'Angen darparu cinio ysgol oer i gwrdd â'r gofyn'
- Cyhoeddwyd
Fe all darparu bwyd iach, oer yn hytrach na chinio poeth helpu ysgolion oresgyn yr heriau o ymestyn prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion cynradd o fis Medi ymlaen.
Melin drafod Sefydliad Bevan sy'n dweud hynny wrth i bryderon godi nad oes gan ysgolion ddigon o staff, offer a lle i weithredu yr addewid.
Yn dilyn cytundeb rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru, bydd cynllun prydau am ddim yn cael ei ehangu i bob plentyn rhwng pedair ac 11 oed gan ddechrau'r gyda'r ieuengaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gweithio gydag ysgolion a chynghorau i "oresgyn heriau gweithredol a logisteg".
Mewn adroddiad diweddar, mae Sefydliad Bevan - corff sy'n ceisio rhoi terfyn ar dlodi ag anghydraddoldeb - wedi edrych ar yr heriau wrth gyflwyno'r polisi.
Mae nhw'n rhybuddio bod "diffyg manylion ar faint, cyflymder a'r dull" o'i weithredu yn golygu bod "nifer o gwestiynau allweddol" angen eu hateb.
Mae hynny'n cynnwys pa blant fydd yn cael prydau am ddim ym mis Medi.
Rhai o'r "disgyblion ieuengaf" fydd yn elwa i ddechrau, meddai'r llywodraeth.
Mae yna ddyfalu y gall hynny gychwyn gyda dosbarthiadau derbyn cyn cael ei ymestyn i ragor o blant dros y misoedd nesaf.
Ym mis Ionawr 2021, roedd 23.8% o ddisgyblion cynradd Cymru yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
Yr amcangyfrif ydy y bydd 180,000 o blant yn rhagor yn gymwys yn sgil yr addewid i'w ymestyn.
'Teuluoedd yn stryglo'
Mae Dr Steffan Evans, pennaeth polisi Sefydliad Bevan, yn cefnogi egwyddor y syniad ac yn dweud ei fod yn "gam positif".
Ond mae'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganiatáu cynghorau i ddarparu prydau bwyd oer, iach mewn ysgolion lle nad yw'r cyfleusterau yn barod i ddarparu bwyd poeth.
"Yn yr hir dymor mae'n hollbwysig bod cinio twym yn rhan elfennol o'r hyn sy'n cael ei gynnig," meddai.
"Ond y tymor byr gyda chostau yn cynyddu i deuluoedd dros y misoedd nesaf mae gwneud yn siŵr bod bob plentyn yn cael bwyd yn fwy pwysig ni'n meddwl yn y tymor byr na edrych ar yr elfen [o fwyd] poeth."
Yn Ysgol Twm o'r Nant yn Sir Ddinbych, mae tua 9% o'r plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.
Yn ôl y pennaeth, Dafydd Elgan Davies, bydd y disgyblion yn elwa o dderbyn pryd maethlon.
Dywedodd: "Da ni'n ymwybodol o deuluoedd sydd yn stryglo [ar hyn o bryd] ac sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ac ella jyst uwch ben y trothwy cinio ysgol arferol."
Staffio?
Bydd cegin yr ysgol yn cael offer a phoptai newydd. Mae'r cyngor sir hefyd wedi cyflwyno bwydlen newydd sy'n "iachus" ac yn "haws i'w goginio", meddai'r prif gogydd Jane Jones, cyn-Gogydd Ysgol y Flwyddyn Cymru.
Ond mae hi'n cydnabod y gall diffyg staff fod yn broblem.
"Mae o yn bryderus," meddai. "Dwi yn gweld lot o lefydd sydd yn gweini bwyd yn stryglo efo staff ond dwi'n gobeithio bydd rhywun eisiau dod i weithio efo ni yn Sir Ddinbych."
Ond beth am oriau hirach posib i staff y gegin?
"Mae hynny'n fine," ychwanegodd. "Dwi wrth fy modd yn coginio felly mae awr neu ddwy yn ychwanegol yn iawn."
Ysgolion angen addasu
Yn ôl awdurdodau lleol, mae cannoedd o ysgolion cynradd angen offer newydd i ddarparu prydau a rhai angen estyniad i'w ceginau presennol.
Mae pob un - oni bai am chwech - o ysgolion cynradd Abertawe angen eu huwchraddio neu gael estyniad.
O 73 o ysgolion cynradd Caerffili, mae dwy angen estyniad, pedair angen gwaith "cymedrol" a 65 angen "offer trwm ychwanegol".
Yn ôl Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru sy'n cynrychioli prifathrawon, mae yna gefnogaeth i ymestyn y cynllun.
Ond mae hi'n dweud bod "angen bod yn realistig" am yr heriau, sy'n cynnwys isadeiledd, y gadwyn fwyd a chyllido hirdymor.
Mae Llywodraeth Cymru yn addo y bydd pob disgybl cynradd yn gallu cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
Mae yna £225m ar gael i gefnogi cynghorau wrth ei weithredu, meddai, fel eu bod nhw'n gallu darparu "pryd iach o safon i bob disgybl".
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng ei ddarparu gyda'r gallu sydd gan awdurdodau lleol ac ysgolion i sefydlu'r isadeiledd angenrheidiol i roi safon a gofal, a sicrhau bod y derbynyddion presennol ddim dan anfantais.
"Fe fyddwn yn gwneud datganiad pellach ynghylch ei gyflwyno yn fuan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2021