Rishi Sunak a Sajid Javid yn gadael cabinet Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd
Mae'r Canghellor Rishi Sunak ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid wedi ymddiswyddo o gabinet Boris Johnson.
Daw yn sgil ffrae ynghylch yr ymdriniaeth o honiadau camymddwyn yn erbyn y cyn-Ddirprwy Brif Chwip, Chris Pincher.
Yn ddiweddarach nos Fawrth cyhoeddodd AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, ei bod yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.
Dywedodd Mr Sunak fod y cyhoedd yn disgwyl "i'r llywodraeth gael ei rhedeg yn briodol, yn alluog ac o ddifrif".
Mae Mr Javid wedi dweud wrth y prif weinidog na all "barhau, mewn cydwybod dda, i wasanaethu yn y llywodraeth hon mwyach".
Daeth cadarnhad yn hwyr nos Fawrth mai'r Ysgrifennydd Addysg, Nadhim Zahawi fydd yn olynu Mr Sunak fel Canghellor.
Pennaeth Staff Downing Street, Steve Barclay fydd yn olynu Mr Javid fel Ysgrifennydd Iechyd, a Michelle Donelan fydd yn cymryd hen rôl Mr Zahawi.
'Ni allaf barhau i amddiffyn eich gweithredoedd'
Dywedodd Ms Crosbie yn ei llythyr at Mr Johnson ei bod yn ymddiswyddo oherwydd "nifer yr honiadau o amhriodoldeb ac anghyfreithlondeb - nifer ohonynt yn ymwneud â Downing Street a'ch arweinyddiaeth chi".
Ychwanegodd ei bod yn teimlo y bydd yn achosi "niwed terfynol i'r llywodraeth" os nad yw'n ymddiswyddo, gan arwain at "roi'r allweddi i Downing Street i'r Blaid Lafur, sydd ddim yn addas i arwain".
"Ni allaf barhau i amddiffyn eich gweithredoedd i etholwyr Ynys Môn, sy'n iawn i fod yn ddig," meddai.
Ychwanegodd fod y wlad wedi penderfynu "na allwn ni ymddiried ynddoch chi i ddweud y gwir".
'Camgymeriad' penodi Pincher
Cyfaddefodd Boris Johnson ddydd Mawrth y bu'n "gamgymeriad" i benodi Chris Pincher yn ddirprwy brif chwip o ystyried cwynion am ei ymddygiad.
Ychydig wedyn, tua 18:00, daeth ymddiswyddiad Mr Sunak a Mr Javid o fewn munudau i'w gilydd.
Dywedodd Prif Weinidog y DU "wrth edrych yn ôl dyma'r peth anghywir i'w wneud ac rwy'n ymddiheuro i bawb sydd wedi cael eu heffeithio".
Cafodd Mr Pincher ei wahardd fel AS Torïaidd yr wythnos ddiwethaf ar ôl cael ei gyhuddo o aflonyddu dau ddyn mewn clwb aelodau preifat tra'n feddw.
Mae AS Llafur y Rhondda, Chris Bryant, wedi galw am etholiad cyffredinol.
Dywedodd: "Dylai'r bobl hyn i gyd fod wedi ymddiswyddo fisoedd yn ôl. Ni ddylent byth fod wedi ei roi yn Downing Street yn y lle cyntaf. Maent wedi bod yn rhan o'r broses."
'Go agos i fod ar ben' ar Johnson
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ei bod hi'n "anochel" y bydd Mr Johnson yn gadael ei swydd.
Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C, dywedodd y cyn-Weinidog Ceidwadol, Guto Bebb ei bod hi'n "go agos i fod ar ben" ar Mr Johnson fel Prif Weinidog.
"Mae gormod o fewn y cabinet wedi dangos teyrngarwch dall i'r prif weinidog. Mae'n rhy ychydig yn rhy hwyr," meddai.
Dywedodd Andrew RT Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Dwi wastad wedi dweud ei bod hi'n hanfodol i'r prif weinidog ddal hyder ein gwlad, plaid a senedd.
"Mae'n siomedig bod y llywodraeth wedi brwydro yn ystod y misoedd diwethaf i gyflawni ei hagenda bwysig a'i hymrwymiadau maniffesto a gafodd eu cymeradwyo'n aruthrol yn 2019.
"Rhaid i'r prif weinidog nawr brofi ei fod yn gallu cyflawni ei fandad."
Gwrthododd cadeirydd y blaid yng Nghymru, Glyn Davies, a gweinidog Swyddfa Cymru David TC Davies wneud sylw.
Mae Bim Afolami, is-gadeirydd y blaid Geidwadol, hefyd wedi ymddiswyddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2022