Mesurau i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag alcohol, fel busnesau'n cael eu difrodi

Bydd Heddlu'r Gogledd yn cyflwyno rhagor o fesurau i fynd i'r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol yn nhre Caernarfon dros benwythnos y Pasg.

Yn ôl y llu mae cynnydd wedi bod yn nifer y digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan arwain at fusnesau'n cael eu difrodi a swyddogion yn cael eu hanafu.

Mae 'na bryder hefyd ymysg rhai tafarndai bod y defnydd o gyffuriau yn achosi rhagor o broblemau.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru nifer fach o bobl sy'n creu trafferth ac maen nhw'n annog y rheiny sy'n mentro allan i wneud hynny mewn modd diogel.

Er mwyn mynd i'r afael â'r problemau dywed y llu y byddan nhw'n cyflwyno rhagor o fesurau, gan gynnwys mwy o swyddogion yn plismona'r ardal, profi am gyffuriau ar hap a gwneud defnydd o bwerau gwasgaru pe bai angen.

Disgrifiad o’r llun,

Lleiafrif sy'n gyfrifol am y trafferthion, medd y Sarjant Steve Phelps

Yn ôl y Sarjant Steve Phelps, mae cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod ers dechrau'r flwyddyn.

"Da' ni wedi gweld ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu ar nosweithiau Gwener a Sadwrn ac mae'r digwyddiadau i weld yn ymwneud ag alcohol," meddai.

"Nod yr ymgyrch sydd gennym ni ydy lleihau'r rheiny a dangos bod Caernarfon yn le saff, yn le hyfryd i ddod a mwynhau.

"Mae'r digwyddiadau yma wedi bod gan y lleiafrif. Mae'r mwyafrif yn mynd allan ac yn mwynhau eu hunain yn champion efo ni."

Yn ôl rhai o dafarndai'r dref, mae'r defnydd o gyffuriau yn peri pryder hefyd.

Dywedodd un perchennog busnes, nad oedd am gael ei enwi, bod eu busnes wedi cael ei ddifrodi gan grŵp o bobl ifanc yr wythnos hon a'u bod yn poeni am y twf mewn agweddau gwrthgymdeithasol yn lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Evans y bydd mwy o bresenoldeb heddlu'n gwneud gwahaniaeth i ddelwedd y dref hefyd

Yn ôl perchennog Tafarn y Black Boy, John Evans mae 'na groeso i ragor o bresenoldeb gan yr heddlu.

"Dwi'n meddwl bod 'na broblemau rownd y dre ond ddim yn y fan hyn," meddai.

Ychwanegodd y bydd rhagor o swyddogion yn gwneud gwahaniaeth i ddelwedd y dref hefyd.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod nhw hefyd yn ymwybodol o bryder am bobl ifanc yn achosi trafferthion yn y dref, gan ddweud eu bod nhw'n gweithio gydag ysgolion yn lleol i atal hyn.

Ar drothwy penwythnos y Pasg mae busnesau'n dweud eu bod yn edrych ymlaen at groesawu tafarnwyr ond yn annog i gwsmeriaid ymddwyn yn gall.

Tra bod swyddogion am bwysleisio mai nifer fach sy'n achosi'r trafferthion hyn, maen nhw'n annog tafarnwyr i fwynhau'r penwythnos ond gwneud hynny yn ddiogel.

Pynciau cysylltiedig