Gwrthod apêl dedfrydau cynllwyn herwgipio plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae apeliadau yn erbyn dedfrydau i dri pherson oedd yn rhan o gynllwyn i herwgipio plentyn yn Ynys Môn wedi cael eu gwrthod.
Cafodd chwe diffynnydd ddedfrydau o garchar yn Llys y Goron Caernarfon y llynedd am eu rhan yn y drosedd yn dilyn achos a barodd am fis.
Dywedodd y Barnwr Nicola Jones bod y chwech wedi "gweithredu fel vigilantes".
Roedd y grŵp wedi honni bod y plentyn yn dioddef camdriniaeth satanaidd, gan ddweud eu bod yn credu y byddan nhw'n achub y plentyn rhag niwed.
Ond roedd ymchwiliad heddlu eisoes wedi dod i'r casgliad nad oedd yna unrhyw gamdriniaeth.
Fe apeliodd tri o'r diffynyddion yn erbyn eu dedfrydau ar 31 Mawrth, ond yn ôl dyfarniad llys a gyhoeddwyd ddydd Llun, cafodd y tri apêl eu gwrthod.
Gan ddisgrifio'r achos fel "un o'r rhai mwyaf difrifol y gellir ei ddychmygu", fe gadarnhaodd yr Arglwydd Ustus Haddon-Cave, Mr Ustus Griffiths a Mr Ustus Bennathan penderfyniadau dedfrydu'r llys blaenorol.
Bydd y tri diffynnydd yn dal yn treulio cyfnodau hir - cyfanswm o 46 o flynyddoedd rhyngddyn nhw - dan glo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2021