Gadael gwair i dyfu'n hir er mwyn hybu bywyd gwyllt?
- Cyhoeddwyd
Mae'r arfer o adael gwair i dyfu'n hir er mwyn hybu bywyd gwyllt ar gynnydd drwy Gymru.
Er bod cynghorau sir yn dal i orfod delio â llu o gwynion "swnllyd" yn ei gylch, maen nhw'n dweud bod agweddau'n newid.
Bellach mae 'na rai ardaloedd lle caiff y gwair ond ei dorri unwaith y flwyddyn - gyda'r borfa'n tyfu'n hir drwy'r haf.
Mae BBC Cymru wedi bod yn dilyn ambell un o'r gweithwyr sy'n gorfod delio ag ymateb y cyhoedd a thawelu unrhyw ffraeo.
Arferion yn newid
Atebodd 17 allan o'r 22 awdurdod lleol gais am wybodaeth, a phob un yn nodi bod eu harferion torri gwair wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Cyngor Torfaen yn dadlau eu bod yn arwain y ffordd yn y maes, ar ôl clustnodi ardaloedd o dir gwyrdd i'w gadael yn llonydd ers dechrau'r cyfnodau clo.
Eleni mae 'na 150 o ddarnau o dir drwy'r sir - mewn parciau, stadau tai ac ar hyd ffyrdd - fydd ddim yn cael eu torri drwy'r haf, gyda'r nod o ehangu hynny i 200 y flwyddyn nesaf.
Bu'n rhaid prynu cyfarpar newydd â nawdd gan Lywodraeth Cymru fel bod modd i'r gweithwyr ddelio â'r llystyfiant gwytnach yn yr hydref.
Ond dadlau bod y newid yn allweddol er mwyn "dod â blodau gwyllt yn ôl, a thrwy hynny atynnu bywyd gwyllt" fel pryfed, adar ac ystlumod, mae Paul Roberts o'r cyngor.
"Mae 97% o'r dolydd blodau gwyllt [drwy Brydain] wedi'u colli ers y 30au," meddai.
Ychwanegodd fod gadael gwair i dyfu'n hir yn amsugno mwy o allyriadau carbon, ac yn helpu gwarchod rhag rhai o effeithiau newid hinsawdd fel y risg uwch o lifogydd.
Ond mae 'na garfan o bobl sy'n dal i feddwl "bod o'n edrych yn flêr a bo' ni'n gadael i lefydd fynd yn wyllt", meddai.
Sylwadau 'cefnogol' ar gynnydd
Veronika Brannovic, cydlynydd partneriaethau natur y sir, sy'n gorfod ateb unrhyw gwynion - ac mae 'na "lot fawr ohonyn nhw", meddai gan wenu.
"Dwi'n trio mynd allan i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb i egluro'r ffordd newydd o weithio," meddai.
Yn gynyddol mae'n cael sylwadau sy'n "fwy cefnogol" - yn enwedig gan bobl ifanc, "sy'n awgrymu bod 'na elfen o wahaniaeth rhwng y cenedlaethau ar y pwnc yma", eglurodd.
Felly beth am farn pobl leol?
Yn wythnosol mae 'na ddysgwyr Cymraeg yn dod at ei gilydd i gerdded a chymdeithasu yng Nghwmbrân gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.
Dywedodd Steve Jones o Bontllanfraith ei bod hi'n syniad da i adael i wair a blodau dyfu mewn ardaloedd penodol, ond doedd e ddim yn cefnogi ymestyn hynny i erddi pobl gan fod hynny'n gallu edrych yn "anhaclus".
Gallai Stephen Baghurst o Aber-big weld bod gadael llystyfiant yn bwysig i bryfed a'r gwenyn, ond mae hefyd o'r farn bod diogelwch yn hanfodol a bod angen i arwyddion ffordd fod yn glir.
"Mae'n anodd cael balans rhwng y ddau ohonyn nhw," meddai.
"Os yw glaswellt yn tyfu lan o gwmpas y ffordd, er enghraifft ar gylchfannau, mae'n anodd i weld y ceir arall sy'n dod," ategodd Steve Jones.
Dywedodd Bob Sanders ei fod e wrth ei fodd yn gweld y llystyfiant, ond fel un sy'n mwynhau beicio a cherdded wrth gamlesi, bod yn rhaid cadw llwybrau yn glir.
