CBAC: Ymddiheuro am hepgor dramâu o arholiad Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae corff arholi CBAC wedi ymddiheuro ar ôl i ddramâu gael eu hepgor o bapur Saesneg Safon Uwch, gan achosi "gofid" i ddisgyblion.
Dywedodd CBAC fod y camgymeriad yn y papur Saesneg Iaith a Llenyddiaeth fore Mawrth yn "rhywbeth prin iawn" a'u bod "wir yn cymryd y mater hwn o ddifrif".
Bydd "gweithdrefnau cadarn" yn sicrhau nad ydy disgyblion "dan anfantais o gwbl" a'u bod yn derbyn gradd deg, meddai'r corff.
Ond dywedodd cymdeithas prif athrawon eu bod "wedi synnu gan y diffyg sicrhau a rheoli ansawdd".
Fe wnaeth llawer o ysgolion a cholegau gysylltu â'r corff arholi i ddweud fod pedair tudalen ar goll o'r papur.
Roedd hyn yn golygu fod tair drama opsiynol - Much Ado About Nothing, Othello a The Tempest - ar goll, un ai yn rhannol neu yn gyfan gwbl.
Fe wnaeth CBAC ymddiheuro am y "gwall coladu".
Achosi 'panig'
"Caiff pob ateb yn yr arholiad ei ystyried yn ofalus yn ystod y broses o farcio a graddio er mwyn sicrhau bod canlyniad pob myfyriwr am y cymhwyster yn un teg," meddai llefarydd ar ran CBAC.
Dywedodd y byddan nhw'n "edrych yn ofalus ar y rhesymau dros y gwall" ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi ym mis Awst, a gweithredu fel y bo'n briodol.
Ond dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, y byddai'r camgymeriad wedi achosi "panig" i rhai disgyblion.
Er bod disgwyl "rhai problemau" ar ôl dwy flynedd heb arholiadau, dywedodd bod penaethiaid wedi eu "synnu gan y diffyg sicrhau a rheoli ansawdd" oedd yn golygu fod rhai disgyblion wedi derbyn papur arholiad oedd â "phedair tudalen allweddol ar goll".
"Roedd disgyblion wedi cael eu darbwyllo cyn yr arholiadau y byddai marcio haelach yn sgil effaith y pandemig ar eu haddysg, ond mae'n bosib eu bod wedi colli ffydd mewn system sy'n creu'r fath broblemau iddyn nhw ar adeg llawn straen.
"Rydyn ni'n cydnabod fod CBAC wedi ymddiheuro i'r dysgwyr gafodd eu heffeithio, ond nid ydy hynny'n ddigon i fynd i'r afael â'r gofid gafodd ei achosi gan gamgymeriadau na ddylai fod wedi digwydd."
Marcio 'mwy hael'
Fe wnaeth rhai rhieni a disgyblion hefyd leisio pryder ar y cyfryngau cymdeithasol am bapur Mathemateg Safon Uwch ddydd Mawrth, yn dilyn pryder tebyg am y papur Uwch Gyfrannol ym mis Mai.
Ond fe wnaeth CBAC wadu fod unrhyw gwestiynau amhriodol ar y papur.
"Mae dewis o gwestiynau mewn arholiadau bob amser, rhai'n fwy heriol na'i gilydd. Mae angen gwahaniaethu'n effeithiol ar draws yr holl ystod graddau a dyfarnu gradd deg i bob myfyriwr."
Dywedodd y byddai'r ffiniau graddau yn cael eu pennu er mwyn adlewyrchu safon y papur, ac y byddai'r broses o ddyfarnu'r cymwysterau yn "fwy hael yn 2022" er mwyn adlewyrchu effaith y pandemig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022