Cyfarwyddwr cwmni ailgylchu yn euog o ddynladdiad

  • Cyhoeddwyd
Norman ButlerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Norman Butler yn gweithio i'r cwmni fel gyrrwr

Mae rheithgor wedi cael cyfarwyddwr cwmni ailgylchu yn Sir Conwy yn euog o ddynladdiad gweithiwr a fu farw ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant.

Bu farw Norman Butler, oedd yn 60 oed ac o Brestatyn, ar safle Recycle Cymru ym Mae Cinmel fis Tachwedd 2017.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug roedd Stephen Jones wedi gwadu achosi'r farwolaeth trwy esgeulustod dybryd.

Cafodd Jones ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 15 Gorffennaf.

Roedd Mr Butler ond wedi gweithio i'r cwmni, ar Stad Ddiwydiannol Tir Llwyd, am fis pan fu farw.

Roedd ar ei ben ei hun yn y warws pan gafodd ei ddal mewn peiriant sy'n gwasgu cardbord gwastraff yn giwbiau mawr yn barod i'w hailgylchu.

Clywodd y llys ei fod wedi cerddodd at felt cludo i glirio rhwystr, pan syrthiodd i'r peiriant.

Daeth cydweithiwr o hyd i'w gorff dair awr yn ddiweddarach.

Dywedodd patholegydd wrth gwest mai'r casgliad cychwynnol oedd iddo farw yn sgil colli maint anferthol o waed.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Norman Butler ar safle'r cwmni ar Stad Tir Llwyd, Bae Cinmel

Cafodd Jones, 60, ei gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd ar ddiwedd ymchwiliad iechyd a diogelwch.

Roedd yr erlyniad yn dadlau ei fod wedi torri'r ddyletswydd ofal i Mr Butler trwy fethu â threfnu hyfforddiant iddo ddefnyddio'r peiriant.

Clywodd y llys ei fod wedi rhedeg ei fusnes "heb roi unrhyw sylw i ddiogelwch ei weithwyr" gyda pholisïau "annigonol ar bapur, nad oedd yn adlewyrchu'r hyn oedd yn digwydd ddydd i ddydd".

Roedd Jones a'i gwmni eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol, sef methu â sicrhau iechyd a diogelwch eu gweithwyr.

*Mewn fersiwn flaenorol o'r erthygl hon, defnyddiwyd llun anghywir ac rydym yn ymddiheuro am hynny.

Pynciau cysylltiedig