Prinder staff i gynnal sesiynau yn ystod gwyliau'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Fe allai mwy o blant elwa o brydau iach a gweithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol pe byddai yna fwy o staff ar gael, meddai undeb.
Mae sesiynau Bwyd a Hwyl yn ceisio darparu cefnogaeth i'r rheiny o gefndiroedd difreintiedig dros wyliau'r haf.
Cynorthwywyr dysgu sy'n eu staffio yn bennaf, yn ôl NAHT Cymru, ac mae'n "anodd iawn" eu recriwtio.
Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod y sesiynau yn cael eu rhedeg gan amryw o staff gwahanol.
Tua 8,000 o lefydd sydd ar gael i blant mewn 200 o leoliadau ar draws Cymru fel rhan o raglen Bwyd a Hwyl.
Nod y rhaglen 12 diwrnod yw hyrwyddo byw'n iach, cefnogi lles plant a gwella'u hymgysylltiad gydag addysg.
Yn ôl NAHT Cymru, dydi'r undeb ddim yn gwrthwynebu'r cynllun gan fod ganddo rôl bwysig.
"Yr unig broblem ry'n ni'n weld gydag o yw nad yw'n cyrraedd y nifer fwyaf o blant ac y gallai, o ran y plant sydd mewn angen ac yn byw mewn tlodi," meddai llywydd yr undeb, Kerina Hanson.
"Gan ein bod yn ddibynnol, yn bennaf, ar gynorthwywr dysgu i redeg y cynlluniau yma - mae'n anodd iawn recriwtio cynorthwywr dysgu mewn ysgolion ar hyn o bryd.
"Mae'r capasiti hwnnw wedi ei leihau mewn nifer o lefydd."
Mae Ysgol Gynradd Llyn y Forwyn yn Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan yn y cynllun.
Cyn y pandemig roedd tua 28% o'r disgyblion yn gymwys am ginio ysgol am ddim. Erbyn hyn mae'n 45%.
Mae problemau costau byw yn "anhygoel" i deuluoedd ar hyn o bryd, meddai'r pennaeth Petra Davies, ac felly mae Bwyd a Hwyl yn "help anferth" iddyn nhw.
"Mae cynllun fel hyn sy'n cynnig, nid yn unig cyfleusterau gwych ac adloniant ffantastig, ond bod nhw hefyd yn cael brecwast a chinio, dyna yw'r apêl i'r teuluoedd sydd yn ein hysgol ni," meddai.
Mae Theresa Thomas yn llywodraethwr yn yr ysgol ac yn rhedeg banc bwyd y Rhondda.
Mae'r galw yno yn "anferth" bellach, meddai, ac mae hi'n darogan y bydd 40% o gynnydd yn y galw dros y misoedd nesaf.
Yn ôl Alisha, 7, mae hi'n mwynhau gweld ei ffrindiau a gwneud gweithgareddau tra'i bod yn y sesiynau.
Dywedodd Alex, 8, ei bod yn hoffi gwneud celf a chrefft a chwarae ar yr iard.
'Staffio a chyllido yn broblem'
Mae cynllun Bwyd a Hwyl yn cael ei weithredu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros wyliau'r haf.
Mae'r Cynghorydd Ian Roberts, llefarydd addysg y gymdeithas, yn cydnabod bod 'na brinder o gynorthwywr dysgu.
"Mae staffio a chyllido o bosib yn broblem," meddai, ac mae'n gobeithio cynyddu nifer yr ysgolion a'r cyllid sydd ar gael yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4.85m ar gyfer y rhaglen.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae sesiynau Bwyd a Hwyl yn cael eu rhedeg gan amryw o staff gwahanol, gan gynnwys gweithwyr chwarae, timau ieuenctid, timau datblygu chwaraeon, staff arlwyo a staff ysgol, gan gynnwys athrawon a chynorthwywyr dysgu.
"Tra bod yna anawsterau lleol ar adegau wrth recriwtio, mae'r sefyllfa ar y cyfan o ran recriwtio a chadw staff cymorth ysgolion yng Nghymru yn eithaf cadarn ac mae nifer y cynorthwywyr dysgu wedi cynyddu o 2019/20 i 2020/21."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022