Jonathan Edwards: Annog aelodau i gwestiynu proses Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Edwards rybudd gan yr heddlu yn 2020 am ymosod ar ei gyn-wraig Emma Edwards

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi annog aelodau'r blaid i gwestiynu'r ffordd y cafodd ei achos ei drin gan y blaid.

Mae hefyd wedi cyhuddo'r arweinydd, Adam Price, o wneud datganiad "maleisus" amdano.

Cafodd Mr Edwards rybudd gan yr heddlu yn 2020 am ymosod ar ei gyn-wraig Emma Edwards.

Dywedodd Plaid Cymru ei bod yn canolbwyntio ar "symud ymlaen yn bositif, mewn undod".

Ym mis Awst, dywedodd Plaid Cymru wrth Mr Edwards y gallai ail-ddechrau eistedd fel un o'i haelodau seneddol yn San Steffan - penderfyniad gafodd ei feirniadu gan rai o fewn y blaid.

Roedd hyn yn dilyn cyngor cyfreithiol a wnaeth wrthdroi penderfyniad blaenorol i'w atal rhag dychwelyd fel un o ASau Plaid Cymru.

Dywedodd Emma Edwards fod caniatáu i Mr Edwards ail-ymuno â grwp y blaid yn Nhŷ'r Cyffredin wedi anfon neges "nad yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys".

Yn fuan wedyn, fe gyhoeddodd Mr Edwards y byddai'n parhau fel AS annibynnol - a dywedodd yr arweinydd, Adam Price y dylai adael y blaid.

Mae'r ddau wleidydd yn cynrychioli'r un etholaeth, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Edwards wedi cyhuddo'r arweinydd, Adam Price, o wneud datganiad "maleisus" amdano

Mae Mr Edwards bellach wedi ysgrifennu at drefnwyr y blaid yn yr etholaeth, gan godi cwestiynau y mae'n dweud y dylid eu gofyn i benaethiaid cenedlaethol y blaid.

Maen nhw'n cynnwys gofyn: "Pam a wnaeth yr arweinydd ryddhau ei ddatganiad maleisus yn union syth ar ôl i fi ddatgan nad oeddwn am ail-ymuno a grŵp y blaid yn San Steffan, er bod cytundeb y byddai datganiad personol gen i yn cynnig llwybr anrhydeddus?"

Mae hefyd yn gofyn a fydd aelodau lleol yn cael gweld y cyngor cyfreithiol gafodd y blaid am ei achos.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar symud ymlaen yn bositif, mewn undod, er lles y blaid a thrigolion Sir Gâr."

Pynciau cysylltiedig