Etholiadau lleol: Beth sy'n poeni pobl sir fwyaf Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Roedd cyflwr y ffyrdd a'r angen am dai fforddiadwy ymhlith y pynciau ar feddyliau pleidleiswyr

Ar 5 Mai fe fydd y pleidleisio yn digwydd yn yr etholiadau lleol.

Wrth nesáu at y diwrnod mae Newyddion S4C yn ymweld â gwahanol siroedd ar draws Cymru i glywed gan yr etholwyr ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig yn eu hardaloedd nhw.

Mae Craig Duggan wedi bod yn clywed gan bobl yng ngogledd Powys am eu blaenoriaethau nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Prysurdeb Mart Y Trallwng gyda thros wythnos i fynd cyn y bydd pobl yn bwrw pleidlais yn yr etholiadau cyngor

Mae dros chwarter ardal ddaearyddol Cymru o fewn ffiniau Powys - mae'r sir enfawr yn ymestyn o Ystradgynlais yn y de, i'r ardal wrth droed mynyddoedd y Berwyn a phentrefi Llanrhaeadr-ym-mochnant a Llansilin yn y gogledd.

Mae'n sir wledig, a'r boblogaeth wasgaredig o bron 133,000 yw'r lleiaf dwys yng Nghymru.

Ond mae eu cymunedau yn cael eu cysylltu gan y rhwydwaith ffyrdd hiraf yn y wlad - mae gan Bowys 3,423 milltir o ffyrdd, a'r mwyafrif ohonyn nhw yn ffyrdd bach gwledig.

Wrth siarad ag etholwyr ym mart Y Trallwng, roedd cyflwr rhai o'r ffyrdd yn fater sy'n poeni llawer.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi Davies yn dymuno gweld mwy o waith cynnal a chadw ar ffyrdd bach

Dywedodd Dewi Davies o ardal Llanfair Caereinion: "Mae'r ffyrdd mewn cyflwr drwg, yn enwedig y by-roads. Maen nhw'n gwario digon ar y trunk roads ond mae'r bobl yn byw allan ar y ffyrdd bach ac mae'r rheiny yn bwysig.

"Mae'r ffyrdd yn rhywbeth pwysig sydd isie edrych arnyn nhw - 'da ni'n talu treth y cyngor gan ddisgwyl ei fod yn mynd tuag at bethau fel yna."

Roedd Eiri Lewis, ffermwr ifanc o Garno, yn cytuno bod angen mwy o wariant ar y rhwydwaith ffyrdd, ac yn dweud y byddai hi bendant yn bwrw pleidlais wythnos nesaf.

"Dwi'n teimlo bod angen gwelliant efo'r potholes a phethau sydd o gwmpas, ac wrth gwrs mae 'na lot o bethau y byddai ffermwyr yn hoffi cael cymorth efo," meddai

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig iawn pleidleisio ond dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl ifanc yn cymryd y cyfle, a ddim yn gwybod pa mor bwysig yw e i gael llais yn eu dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen camau i gadw pobl ifanc yn yr ardal, medd Alun Jones

I ffermwyr eraill yn y mart roedd sicrhau digon o dai fforddiadwy yn fater y byddan nhw am weld y cyngor newydd yn blaenoriaethu.

Dywedodd Alun Jones, sy'n rhentu fferm gan Gyngor Powys ger pentref Aberriw: "Mae angen mwy o dai i bobl ifanc i gadw nhw yn yr ardal, a hefyd dwi'n gweld y ffyrdd wedi mynd yn wael ofnadwy - yn enwedig y ffyrdd cefn lle mae lot o potholes ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Un arall sy'n galw am fwy o dai fforddiadwy i bobl ifanc yw Emyr Davies

Mae tai yn flaenoriaeth hefyd i Emyr Davies, ffermwr o Benybontfawr.

"Mae isie mwy o dai i bobl ifanc, dw i'n teimlo," meddai.

"Hwyrach mae'n rhywbeth i'r cyngor sir i wneud i adeiladu 'chwaneg o dai i bobl gallu fforddio eu prynu."

Etholiadau Lleol 2022

Fel mewn sawl sir arall mae nifer y cynghorwyr a nifer y wardiau ym Mhowys wedi newid cyn yr etholiad yma.

Bydd nifer y cynghorwyr yn gostwng o 73 i 68, gyda phob cynghorydd yn cynrychioli tua 1,500 o etholwyr.

Mae nifer y wardiau yn gostwng i 60, gydag wyth ward yn dewis dau gynghorydd.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Mae ffiniau nifer o wardiau ym Mhowys wedi newid, ac yn ôl Glyn Roberts o Ddyffryn Banw dyw pawb ddim yn ymwybodol o hynny.

"Mae 'na bobl sy' ddim yn sylweddoli eu bod falle yn pleidleisio [eleni] am gynghorwyr gwahanol i beth oedden nhw wedi bod yn gwneud yn y gorffennol, a dwi ddim yn meddwl bod hyn wedi cael ei esbonio yn ddigon clir i rai pobl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Roberts yn ofni nad yw pawb yn llwyr ddeall goblygiadau newid ffiniau wardiau

I Mr Roberts y pynciau pwysig yw addysg a thai. "Mae addysg gynradd yn eithriadol o bwysig - mae ysgol yn rhoi calon mewn cymuned.

"Peth pwysig arall yw cartrefi i bobl leol - cartrefi mewn pentrefi Cymraeg i bobl Cymraeg sydd â theuluoedd wedi magu yn yr ardal sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwthio allan.

"Os buasai yna dai fforddiadwy i bobl ifanc basa fe yn sicr yn gwneud cymuned yn llawer mwy cyfoethog."

Y farn yn Llanfyllin

Yn nhref farchnad Llanfyllin yng ngogledd Sir Drefaldwyn bydd yr etholwyr yn dewis un cynghorydd o dri ymgeisydd - does dim ymgeiswyr annibynnol yno.

O addysg i gyflwr y ffyrdd, o ofal i ailgylchu, mae gan y cyngor gyfrifoldebau eang. Ond beth yw'r pethau pwysig i bobl Llanfyllin?

Disgrifiad o’r llun,

Mae prinder tai fforddiadwy yn broblem yn Llanfyllin hefyd, medd Glenys Parkes

I Glenys Parkes, sy'n gweithio mewn siop yn y dref, sicrhau tai fforddiadwy i bobl ifanc yw'r flaenoriaeth.

"Mae fy mab i wedi trio cael adeiladu yn lleol ac roedd e wedi cael ei wrthod," meddai, gan ddadlau bod angen "edrych ar ôl y bobl leol a'r plant lleol ifanc".

Ychwanegodd: "Da' chi isie iddyn nhw aros yma. Mae e'n gweithio'n lleol ac oedd e eisiau aros yn Llanfyllin, ond oedd e'n gorfod prynu tu allan i Lanfyllin achos bod 'na ddim byd i helpu nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym Lloyd o blaid cadw ysgolion lleol ar agor

Mae gan Gwilym Lloyd, ffermwr o Lwydiarth, amrywiaeth o flaenoriaethau.

"Trwsio ffyrdd, a chadw'r ysgolion lleol yn agored - hefyd mae llawer o bobl ifanc yn mynd dros y ffin yn does. Does dim gwaith yn yr ardal."

Beth bynnag yw blaenoriaethau pobl Llanfyllin a gweddill Powys fe gawn nhw gyfle, fel etholwyr ym mhob sir, i fwrw pleidlais ar 5 Mai.