Clybiau plant yn methu â chael staff i ateb y galw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Esyllt Lord ei bod yn "anodd iawn" recriwtio staff, a bod hynny wedi gwaethygu ers y pandemig

Ers y pandemig mae clybiau plant ar ôl ysgol dan bwysau yn methu cael digon o staff cymwys i ateb y galw, a'r broblem yn waeth i glybiau cyfrwng Cymraeg.

Mae bron i un ym mhob pump o glybiau Cymru wedi cau ers dechrau'r pandemig yn 2020, yn ôl y sefydliad sy'n cydlynu gofal plant tu allan i'r ysgol.

Rhieni'n cadw eu plant adref tra'u bod nhw'n dal i weithio yw un rheswm, yn ôl Clybiau Plant Cymru, a staff cymwys yn dod hyd i swyddi eraill ag oriau a chyflogau gwell tra ar ffyrlo.

Maen nhw'n credu y gallai "proffesiynoli" gofal plant helpu'r sefyllfa.

'Colli lot o niferoedd'

"Rydan ni wedi colli lot o niferoedd o blant oherwydd bod rhieni'n gweithio o adra neu maen nhw wedi gorfod ffeindio rhywun arall i warchod eu plant nhw, felly dydyn nhw ddim wedi dŵad yn ôl," eglura Catherine Smith, swyddog hyfforddiant Clybiau Plant Cymru yn y gogledd.

Mae Clybiau Plant Cymru yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n goruchwylio gofal plant yng Nghymru, i geisio helpu clybiau sy'n ei chael yn anodd ymdopi.

"Dyna ydy'n swyddi ni efo clybiau ydy gwneud yn siŵr bod rhieni'n gwybod y manteision o gael y plant yn defnyddio'r clybiau ar ôl ysgol," meddai Ms Smith.

"Mae'n hynod o bwysig i'w iechyd a lles nhw felly rydan ni angen cael y niferoedd 'nôl i fyny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catherine Smith fod nifer o glybiau wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n mynychu

Ers 2016 mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol i weithwyr chwarae gael cymhwyster. O fis Medi, bydd y rheoliadau'n orfodol.

Mae hyn yn fwy o her i glybiau Cymraeg ei hiaith.

"Mae'n haws cael pobl heb y cymwysterau," eglura Esyllt Lord, sy'n rhedeg dau glwb ar ôl ysgol mewn dwy ysgol yng Nghaerdydd.

"Pobl sydd efallai'n cymryd blwyddyn allan o addysg neu sydd eisiau gweld sut mae gweithio gyda phlant, pobl sy'n gweithio mewn ysgolion fel cymhorthwyr.

"Byddai'n grêt cael traean arall gyda'r cymwysterau iawn."

'Anodd cael pobl sy'n siarad Cymraeg'

Er bod rhestr aros o 40 o blant ganddi, dyw Ms Lord ddim wedi gallu recriwtio staff cymwys i ateb y galw.

"Ar ôl y cyfnod clo mae wedi mynd yn dipyn anoddach i ni," meddai.

"Mae'n anodd iawn i gael pobl i weithio yn rhan amser ac mae'n anodd iawn cael pobl sy'n siarad Cymraeg mewn ysgolion fel hyn sydd â'r cymwysterau i gyd."

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i un ym mhob pump o glybiau ar ôl ysgol Cymru wedi cau ers dechrau'r pandemig yn 2020

Gobaith Clybiau Plant Cymru yw y bydd y cymhwyster chwarae gorfodol yn arwain at gydnabod y gwaith fel proffesiwn.

"Proffesiwn ydyn ni ac mae'n broffesiwn sy'n bodoli i sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd i chwarae," medd Catherine Smith.

"Dwi'n deall bod yr oriau yn isel a'r tâl yn isel ond... mae lot o dda yn dod o weithio hefo plant.

"Rydan ni'n angerddol am weithio efo'r sector i ddod â'r cymwysterau cywir i fewn a sicrhau bod y llefydd yma'n para i'r plant."

Costau'n amrywio

Mae manteision i deuluoedd sy'n dewis anfon eu plant i glybiau sydd wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru - gall clybiau cofrestredig gynnig gofal plant di-dreth er enghraifft.

Ond mae'r costau'n amrywio ar draws Cymru.

£5 y sesiwn yw'r cyfartaledd pris yn Wrecsam a Blaenau Gwent, tra bod ardaloedd fel Abertawe, Conwy, Caerffili a Chaerdydd yn codi tua £10 y diwrnod.

Mae'n bris mae rhieni yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd yn hapus ei dalu.

Disgrifiad o’r llun,

"Sai'n siŵr beth arall gallen i wneud" heb glybiau plant, meddai Gemma Disson

"Does dim byd arall mas yna," meddai Gemma Disson.

"Fi'n gweithio mewn meithrin ond mae hi'n rhy hen i hwnna felly sai'n siŵr beth arall gallen i wneud.

"Maen nhw mewn oedran lle maen nhw'n hoffi chwarae gyda phlant eraill.

"Mae'n neis i gael clwb fel hyn. Mae merch fach fi yn joio lot."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae wir yn bwysig bod digon o staff cymwys i edrych ar ôl y plant fel bod y clybiau'n gallu parhau," medd Elin Rowlands

Cytuno mae Elin Rowlands: "Mae mor bwysig i gael y clybiau 'ma i'r plant fynd ar ôl ysgol achos dyna'r unig ffordd ni'n gallu gweithio tu allan i'r oriau mae'r ysgol yn rhedeg.

"Mae wir yn bwysig bod digon o staff cymwys i edrych ar ôl y plant fel bod y clybiau'n gallu parhau."

'Gymaint o biti'

Mae'r manteision di-ben-draw i blant yn ôl Esyllt Lord.

"Ry'n ni moyn rhoi cymaint o gyfle i blant i chwarae ag y'n ni'n gallu, ac i rieni fynd i'r gwaith," meddai.

"Dyna beth sy' mor drist am y peth. Mae clwb fel hyn yn gadael i blant chwarae gyda phlant mewn blynyddoedd gwahanol, i ymarfer eu Cymraeg, i fod yn hyderus wrth chwarae tu allan, gwaith celf.

"Eu dewis nhw yw beth maen nhw'n gwneud mewn clybiau ac mae hynny'n rhoi yr hyder yna iddyn nhw wedyn yn eu dewisiadau bob dydd

"Dy'n ni ddim yn defnyddio sgrin nac unrhyw fath o gyfrifiadur yma felly mae'n amser corfforol iddyn nhw'n aml iawn, amser creadigol, ac mae'n gymaint o biti bod dim mwy o glybiau ym mhob man."

Pynciau cysylltiedig