yr heddlu ymateb i ymosodiad ar gartref pensiynwraig.
Dywedodd Tonwen Edwards, sy'n 79 oed, fod y digwyddiad wedi gwneud iddi deimlo'n llai diogel yn ei chartref
"Pan maen nhw'n cicio eich drws i mewn dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel, chi'n gwybod.
"Dydych chi ddim yn gwybod a ydych chi wedi cael eich targedu neu ei bod yn ei wneud wrth basio heibio fel roedd y bachgen yma yn wneud.
"Roedd clo'r drws wedi torri, felly roedd yn rhaid i ni drwsio hynny, ac roedd yn rhaid i ni gael yr heddlu.
"Rydyn ni angen yr heddlu i gerdded o amgylch yr ardal.
"Maen nhw'n mynd rownd yn eu faniau, ac maen nhw'n dweud eu bod nhw'n mynd rownd, ond dwi ddim yn eu gweld nhw'n mynd yn aml iawn."
Mae Mrs Edwards wedi ysgrifennu at Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, i fynegi ei phryderon.
Wedi i Mr Llywelyn gael ei ethol yn 2016 fe gyflawnodd addewid ei ymgyrch etholiadol i adfer camerâu cylch cyfyng i drefi ardal Dyfed Powys.
Ond yn ei llythyr mae Mrs Edwards yn gofyn i'r Comisiynydd pam nad oes yna gamerâu yn yr ardaloedd preswyl lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem.
Mewn datganiad dywedodd Mr Llywelyn: "Rwy'n ymwybodol iawn o bryderon trigolion Aberystwyth ynglŷn â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd o'r dref ac rwyf wedi derbyn cadarnhad fod yr heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn yr ardaloedd dynodedig gyda'r nod o roi sicrwydd pellach i'r gymuned.
"Y llynedd penodwyd cwnstabl i wasanaethu canol tref Aberystwyth."
Dywedodd y Comisiynydd hefyd fod 155 o gamerâu cylch cyfyng wedi eu gosod mewn 25 o drefi ar draws ardal heddlu Dyfed-Powys, 10 camera yn Aberystwyth.
Ychwanegodd, wrth ystyried eu lleoliad mae'r heddlu yn edrych ar ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ond fod lleoliad camerâu hefyd yn destun Asesiadau Effaith Preifatrwydd.
'Mwy fel chi yn canol Llundain'
Dywedodd un gŵr oedd yn dymuno aros yn ddienw fod "lot o gyffuriau yn dod mewn o Aberystwyth a dim ym mhobman ond rownd ardal ni, lan y castell, ar bwys St Mich's (yr eglwys) ... yn y stryd yn pasio pacedi nol a mlaen neu bach o arian a trio neud e yn dawel ond digon hawdd i weld a gwybod beth sy'n digwydd."
"Ma mwy fel chi yn canol Llundain a pha mor ofnus chi gallu teimlo jyst ar stryd eich hunain."
Mewn stryd arall, ger cartref Tonwen Edwards, mae'r preswylydd Laurence Akerman yn disgrifio'r achlysuron yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pan mae'r heddlu wedi cynnal cyrchoedd cyffuriau
"Y tŷ ar y brig, Cilo o heroin oddi yno. Drws nesaf, hanner Cilo.
"Mae rownd tŷ yno yn llawn o bobl ifanc sydd â phroblemau go iawn. Does neb yn helpu'r bobl ifanc hyn, does neb yn helpu i roi trefn ar eu bywydau a'u sefyllfaoedd.
"Mae trywanu wedi bod yma, lle maen nhw wedi cau'r ffordd i ffwrdd.
"Mae yna frwydr wedi bod y tu allan yma gydag 20 o bobl yn cymryd rhan."
Ymateb y cyngor
Mewn datganiad mae Cyngor Ceredigion yn dweud bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem y mae'r sir yn ei gymryd o ddifrif a'i fod eisoes yn gweithio gydag asiantaethau eraill.
Dywed y Cyngor: "Rydym yn deall y rhwystredigaethau a brofir gan drigolion lleol, ac yn annog trigolion neu ddioddefwyr trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol i adrodd unrhyw ddigwyddiad i'r heddlu, waeth pa mor fach, gan y bydd adroddiadau pellach yn helpu i gyfrannu at y mater.
"Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i weithio gyda'r heddlu, fel rhan o grŵp datrys problemau aml-asiantaeth."
Dywed Brian Middleton fod rhai pobl eisoes wedi symud allan o Aberystwyth oherwydd y problemau ac mae'n pryderu os na chymerir camau pendant fe allai'r problemau waethygu.
"Oherwydd y math o bobl sy'n dod yma gyda'r problemau hyn, beth sy'n dilyn nhw yw'r gangiau penodol sy'n cyflenwi'r cyffuriau.
"Bu nifer o achosion ... lle bu ymladd rhwng gangiau o ganolbarth Lloegr, a oedd yn ymladd dros reoli ardal penodol a hynny yn Aberystwyth!"
"Mae'n ysgytwol beth sy'n digwydd - fe fydd hi'n rhy hwyr pan fydd rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol a dydw i ddim eisiau bod yn orddramatig, ond mi fydd hynny'n digwydd.
"Dim ond mater o amser yw hi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021