O leiaf saith o gŵn wedi'u lladd mewn tân bwriadol

  • Cyhoeddwyd
dau gi tarw ffrengig a fu farw yn y tanFfynhonnell y llun, Emma Frowen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddau gi tarw Ffrengig yma, Gucci a Chanel, ymhlith y rhai a fu farw

Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai darllenwyr

Mae perchennog wedi disgrifio marwolaeth nifer o gŵn mewn tân gafodd ei gynnau'n fwriadol fel digwyddiad "cwbl dorcalonnus".

Nid yw'n eglur ar hyn o bryd os mai saith neu wyth ci a fu farw yn y digwyddiad yn ardal Brynhyfryd, Rhymni yn Sir Caerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw o gwmpas 02:10 fore Sul, 17 Gorffennaf, ar ôl i'r teulu weld y fflamau.

Dywed yr heddlu bod dyn a bachgen wedi eu harestio ar ôl i ddarn o dir, yn cynnwys adeiladau allanol, gael eu rhoi ar dân.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân De Cymru ei fod wedi ei gynnau'n fwriadol.

Ffynhonnell y llun, Emma Frowen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sbaengi, Poppy, yn un o'r cŵn gafodd ei ladd yn y tân

Cafodd nifer o gytiau cŵn eu heffeithio a bu farw o leiaf saith ci.

Dywedodd y perchennog, Emma Frowen, 42, fod yr hyn ddigwyddodd yn "gwbl dorcalonnus".

"Wrth i ni gyrraedd yno roeddem yn gallu gweld y fflamau mor uchel â thŷ," meddai.

"Roedd fy mab, Jack, yno'n barod yn ceisio cael y cŵn allan. Fedrwn i ddim credu pa mor ddrwg oedd y fflamau."

Ffynhonnell y llun, Emma Frowen
Disgrifiad o’r llun,

Gweddillion un o'r cytiau a ddinistriwyd gan y tân

Dywedodd bod y frigâd dân wedi cyrraedd o fewn munudau, a chawsant eu hebrwng oddi yno gan fod y to ar fin dymchwel.

"Yn sydyn mi aeth hi'n dawel, doeddech chi ddim yn gallu clywed y cŵn ddim mwy."

Ffynhonnell y llun, Emma Frowen
Disgrifiad o’r llun,

Mab Emma Frowen, Jack Theobald gyda Yogi, un arall o'r cŵn a fu farw

Roedd dau gi tarw Ffrengig a fu farw yn perthyn i ffrindiau, ac roedden nhw'n aros yno gyda chŵn y teulu tra'r oedden nhw'n symud tŷ.

Roedd y gweddill yn perthyn i Ms Frowen a'i theulu.

Cafwyd hyd i un milgi yn dal yn fyw, ond bu'n rhaid i filfeddyg ei roi i lawr oherwydd llosgiadau difrifol ar 80% o'i gorff.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 25 oed o ardal Rhymni a bachgen 17 oed o ardal Tredegar wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth, ond mae'r bachgen wedi ei gadw yn y ddalfa.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth, ond maent yn gofyn i bobl yr ardal fod yn ofalus o effaith trafod yr achos ar-lein.

Dywedodd yr heddlu y bydd mwy o swyddogion i'w gweld yn yr ardal dros y dyddiau i ddod.

Pynciau cysylltiedig