Llofruddiaeth Rhyd-wyn: Dyn yn Llys Y Goron
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod Buddug Jones wedi ei darganfod yn ei gwely gydag anaf i'w phen
Mae dyn o Ynys Môn wedi ymddangos am y tro cyntaf mewn Llys y Goron ers cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 48 oed.
Ymddangosodd Colin John Milburn, sy'n 52 oed ac o bentref Rhyd-wyn, yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug mewn cysylltiad â marwolaeth Buddug Jones.
Cafwyd hyd i'w chorff yn ei chartref, sydd hefyd yn Rhyd-wyn ar 22 Ebrill.
Cafodd y diffynnydd ei ddychwelyd i'r ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf ar 25 Gorffennaf.
Fe nododd y llys 17 Hydref fel dyddiad tebygol dechrau'r achos, sy'n debygol o bara am dair wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022