'Dwy ochr' i'r sefyllfa
Mae Sioned Davies, swyddog datblygu Blaenau Gwent a Thorfaen yn meddwl bod cynlluniau'r cyngor yn gadarnhaol.
Dywedodd: "Pan mae pobl yn byw mewn ardal fel hyn, mae gen ti'r gwyrddni a mae pobl yn parchu hynny, ond ma' nhw ishe gweld y lle yn daclus hefyd - felly ma' 'na ddwy ochr iddo fe yndoes?
"Ma' raid iddyn nhw fod yn ofalus oherwydd, os yw'r tyfiant yn mynd yn ormod, 'dych chi'n mynd i gael pobl ddim yn parchu'r lle ac ydy sbwriel wedyn yn mynd i ddod efo hynny oherwydd bod neb yn poeni am dorri'r glaswellt?"
Wrth ateb pryderon pobl ger Llyn Cychod Cwmbrân - un o'r ardaloedd lle mae'r borfa'n tyfu'n hir erbyn hyn - pwysleisiodd Veronika Brannovic bod torri rheolaidd yn parhau mewn llefydd lle mae'n bwysig gallu gweld yn glir - fel ar ochr priffyrdd a chylchfannau.
Ond dywedodd ein bod "ni wedi cyrraedd pwynt bellach lle bod angen i ni fod yn rhoi hwb i natur ym mhob man fedrwn ni - yn ein gerddi, parciau ac ar hyd ffyrdd".
"Allwch chi ddim jyst dibynnu ar warchodfeydd yn unig," meddai.
'Byd natur yn cael cyfle i ffynnu'
Draw yn Sir Gaerfyrddin, cytuno bod agweddau'n dechrau newid mae'r cynghorydd Aled Vaughan Owen - aelod cabinet yr awdurdod lleol dros newid hinsawdd, datgarboneiddio a chynaliadwyedd.
Esboniodd bod y cyngor yn rhedeg cynllun peilot gan reoli 30 o safleoedd yn wahanol eleni.
"Mae pobl yn dechrau dod i ddeall y gall prydferthwch edrych yn wahanol i'r ddelwedd o wair wedi'i dorri'n daclus," meddai.
"Mae'r prosiect yma wedi rhoi cyfle i ni edrych ar ein tiroedd mewn gwahanol ardaloedd - ardaloedd gwledig, o fewn pentrefi, mewn ardaloedd diwydiannol - a gweld beth yw'r ffordd orau i reoli hwnna er mwyn bod ni, cymdeithas, yn gallu mwynhau ardaloedd, ond falle'n bwysicach bod byd natur yn cael y cyfle i ail-gryfhau ac i ffynnu."
Ymateb y cynghorau
Yn ogystal â hybu bioamrywiaeth, cyfeiriodd rhai cynghorau at bwysau ar eu cyllidebau fel cymhelliad i newid arferion torri gwair.
Dywedodd Cyngor Ceredigion bod yn rhaid iddyn nhw "gynnig gwasanaeth sy'n effeithlon o ran adnoddau".
Yn ôl Sir Fynwy "cyfuniad o anogaeth gan y cyhoedd a galwadau gan eu staff i wneud mwy i helpu bywyd gwyllt", wnaeth eu hannog nhw i ailedrych ar arferion torri gwair.
Dywedodd Cyngor Caerdydd iddyn nhw gyflwyno polisi un toriad y flwyddyn mewn rhai ardaloedd yn 2015, gyda gwerth oddeutu 217 cae pêl-droed yn rhan o'r cynllun erbyn hyn.
Ym Mhowys, mae'r polisi torri ar hyd ffyrdd wedi newid yn ddiweddar fel bod "llawer mwy o'r ymylon mewn ardaloedd trefol ddim yn cael eu torri y tro cyntaf a'r ail dro er mwyn cefnogi bywyd gwyllt".
Mae ymylon ffyrdd mewn ardaloedd gwledig ond yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, heblaw lle byddai hynny'n achosi trafferthion gweld i yrwyr.
Dywedodd Cyngor Casnewydd bod gan y ddinas statws "cyfeillgar i wenyn" a'i fod wedi atal unrhyw dorri gwair yn ystod mis Mai fel rhan o hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020