Torcalon i Wrecsam yn ffeinal Tlws FA Lloegr yn Wembley

  • Cyhoeddwyd
Gôl Michael CheekFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gôl Michael Cheek yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Bromley yn Wembley

Cafodd breuddwyd Wrecsam o ennill eu tlws cyntaf ers 2013 ei chwalu wrth i Bromley eu trechu i ennill Tlws FA Lloegr yn Wembley ddydd Sul.

Roedd hi'n ddechrau digon cyfartal, ond Jordan Davies gafodd y cyfle gorau o'r cyfnod agoriadol, gyda'i ergyd o ganol y cwrt cosbi yn mynd yn syth at golwr Bromley, Ellery Balcombe.

Yn wir, dyna oedd cyfle gorau'r hanner cyntaf - hanner oedd 10 munud yn hirach na'r 45 oherwydd anaf drwg i amddiffynnwr Bromley, Omar Sowunmi - wrth iddi barhau'n ddi-sgôr ar yr egwyl.

Yn y dorf o 46,111, roedd perchnogion Wrecsam - sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney - yn eistedd gydag amryw o sêr eraill - gwraig Reynolds, Blake Lively, y cyn-beldroediwr David Beckham a'r actor Will Ferrell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David Beckham, Ryan Reynolds a Will Ferrell yn rhannu jôc yn Wembley

Er i Wrecsam ddechrau'r ail hanner gyda mwy o frwdfrydedd, Bromley gafodd gyfleoedd mawr cyntaf yr hanner, wrth i'r golwr Christian Dibble arbed yn dda o ergydion Ali Al-Hamadi a Michael Cheek.

Fe wnaeth pwysau'r clwb o dde Llundain ar ddechrau'r ail hanner ddangos yn y pendraw, wrth i Cheek rwydo i roi Bromley ar y blaen wedi ychydig dros awr o chwarae.

Fe ddaeth rhagor o gyfleoedd wedi hynny, ac roedd y Dreigiau'n ffodus i beidio mynd ymhellach ar ei hôl hi.

Daeth cyfle gorau'r gêm i'r Cymry gyda 93 munud ar y cloc, ond llwyddodd Balcombe i arbed yn wych o beniad yr eilydd Jake Hyde.

Llwyddodd Wrecsam i roi'r bêl yn y rhwyd wedi 95 munud, ond roedd Hyde yn camsefyll, ac roedd hynny'n ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Bromley.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cefnogwyr Wrecsam y cyfle i floeddio Hen Wlad Fy Nhadau cyn dechrau'r gêm

Bydd golygon Wrecsam nawr yn troi at gemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol wrth iddyn nhw barhau gyda'u hymdrechion am ddyrchafiad i Adran Dau.

Fe fyddan nhw'n herio un ai Notts County neu Grimsby yn y rownd gynderfynol ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, a phe byddan nhw'n cyrraedd yno, fe fydd y ffeinal ar 5 Mehefin.