Dysgwyr y Flwyddyn: Dod i 'nabod Ben Ó Ceallaigh
- Cyhoeddwyd
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, un o'r seremonïau ar lwyfan y pafiliwn fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2022.
Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr.
Gwyddel yw Ben Ó Ceallaigh o Ros Comáin neu Roscommon, ac fe symudodd i Aberystwyth lai na dwy flynedd yn ôl, a theimlo bod yn rhaid iddo ddysgu Cymraeg.
"Dwi'n siarad Gwyddeleg a dwi'n deall yn iawn felly pa mor rwystredig yw e pan mae pobl yn symud i ardal ble mae'r Wyddeleg yn cael ei siarad, ond peidio a dysgu'r iaith.
"On i'n meddwl 'dwi'n symud i Gymru felly dwi angen dysgu Cymraeg'."
'Gymaint o gyfleoedd'
Ers mynd ati i ddysgu'r Gymraeg, mae wedi sylwi ar y gwahaniaethau rhwng y cyfleoedd sydd ar gael o'u cymharu â dysgu'r Wyddeleg yn Iwerddon.
"Mae'n ddiddorol iawn i fi i weld faint o gefnogaeth sydd ar gael i siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg - mae'n hollol, hollol wahanol yn Iwerddon yn anffodus.
"Mae na sawl peth da yn digwydd yn Iwerddon, wrth gwrs, ond nid yr un lefel o gwbl a'r Gymraeg."
"Mae Dysgu Cymraeg - y grŵp cenedlaethol - yn gwneud gwaith ardderchog, mae'n wych i fi weld bod na gymaint o gyfleoedd ... dosbarthiadau, grwpiau siarad, darllen... beth bynnag ti eisiau gwneud fel dysgwr Cymraeg, mae 'na gyfle i wneud e really.
"Mae hyn yn bwysig bwysig iawn a mae'n enghraifft arbennig o dda ar gyfer ieithoedd lleiafrifol eraill yng ngorllewin Ewrop."
Yn ogystal â'r Gymraeg a'r Wyddeleg, mae Ben hefyd yn siarad Gaeleg yr Alban a'r Fanaweg.
Mae'n mynnu nad oes ganddo ddawn arbennig i ddysgu ieithoedd, ond mae ganddo gyngor i'r rheiny sy'n dysgu'r Gymraeg.
"Dwi'n deall sawl peth sy'n bwysig o ran dysgu ieithoedd - y peth mwya' really ydy defnyddio pob cyfle sy'n bosib i siarad yr iaith a pheidio a newid i'r Saesneg.
"Hyd yn oed pan dwi'n strugglo neu'n methu dweud yn union beth dwi eisiau dweud, dwi'n dal i gario ymlaen gymaint â phosib, a dyna'r ffordd orau i wella - i just siarad yr iaith."
Ar ôl symud i Aberystwyth, fe gwrddodd Ben â'i bartner Llinos Anwyl.
Er mai dim ond ers rhyw naw mis roedd Ben wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ar y pryd, dydyn nhw erioed wedi siarad â'i gilydd yn Saesneg.
Mae 'na un peth sydd wedi gorfod newid ers i'r ddau ohonyn nhw gwrdd, gan taw un o'r gogledd yw Llinos.
"Yr her mwya' yw achos ei fod e wedi bod yn dysgu'r cwrs deheuol a dwi ddim, felly o'dd 'na lot o ailddysgu geiriau ac ailadrodd", meddai Llinos.
"Mae'n trio defnyddio'r geiriau dwi'n defnyddio achos dyna'r Gymraeg da ni'n ddefnyddio adra 'lly, ond oeddan ni am fisoedd yn trio dysgu 'goriadau' ac odd o'n anodd achos odd o wedi dysgu 'allweddi' "
Ond mae Llinos yn mynnu mai dewis Ben yw dysgu geirfa'r gogledd, dyw hi ddim yn ei orfodi.
Mae hi hefyd yn falch iawn o'i lwyddiant yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, i gydnabod yr holl waith mae wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwetha'.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn meddwl bod o just yn berson sy'n dda am ddysgu ieithoedd, ond dwi'n gweld faint o oriau o waith mae'n rhoi pob wythnos - naw awr o leia' ac ymarfer wedyn, mae'n cydnabod yr holl waith caled mae'n gwneud."
'Rhan bwysig o fy mywyd'
O ran y dyfodol, mae cyfnod Ben yn gweithio fel darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dod i ben, ac mae'n gwneud gwaith cyfieithu i'r Wyddeleg ar hyn o bryd.
Ond mae'n mynnu y bydd y Gymraeg yn parhau yn rhan o'i fywyd.
"Dwi ddim yn siŵr be' dwi'n mynd i'w wneud yn y dyfodol, ond dwi'n siŵr byddwn i'n defnyddio'r Gymraeg achos mae'n rhan bwysig o fy mywyd nawr - dwi hefo lot o ffrindiau a dim ond Cymraeg 'da ni'n siarad - dwi erioed wedi siarad Saesneg 'efo nhw.
"Dwi mor ddiolchgar iddyn nhw mae'n rhaid i fi ddweud, maen nhw wedi bod mor gefnogol i fi wrth i fi ddysgu, felly mae'n amhosib i fi ddychmygu'r dyfodol i fi heb y Gymraeg - mae'n wych, dwi mor ddiolchgar a hapus bo fi wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y bywyd Cymraeg."
Yn ystod yr wythnos cawn glywed am brofiadau y tri dysgwr arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022