Pum munud gyda Bardd y Mis Dafydd Pritchard

  • Cyhoeddwyd
Dafydd PritchardFfynhonnell y llun, Llun cyfannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Dafydd Pritchard, sy'n wreiddiol o Ddyffryn Peris ond yn byw yn Llanbadarn Fawr erbyn hyn

Mae'n brifardd sy'n hoff iawn o griced, mae'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol a thrwy gydol Mai, Dafydd Pritchard fydd Bardd y Mis ar BBC Radio Cymru.

Fe gawsoch eich magu yn Tŷ Capel, Nant Peris, pentref bychan yn Nyffryn Peris wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd, sut fagwraeth gawsoch chi a sut wnaeth eich siapio chi?

Magwraeth ddigon cyffredin i'r cyfnod hwnnw mewn pentref a oedd i bob bwrpas yn gyfan gwbl Gymraeg. Roeddwn wrth fy modd â'r mynyddoedd, a dweud y gwir, ac yn teimlo'n saff iawn mewn dyffryn cul â'i gopaon uchel. Mewn lle felly, mae rhywun yn gallu gweld cawodydd yn dod tuag atoch chi a mesur pa mor hir y byddan nhw'n para!

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Nant Peris tuag at Crib Goch

Gan ein bod yn byw yn Tŷ Capel (Llys Awel oedd yr enw swyddogol), roedd mynychu'r gwasanaethau ar y Sul yn Rehoboth yn rhan naturiol o fywyd i ni blant. Er i mi adael y traddodiad anghydffurfiol yn y pen draw, ac ymuno â'r Eglwys Gatholig, rwy'n hynod ddiolchgar am y cefndir hwnnw, yn ddiwylliannol ac yn grefyddol. Roedd clywed Cymraeg rhywiog yn gyson o'r pulpud yn sicr yn help i rywun a fyddai'n dechrau chwarae efo geiriau ac yn trio sgwennu ychydig o gerddi.

Rydych chi wedi gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol ers nifer o flynyddoedd, yn cynnwys fel rheolwr Archif Sgrin a Sain am gyfnod. Petai'r Llyfrgell yn cynnig un llyfr ac un recordiad i chi fel rhodd i ddiolch am eich gwaith - beth fyddai eich dewis?

Cwestiwn anodd! Dewis pethau nad ydyn nhw'n bod yw'r ffordd orau o osgoi'r benbleth, efallai.

Felly, y llyfr fyddai blodeugerdd o gerddi'r holl feirdd a oedd wedi bod yn cyfansoddi cyn Aneirin a Thaliesin.

Bu'r Athro Gwyn Thomas am flynyddoedd yn chwilota am recordiad o lais R. Williams Parry, ond heb lwyddiant. Felly, fe hoffwn i'r Llyfrgell ddarparu recordiad o lais Bardd yr Haf i mi!

Ffynhonnell y llun, Archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

R Williams Parry, fu hefyd yn byw yn Nyffryn Peris am gyfnod

Os oes un gêm sy'n cael ei chysylltu gyda'r grefft o sgwennu, mae'n debyg mai criced yw hwnnw. Fel 'cyn-fowliwr llaw chwith', yn ôl eich disgrifiad ar Trydar, beth yw apêl criced i chi a chymaint o feirdd eraill?

Argol! Mae mathau gwahanol o griced yn apelio at fathau gwahanol o bobl. Oes, mae cyffro i'w gael mewn gemau ugain pelawd neu undydd, ond i mi y gemau prawf pum diwrnod sy'n rhoi'r pleser mwyaf.

Y mae amynedd yn bwysig yn y gemau hynny ar ran y chwaraewyr a'r cefnogwyr, ac efallai fod dangos amynedd yn ddawn sy'n prinhau - ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr! Bydd rhai eto'n gwirioni ar y clatsiwr o fatiwr, ond i mi yr hwn sy'n gallu gosod ei droed flaen yn solet ar y llawr i gyfarfod â'r bêl gyda'r bat yn yr union le i helpu'r bêl honno i gyrraedd y ffin yw'r un sy'n cyflawni'r gamp fwyaf ac sy'n ennyn y mwyaf o bleser i mi.

Crefft a gwefr - mewn criced a barddoniaeth!

Rydych chi'n brofiadol ar gystadlu yn Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ac fel yn y byd criced, mae angen cymysgedd o sgiliau a phersonoliaethau gwahanol i greu tîm llwyddiannus. Petai chi'n creu'r tîm barddol perffaith, pwy fyddech chi'n ddewis fel eich bowliwr cyflym peryg, eich bowliwr spin cyfrwys, eich batiwr agoriadol dibynadwy a'r all-rounder?

Beth am hyn? Jim Parc Nest i agor y batio'n ofalus a phwyllog - ond sy'n bwrw pob bêl lac am y ffin. Twm Morys fyddai'r bowliwr sbin cyfrwys, gan nad oes dal sut fydd y bêl yn bihafio. Twm Morys fyddai'r bowliwr cyflym peryg hefyd! A beth am Mererid Hopwood fel ein all-rounder?

Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Derbyn y Prifardd T James Jones, neu Jim Parc Nest, i dîm Dafydd Pritchard?

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Byddai wedi bod yn ddifyr tu hwnt gwybod i ba gyfeiriadau barddol y byddai Wilfred Owen wedi mynd ar ôl y Rhyfel. Yn anffodus, bu farw reit ar ddiwedd yr ymladd - felly, rwy'n dewis bod yn Wilfred Owen ar y diwrnod olaf hwnnw er mwyn peidio mynd i gyfeiriad y gamlas honno lle cafodd ei saethu.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Mae hwn yn gwestiwn amhosib! Bron popeth gan Gerallt Lloyd Owen neu WH Auden, a cherddi bachog, hynod effeithiol William Carlos Williams… a llawer, llawer mwy.

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Byddai'n braf cyhoeddi cyfrol arall, rywbryd. Felly - a hynny fel nod - dim ond dal i chwilio am gerddi newydd o rywle, gan obeithio y byddan nhw'n dal i ddod. Mae hynny'n arbennig o wir am y mis nesaf!