Gallai plannu gormod o goed fod yn niweidiol, medd elusen
- Cyhoeddwyd
Mae elusen gadwraethol yn rhybuddio y gallai rhannau o ardaloedd prydferthaf Cymru fod o dan fygythiad oni bai bod cynlluniau i blannu coed i geisio atal newid hinsawdd yn cael eu rheoli'n iawn.
Mae cwmnïau mawr yn prynu ffermydd i blannu coedwigoedd wedi achosi pryder mewn sawl cymuned yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n ddiweddar.
Nawr, mae 'na ofnau y gallai ymdrechion y cwmnïau i leihau eu hôl troed carbon achosi pwysau mewn mannau fel parciau cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod angen 86m o goed erbyn diwedd y degawd er mwyn cyrraedd net sero erbyn 2050.
Ond yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold, mi allai tirweddau Cymru wynebu "trychineb".
"'Dan ni jyst yn dechrau gweld y tap pres yn troi 'mlaen rŵan," meddai.
"Yn fuan, os bydd 'na lot o gwmnïau mawr yn trio symud i mewn i'r maes gwrthbwyso carbon, bydd hyn yn drychineb i dirluniau a tirweddau Cymru."
Coetiroedd Cymru
Ar hyn o bryd mae 310,000 hectar o goetir yng Nghymru - 15% o holl arwynebedd Cymru, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau creu 100,000 hectar yn ychwanegol erbyn 2030.
Y llynedd roedd eu Cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetir yn cynnig hyd at £250,000 i bobl ehangu coedlannau neu blannu rhai newydd.
Yn 2021, cafodd 100 hectar o goed pinwydd a 200 hectar o goed collddail eu creu yng Nghymru, yn ôl Forest Research.
Cafodd 700 hectar o goed pinwydd ac 800 hectar o goed collddail eu plannu yn y pum mlynedd ers 2017.
Diwydiant 'coniffernol'
Tra'n canmol amcanion Llywodraeth Cymru i gyrraedd net sero erbyn 2050, mae John Harold, sydd hefyd yn gadeirydd Partneriaeth Yr Wyddfa, yn dweud bod gwersi i'w dysgu o gynlluniau plannu coed y gorffennol.
"'Dan ni wedi bod yma o'r blaen ar ôl y Rhyfel Mawr, yn y 70au a'r 80au - blancedi wedi eu taflu dros y tirlun. Y planhigfeydd tywyll, dwys, trwm, sy'n sgwoshio bioamrywiaeth allan o'r lle," meddai.
"'Dan ni'n dal yn delio efo canlyniadau hyn yn digwydd yn y gorffennol.
"Roedd dynodiad y Parc, er enghraifft, a safleoedd cadwraeth yn bodoli y tro diwethaf pan oedd 'na broblemau mawr efo planhigfeydd yn yr 80au.
"'Dan ni angen bod yn glir, 'dan ni angen polisi clir bod 'na ddim ceiniog o bres cyhoeddus yn mynd i mewn i'r diwydiant 'coniffernol' fel dwi'n galw fo.
"Does 'na'm problem efo coed yn y llefydd cywir. Ond lle mae'r drafodaeth efo cwmnïau mawr am y lleoliad i'r coed yna? Mae'n gwestiwn pwysig.
"'Dan ni angen ffermwyr, cadwraethwyr, awdurdodau cynllunio i fod yn rhan o'r drafodaeth yna.
"Dydy o ddim yn gwestiwn lle mae pres ar ben ei hun yn ddigon i ddweud wrthom sut fydd tirwedd Eryri yn y dyfodol."
Yr wythnos diwethaf, fe alwodd y Pwyllgor Materion Cymreig am ragor o dryloywder wrth i dir ffermio gael ei brynu gan gwmnïau'n defnyddio cynlluniau gwrthbwyso carbon.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweld "diddordeb mawr" ac ymholiadau gan ddatblygwyr coetir dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl y Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth, Rhys Owen.
"Roedd nifer fawr o'r galwadau roeddem ni'n dderbyn yn dod o du hwnt i'r ffin gan bobl isio buddsoddi i'w teuluoedd, rhai isio lleihau eu hôl troed carbon personol, ac yn meddwl ei wneud o drwy brynu tir a phlannu coed, eraill drwy asiantaethau ar ran cleientiaid neu gwmnïau sylweddol eu maint."
Er hynny, dydy'r grymoedd i reoli planhigfeydd newydd ddim gan y Parc.
"All y Parc ei hun ddim ei reoli o achos mae plannu coed y tu hwnt i'r broses cynllunio," meddai Mr Owen, "ond mi fyddai cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu dylanwadu ar faint a lle a be' sy'n cael ei blannu
"Prif bwrpas y Parc ydy dynodiad tirwedd ac amddiffyn hwnnw ydy ein gwaith ni ynghyd â'r rhinweddau pwysig eraill fel treftadaeth, diwylliant a'n hiaith.
"Mae o'n achosi pryder y gallai cynlluniau sylweddol iawn erydu'r rhinweddau hynny.
"Mae'n bryder i ni gyd dwi'n meddwl, yn enwedig pan 'den ni'n meddwl am fuddsoddiadau'n dod o du hwnt i Gymru, a ddim yn poeni ynglŷn â lle mae nhw'n gwneud y buddsoddiad, m'ond bod nhw'n cael ei wneud o er mwyn lliniaru eu hôl troed carbon nhw."
Mewn ymateb mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud bod deddfau a rheoliadau wedi eu cryfhau'n sylweddol yn y degawdau diwethaf i warchod tirweddau sydd â dynodiad arbennig.
Mae Asesiadau Effaith Amgylcheddol yn cyfeirio'n benodol at "dirlun o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol" ac mae gwelliant i'r rheoliadau ers 2017 yn sôn am barciau cenedlaethol yn benodol fel mannau sydd wedi eu gwarchod ac angen ystyriaeth fel rhan o unrhyw brosiect.
Dywedodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn sicrhau bod pob cynllun yn cwrdd â safonau'r diwydiant a'u bod yn gweithio'n agos gyda rhan-ddeiliaid lleol, perchnogion tir a ffermwyr i sicrhau bod effaith unrhyw goetir newydd ar yr ardal yn cael ei ystyried mewn ymdrech i wireddu'r potensial economaidd a chymdeithasol y gall coed ei gyfrannu."
'Creu cyfle i'r economi wledig'
Dywedodd yr Is-Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS: "Mae angen i ni blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd i gyrraedd net sero erbyn 2050.
"Wedi ei reoli'n iawn, gall plannu coed gynnig cyfle i'r economi wledig i greu swyddi gwyrdd a sgiliau wrth gynaeafu coed ar gyfer deunyddiau gwerthfawr.
"Rydym yn awyddus i osgoi cyrff o du allan i Gymru yn prynu tir ac rydym eisiau gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir eraill i sicrhau hyn.
"Ni fydd Llywodraeth Cymru'n ariannu prosiectau coetir oni bai eu bod yn dangos y safonau uchel sy'n ofynnol o dan ein cynlluniau.
"Mae hyn yn cynnwys cwrdd â safonau'r diwydiant ac ymgynghori'n synhwyrol gyda chymunedau.
"Mae pob prosiect dros bum hectar yn gorfod mynd trwy Asesiad Effaith Amgylcheddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021