'Cynnydd enfawr' mewn galw am ddillad ysgol ail law
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yng Nghaerdydd sy'n dosbarthu dillad ysgol ail law am ddim yn dweud ei bod wedi gweld "cynnydd enfawr" mewn galw, a bod rhieni'n methu fforddio prynu gwisg i'w plant oherwydd bod costau wedi codi.
Pedair blynedd yn ôl ffurfiwyd elusen A Better Fit er mwyn casglu dillad ysgol gan gynnwys cotiau, bagiau, esgidiau a gwisg chwaraeon ac ymarfer corff.
Ar y cychwyn roedden nhw ond yn dosbarthu dillad i rieni yn ardal Tredelerch yng Nghaerdydd, ond nawr maen nhw'n helpu rhieni ar draws Caerdydd gyfan, yn ogystal â Bro Morgannwg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw grant i rai disgyblion er mwyn helpu gyda chostau fel gwisg ysgol, a bod hwnnw'n uwch eleni na'r arfer.
Costau rhai eitemau'n 'eithriadol'
Yn ôl A Better Fit maen nhw'n cefnogi teuluoedd sy'n wynebu "trafferthion ariannol a thlodi", ac maen nhw'n casglu dillad ysgol er mwyn eu dosbarthu ymysg "teuluoedd llai ffodus a'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd i ymdopi â chostau cynyddol gwisg ysgol".
Dywedodd Kathryn Wakeham, wnaeth gychwyn yr elusen: "Roeddwn i'n ei gweld hi'n anodd i brynu gwisg ysgol i fy mab er mwyn iddo fynd i'r ysgol fel pawb arall.
"Fe ges i syniad ac fe ofynnais i'r ysgol os oedd ganddyn nhw unrhyw wisg ysgol dros ben, fel bod ni'n gallu eu cynnig nhw i rieni eraill.
"Ar y dechrau menter fach oedd gen i... yn defnyddio cwpl o ddesgiau, ond roedd e'n gweithio, ac fe ddechreuodd mwy a mwy o bobl ddod i mewn.
"Roedden ni'n derbyn mwy o ddillad ail law hefyd. Mae'r galw wedi cynyddu 10 gwaith drosodd."
Adeilad Fforwm Tredelerch yw pencadlys yr elusen, ac mae'n llawn dillad ar gyfer gwahanol ysgolion - wedi eu gosod mewn tomenni taclus yn ôl trefn ysgol, maint a lliw.
Dywedodd Ms Wakeham fod y dillad yn "mynd mas cyn gynted ag y maen nhw'n dod i mewn", ac maen nhw wastad yn apelio am ddillad.
"Mae'r rhan fwyaf o rieni yn gallu fforddio dillad fel trywsus, a sgidiau du neu grys gwyn.
"Ond mae costau blazer a dillad ymarfer corff yn uchel eithriadol, ac mae angen mwy nag un yn aml iawn."
Yn aml hefyd fe fydd angen gwisg gwbl newydd os yw'r ysgol yn newid y wisg, neu fod y plentyn yn newid blwyddyn.
"Mae wir yn anodd i rieni gadw lan â chost dillad plentyn ar gyfer yr ysgol," meddai Ms Wakeham.
Grant 'ddim yn mynd ddigon pell'
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnig grant "tuag at wisg ysgol, tripiau ysgol, a chyfarpar" i unrhyw ddisgybl sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.
"Mae'r grant eleni yn £225 i bob dysgwr, neu £300 i'r rhai sy'n mynd i Flwyddyn 7, i gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd," meddai llefarydd.
"Mae grantiau eleni yn £100 ychwanegol ar gyfer eleni yn unig."
Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, os ydyn nhw'n derbyn prydau ysgol am ddim neu beidio.
Mae cynllun 2022 i 2023 bellach ar agor, ac mae pob blwyddyn ysgol hyd at flwyddyn 11 yn gymwys i gael y grant.
Gall rhieni a gwarcheidwaid gysylltu â'u hawdurdod lleol i wirio eu cymhwysedd a gwneud cais, ond mae Kathryn Wakeham yn credu fod angen mwy o help.
"Rwy'n meddwl fod y grantiau yn helpu 'chydig bach," meddai.
"Gallwch chi brynu gwisg i blentyn ysgol gynradd am tua £150 mae'n debyg, ond mae angen llawer mwy ar blant oed uwchradd, ac mae'n fwy costus o lawer.
"Dyw'r arian jyst ddim yn mynd yn ddigon pell."
'Arian mawr' am ddillad newydd
Mae'n dweud fod rhieni sy'n gweithio yn ei chael hi yn anodd ar hyn o bryd, yn ogystal â rhieni sydd ddim yn derbyn incwm sefydlog.
Mae Christine Nomme yn wirfoddolwr ac yn ymddiriedolwr gyda'r elusen.
"Ry'n ni'n gallu cael gafael ar ddigonedd o drywsusau llwyd a du, a ffrogiau gingham," meddai.
"Ond mae rhai eitemau yn anodd iawn dod o hyd iddyn nhw, yn enwedig dillad mwy costus fel blazers ysgol â bathodyn arnyn nhw."
Mae'n dweud fod lle i ystyried rhoi hawl i rieni i brynu bathodyn a gwnïo hwnnw ar y wisg, a bod yn fwy hyblyg o ran gofynion y wisg.
Un sy'n defnyddio'r gwasanaeth yw Rebecca Sharp, sy'n gweithio fel nyrs.
Mae hi'n chwilio am eitemau ar gyfer ei mab sy'n gadel ysgol gynradd ac yn dechrau ysgol uwchradd ym mis Medi, ac mae ganddi restr o ddillad sydd ei angen arno.
"Mae hi jyst mor ddrud i fynd allan a phrynu popeth yn newydd sbon," meddai.
"Os ydych chi'n prynu'r dillad i gyd sydd wedi eu brandio fel blazers a siwmperi a gwisg PE, yna 'dych chi'n siarad am arian mawr.
"Yr unig bethe allwch chi brynu mewn archfarchnad yw crys gwyn, trowsus du a sgidiau du."
Mae'n dweud fod rhieni eraill yn teimlo yr un fath â hi ac yn wynebu problemau tebyg.
"Rwy' wedi rhoi nifer o ddillad i'r elusen yma, ac rwy' wedi eu cyfnewid nhw nawr am rai newydd. Mae'n syniad ardderchog."
'Angen help ar rieni'
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes fod "sefyllfa costau byw yn taro teuluoedd ar draws Cymru'n fawr".
"Mae 190,000 o blant yn byw mewn tlodi, a bydd nifer y gaeaf hwn yn byw mewn cartrefi ble bydd rhieni'n dewis un ai i fwyta neu gynhesu eu cartrefi," meddai.
Ychwanegodd fod canllawiau statudol ar gyrff llywodraethu ysgolion ynglyn â gwisg ysgol.
"Mae rhieni angen cymaint o help â phosib eleni, felly mae'n hanfodol bod cyrff llywodraethol yn dilyn y canllawiau hyn," meddai.
"Rydym hefyd yn annog ysgolion a chyrff llywodraethu i ddefnyddio ein hadnodd Gwyrdd-droi o'n gwefan, sy'n annog ailddefnyddio gwisgoedd ysgol fel bod modd eu gwneud yn fwy fforddiadwy i deuluoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd6 Awst 2018