Galw am help gyrfaoedd i fenywod ar ôl gadael y carchar
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gefnogaeth ar fenywod sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar, fel bod modd iddyn nhw ail-afael yn eu gyrfaoedd.
Dyna y mae un fenyw a gafodd ei charcharu wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C.
Daw sylwadau Eleri Cosslet wedi i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyhoeddi cynlluniau i godi canolfan arbennig yn Abertawe fydd yn rhoi cymorth i fenywod sy'n troseddu, fel nad oes rhaid iddyn nhw fynd i garchar confensiynol.
Mae'n rhan o gynllun peilot sy'n para pum mlynedd, ond mae gwleidyddion yng Nghymru yn cwestiynu pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser a beth fydd yn digwydd yn hir-dymor.
Ar hyn o bryd, does dim un carchar i fenywod yng Nghymru.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y ganolfan yn un "arloesol" ond bod angen "profi effeithiolrwydd" y cynllun yn Abertawe cyn gwneud cynlluniau pellach.
Fe dreuliodd Eleri Cosslett o Gaerdydd gyfnod dan glo am drosedd yn ymwneud â thyfu cyffuriau.
Roedd hi'n gyfreithwraig ac yn wraig fusnes lwyddiannus. Yn 2014, cafodd ei hanfon i garchar HMP Eastwood Park yn Lloegr a threuliodd 16 mis yno.
Ond ar ôl iddi adael y carchar, dywedodd nad oedd cefnogaeth iddi o ran dod o hyd i swydd fel oedd ganddi yn y gorffennol.
"Does dim darpariaeth ar gyfer unrhyw un sydd wedi gweithio mewn swyddi da," dywedodd.
"Mae 'na ddarpariaeth bo' nhw'n mynd i lanhau tai bach fel swyddi ond dwi ddim yn meddwl fod hwnna'n ateb o gwbl.
"O't ti'n teimlo mai dyna oedd dy swydd di - bod yn garcharor. Mae popeth o't ti wedi ei wneud hyd at hynny fel 'se fe jyst ddim yn bod ddim mwy."
Dywedodd nad oedd y swyddog yn "gwybod dim byd" am ei chefndir na'i gwaith blaenorol ar ôl iddi adael y carchar.
Nawr, mae'n gobeithio rhoi cyfleoedd i bobl sydd yn y sefyllfa honno gydag elusen Grow Inspires.
"Ti'n cael bob math o berson yn y carchar a beth y'n ni eisiau gwneud yn Grow Inspires yw gwneud yn siŵr bod bob un ohonyn nhw'n gallu rhedeg busnes."
Mae Eleri yn dweud iddi helpu 95 o fusnesau llwyddiannus, ac yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael cymorth yn y dyfodol i ddatblygu a thorri'r stigma sydd ynghlwm â bod yn y carchar.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ail edrych ar sut mae menywod sy'n troseddu'n cael eu trin.
Y bwriad yw agor canolfan arbennig yn Abertawe yn 2024 fydd yn rhoi cymorth i fenywod fyddai, fel arall, yn cael eu hanfon i'r carchar am flwyddyn neu lai.
Bydd lle i 12 o fenywod lleol i ddod i'r ganolfan am hyd at dri mis a chael cymorth gan asiantaethau i sicrhau na fyddan nhw'n ail droseddu.
'Angen addysg a chefnogaeth'
I un cyfreithiwr troseddol profiadol, mae manteision i ganolfannau o'r fath.
Dywedodd Michael Strain bod mwyafrif y bobl yng ngharchardai Cymru a Lloegr yn bobl sydd â phroblemau "cyffuriau, digartrefedd a salwch meddwl" a'r "ffordd i ddiwygio hynny yw trwy roi addysg a chefnogaeth".
"Mae unrhyw gyllid ychwanegol neu unrhyw oruchwyliaeth ganolog sydd yn cydlynu'r gefnogaeth yma'i gyd yn mynd i fod yn fuddiol," dywedodd.
Ond mae pryderon gan rai. Mae'r Blaid Lafur yn San Steffan yn cyhuddo Llywodraeth y DU o fod yn rhy araf wrth ddatblygu ei strategaeth i helpu menywod sy'n troseddu.
Ac mae pryderon hefyd mai dim ond un canolfan sy'n rhan o'r peilot.
Mae Rhys ab Owen AS, sydd wedi codi'r mater sawl gwaith yn y Senedd, yn dweud bod angen cynllun hir-dymor.
"Mae wedi cymryd gormod o amser, mae hefyd yn beilot pum mlynedd," dywedodd.
"Be' sy'n digwydd wedyn yn ystod y pum mlynedd i fenywod mewn rhannau eraill o Gymru a be' sy'n digwydd ar ddiwedd y peilot pum mlynedd?
"Pryd mae'r dadansoddiad yn digwydd a beth sy'n digwydd ar ôl hynny?
"Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o fenywod o Gymru yn cael eu hanfon i'r carchar ymhell o'u teuluoedd a'u cyfeillion."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod angen "profi effeithiolrwydd" y cynllun peilot yn gyntaf.
"Mae canolfan breswyl Abertawe yn arloesi gyda ffordd hollol newydd o fynd i'r afael â throseddau lefel isel ymhlith menywod ac mae'n angen inni brofi ei heffeithiolrwydd yn ofalus cyn datblygu cynlluniau pellach yng Nghymru neu Loegr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Medi 2019