Ceidwadwyr Cymreig i daclo 'problemau dydd i ddydd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo taclo "problemau dydd i ddydd" wrth iddyn nhw lansio'u hymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol ddydd Iau.
Mewn digwyddiad yn Llandudno dywedodd arweinydd y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies y bydd 669 o ymgeiswyr Ceidwadol yn sefyll ar 5 Mai - y nifer uchaf erioed.
Y Ceidwadwyr wnaeth yr enillion mwyaf yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017, gan gymryd rheolaeth dros Gyngor Mynwy.
Mae gan y blaid hefyd aelodau cabinet mewn clymbleidiau llywodraethol ym Mhowys, Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych.
Bu'r Ceidwadwyr hefyd yn arwain Cyngor Bro Morgannwg am ddwy flynedd ar ôl sicrhau'r grŵp mwyaf yn y sir yn 2017.
Ond fe ailgipiwyd y cyngor gan glymblaid, gyda Llafur wrth y llyw, yn 2019 ar ôl i ddadlau mewnol arwain at wyth aelod, gan gynnwys chwe aelod Cabinet, yn gadael y grŵp Ceidwadol.
Yn etholiadau lleol 2017 fe gynyddodd nifer y cynghorwyr Ceidwadol ar draws 12 o 22 awdurdod Cymru, gan gynnwys perfformiadau sylweddol gwell yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Arweiniodd hynny at gipio 80 sedd ychwanegol ar draws cynghorau Cymru, gan ddod â'u cyfanswm i 184.
Yn y lansiad ddydd Iau dywedodd Mr Davies fod cynghorau sy'n cael eu harwain gan y Ceidwadwyr yn cynnig "gwasanaeth o safon, yn mynd i'r afael â'r problemau dydd i ddydd fel trwsio goleuadau ffordd, palmentydd a thyllau yn y ffyrdd".
"Yr hyn mae rhai yn ei ystyried yn bethau di-ddim, maen nhw'n broblemau mawr i nifer o bobl ar eu stepen drws," meddai.
Ychwanegodd nad yw llywodraeth leol Cymru'n gallu fforddio "colli pum mlynedd arall".
"Fe wnes i yrru i fyny o dde Cymru heddiw. Rwy'n gweld cymunedau sy'n ysu am gyfleoedd, eisiau gwireddu'r potensial hwnnw sy'n cael ei ddal 'nôl gan Plaid, Llafur a rhyddfrydwyr ym Mae Caerdydd," meddai.
Ychwanegodd y gweinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies fod y Ceidwadwyr yn cynrychioli "rhyddid, ffyniant a diogelwch".
Dywedodd fod y blaid yn "ennill y dadleuon, yn ennill seddi ac yn barod i gymryd rheolaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru".
Er y bydd pleidleiswyr eleni yn ethol cynrychiolwyr i weithredu ar eu rhan mewn cynghorau lleol, mae hynt y pleidiau'n genedlaethol yn debygol o gael dylanwad ar eu cefnogaeth eleni, fel yn 2017.
Fydd gallu Boris Johnson i argyhoeddi fel Prif Weinidog drwy'r argyfwng costau byw, y rhyfel yn Wcráin a'r datblygiadau yn helynt partïon y pandemig yn Downing Street yn cael dylanwad ar ddelwedd y blaid hyd yn oed mewn etholiad sirol.
Mae'r galwad gan arweinydd Ceidwadol Cyngor Mynwy ar i Boris Johnson i ymddiswyddo ychydig fisoedd yn ôl yn siŵr o godi ei ben eto.
Ond ar drothwy lansiad ymgyrch etholiadau lleol y Ceidwadwyr ddydd Iau dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, fod Llywodraeth Prydain yn "cyflawni dros Gymru, yn buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd i mewn i greu swyddi, yn gwarchod asedau cymunedol ac yn hyrwyddo isadeiledd".
"Dim ond y llynedd fe lansiwyd deg prosiect ar draws Cymru oedd wedi elwa dros £120m, gan gynnwys adfywio hen goleg a marina Aberystwyth, gwella adnoddau ymwelwyr Castell Hwlffordd, a deuoli rhan o'r A4119 yng Nghoed-Elái," meddai.
"Dim ond wrth weithio gyda'n gilydd y gallwn ni sicrhau bod Cymru yn gallu dod yn ôl o'r pandemig gan gynnig swyddi da, hirdymor, i bawb."
Fe fydd Cymru yn ethol cynghorwyr ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol fis nesaf.
Mae etholiadau hefyd yn cael eu cynnal mewn rhannau o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Etholiadau Lleol 2022
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022