'Wrth ein boddau o weld arbrawf pleidlais gynnar'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd gorsafoedd pleidleisio yn agor yn gynnar mewn rhai ardaloedd o Gymru cyn yr etholiadau lleol ddydd Iau nesaf.

Mae pedwar awdurdod lleol yn arbrofi gyda ffyrdd newydd i etholwyr fwrw eu pleidlais.

Bydd y rheiny sydd wedi cofrestru i bleidleisio ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a rhai ardaloedd o Ben-y-bont yn gallu pleidleisio'n gynt na'r arfer.

Mae'n rhan o arbrawf pleidleisio hyblyg Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr etholiadau lleol mor "hyblyg ac sy'n bosib", ac i geisio cael pobl ifanc i bleidleisio.

Bydd etholwyr mewn ardaloedd eraill o Gymru yn mynd i'r blwch pleidleisio i ddewis eu cynghorwyr lleol ar 5 Mai.

Bydd swyddfeydd y cyngor yn Ystrad Mynach a Phont-y-pŵl ar agor i bobl Caerffili a Thorfaen ddydd Sadwrn, 30 Ebrill a dydd Sul, 1 Mai.

Bydd etholwyr ym Mlaenau Gwent yn gallu pleidleisio ddydd Mawrth, 3 Mai a dydd Mercher, 4 Mai yng Ngholeg Gwent, Glynebwy.

Ar yr un diwrnodau ym Mhen-y-bont, bydd pleidleisio cynnar yn dechrau i etholwyr mewn saith ward wahanol.

Bydd Ysgol Gyfun Cynffig hefyd ar agor ddydd Mawrth i rai pleidleiswyr.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Cafodd pleidleisiau ar gyfer pobl 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol ac i Senedd Cymru eu cyflwyno cyn etholiad y Senedd 2021.

Ers 1931 mae pob etholiad cyffredinol wedi cael eu cynnal ar ddydd Iau ac mae etholiadau lleol a rhai datganoledig wedi dilyn y drefn honno.

'Mae'n bryd trio rhywbeth newydd'

Yn ôl Jess Blair, cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, dyw'r ffordd mae pobl yn gallu pleidleisio "heb newid llawer" dros y ganrif ddiwethaf, "felly ry'n ni wrth ein boddau yn gweld y peilot yma'n cael eu lansio'r penwythnos hwn".

Ychwanegodd: "Ry'n ni'n gwybod bod nifer y pleidleiswyr ar gyfer etholiadau lleol yn draddodiadol wedi bod yn isel, a drwy ehangu'r etholfraint i bobol 16 ac 17 yng Nghymru, mae'n bryd trio rhywbeth newydd er mwyn cael mwy o bobl ifanc i dalu sylw.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen at weld sut mae'r rhaglenni peilot yma'n gweithio yn ymarferol ac fe fyddwn yn dymuno gweld gorsafoedd pleidleisio mewn gwahanol lefydd a phleidleisio ar wahanol ddiwrnodau yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol.

"Fe ddylai fod mor hawdd ag sy'n bosib i fwrw eich pleidlais fel bod mwy o bobl yn cael llais ynghylch pwy sy'n gwneud y penderfyniadau allweddol yn ein cymunedau."

Etholiadau Lleol 2022

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r Athro Laura McAllister ddim yn siŵr a fydd hyn yn ddigon yn ei hun i ddenu llawer mwy o bleidleiswyr

Mae'r Athro Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn croesawu'r "ymdrech i ehangu'r cyfleoedd i bleidleisio" a cheisio denu mwy o bleidleiswyr, ond dyw hi ddim yn siŵr a fydd hyn yn ddigon yn ei hun.

"Fi ddim yn disgwyl i gael cynnydd mawr o'r experiment yma oherwydd mae'r dystiolaeth yn dangos bod e'n anodd iawn sicrhau cynnydd jyst gyda flexible voting a phleidleisio'n gynt na'r diwrnod pleidleisio."