Plant dosbarth derbyn i gael cinio am ddim o fis Medi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol LlanuwchllynFfynhonnell y llun, Ysgol LLanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw bydd holl blant cynradd Cymru gan gynnwys y rhain yn Llanuwchllyn yn derbyn cinio ysgol am ddim erbyn 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y rhan fwyaf o blant dosbarth derbyn yn cael prydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen.

Y disgwyl yw y bydd pob disgybl cynradd yn cael cinio am ddim erbyn 2024 yn sgil cytundeb Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru.

Yn sgil yr argyfwng costau byw mae gweinidogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosib.

Mae cyfanswm o £225m wedi'i neilltuo dros y tair blynedd nesaf.

Disgrifiad,

"Rhaid goresgyn heriau i ddarparu cinio am ddim," meddai Jeremy Miles

Bydd y 22 awdurdod yn dechrau derbyn y cyllid ychwanegol o fis Medi ymlaen ond mae yna bryderon nad oes gan rai ysgolion ddigon o staff, offer a lle i weithredu yr addewid.

Dywed Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, bod y llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau i oresgyn yr heriau hynny.

Fis Mehefin dywedodd Sefydliad Bevan y byddai darparu bwyd iach, oer yn hytrach na chinio poeth yn helpu ysgolion i ymdopi.

'Ni ddylai plentyn fod yn llwgu yn yr ysgol'

Mae'r cyhoeddiad yn golygu na fydd plant, a fydd yn bump oed yn ystod y flwyddyn academaidd nesa', yn gorfod talu ac fe fydd miloedd yn elwa.

Mae disgwyl i ddisgyblion blynyddoedd un a dau ddechrau gael cinio am ddim yn Ebrill 2023.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun wedi'i gyflwyno i helpu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw

"Ni ddylai plentyn fyth fod yn llwgu yn yr ysgol," ychwanegodd Mr Miles.

"Gyda llawer o deuluoedd yn teimlo'r esgid yn gwasgu oherwydd yr argyfwng costau byw, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymryd camau ymarferol i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.

"Mae ein rhaglen newydd o brydau ysgol am ddim i blant cynradd yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym yn ceisio helpu teuluoedd.

"Mae plant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, felly rydym yn dechrau gyda phrydau ysgol am ddim i ddosbarth Derbyn o fis Medi, ac yna bydd y rhan fwyaf o blant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 hefyd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill nesaf.

"Hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol ac ysgolion am gydweithio â ni mewn ffordd adeiladol dros y misoedd diwethaf i'n helpu i wireddu hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dilys Ellis-Jones pennaeth Ysgol OM Edwards y bydd y cynllun yn help mawr i rieni

Dywedodd Dilys Ellis-Jones, pennaeth Ysgol OM Edwards yn Llanuwchllyn ger Y Bala, fod y newyddion i'w groesawu gan fod "plant yn mynd i gael bwyd am ddim yn enwedig mewn amser pryderus fel hyn".

"Ma' bopeth yn mynd i godi y flwyddyn yma mae'r geiniog yn gwasgu. Ma' hwn yn mynd i fod yn gymorth mawr i rieni i gyd."

"Y dyddiau hyn, ni ddylai unrhyw blentyn fod yn llwgu tra yn yr ysgol."

'Ysgolion ddim yn barod'

Ond yn ôl Laura Doel o undeb NAHT Cymru, mae cyflwyno'r polisi wedi ei "frysio", gyda rhai ysgolion "yn cael trafferth gyda'r amserlen uchelgeisiol".

Er ei bod yn cefnogi'r polisi, dywedodd bod "nifer o heriau o'r gadwyn gyflenwi i'r isadeiledd mewn ysgolion".

"Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £25m ychwanegol i gefnogi isadeiledd ysgolion, rydyn ni wedi clywed gan rai awdurdodau lleol sy'n cael trafferth cael y nwyddau sydd eu hangen a bod angen ehangu eu ceginau, er enghraifft."

Dywedodd Sian Gwenllian AS o Blaid Cymru: "Dyma ddechrau'r gwaith o weithredu ymyriad sylweddol sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn nawr ac yn y dyfodol - nid yn unig o ran taclo llwgu ymysg plant a thlodi plant, ond mewn perthynas â'n nodau ehangach, sef cynhyrchu bwyd yn lleol a chefnogi economïau lleol.

"Bydd yr ymrwymiad uchelgeisiol hwn yn newid bywyd llawer o bobl ac yn help sylweddol i deuluoedd ledled y wlad, ac mae'n dangos sut y gallwn gyda'n gilydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad."