Gareth Thomas heb ddweud wrth gyn-gariad bod ganddo HIV

  • Cyhoeddwyd
Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gymar yn ceisio hawlio iawndal gwerth £150,000 gan Gareth Thomas

Mae cyn-gapten rygbi Cymru a'r Llewod, Gareth Thomas, wedi cyfaddef na ddywedodd wrth gyn-gymar fod ganddo HIV, yn ôl papurau cyfreithiol yr Uchel Lys.

Mae cyn-bartner Mr Thomas, Ian Baum, yn ceisio hawlio iawndal gwerth £150,000 ganddo.

Mae Mr Baum yn honni i Mr Thomas guddio'r ffaith fod ganddo HIV, a "methu â chymryd gofal rhesymol" i sicrhau nad oedd yn ei basio ymlaen.

Yn y papurau Uchel Lys, mae Mr Thomas yn dweud na wnaeth Mr Baum ofyn iddo a oedd ganddo HIV.

Mae Mr Baum hefyd yn cyhuddo Mr Thomas o reoli drwy orfodaeth er mwyn atal ei statws HIV rhag cael ei wneud yn hysbys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Thomas yn dweud na wnaeth ei gyn-bartner ofyn iddo a oedd ganddo HIV

Bu'r ddau ddyn mewn perthynas rhwng 2013 a 2016. Dywed Mr Baum yn nogfennau'r llys ei fod yn HIV negatif ar ddechrau'r berthynas, a'i fod wedi darganfod bod Mr Thomas â'r cyflwr pan ddaeth ar draws tabled GSK1.

"O edrych ar Google... fe ddarganfuodd bod y diffynnydd yn cymryd meddyginiaeth wrthfirol HIV," noda'r dogfennau.

Aeth Mr Baum ati'n "syth" i drefnu apwyntiad am brawf HIV.

Dywed y dogfennau iddo gael "ei ddryllio" pan gafodd wybod bod y prawf yn bositif.

'Ni wnaeth erioed wadu'

Mae tîm cyfreithiol Mr Thomas wedi cyflwyno dogfen 15 tudalen i'r Uchel Lys yn ymateb i honiadau Mr Baum.

Ynddi, mae Mr Thomas yn dweud na chafodd HIV ei drafod gan y ddau.

"Mae'r diffynnydd yn gwadu ei fod wedi cuddio ei statws positif yn fwriadol, ni wnaeth yr hawliwr erioed ofyn a oedd ganddo HIV, a ni wnaeth erioed wadu bod ganddo," meddai'r ddogfen.

Ond mae tîm cyfreithiol Mr Thomas yn cydnabod na wnaeth Mr Baum roi caniatâd i dderbyn y risg o drosglwyddo HIV.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Datgelodd Gareth Thomas yn gyhoeddus ei fod yn byw gyda HIV yn 2019

Mae Mr Thomas yn dweud yn y ddogfen ei fod yn ymwybodol bod ganddo HIV ar y pryd, ond nad oedd yn credu bod modd iddo ei drosglwyddo i eraill.

"Tra bo'r diffynnydd nawr yn deall fod hynny'n anghywir, roedd yn credu ar y pryd fod hynny'n wir," meddai'r ddogfen.

Cyfaddef tynnu labeli

Mae Mr Thomas yn honni fod Mr Baum wedi bod yn "blasé" am ddal HIV, a phan ddaeth i wybod bod ganddo'r cyflwr, ei fod wedi ymddwyn fel pe bai'n "siŵr o gael HIV rhywdro".

Mae Mr Thomas hefyd yn honni fod Mr Baum wedi cael perthnasau â sawl person yn y cyfnod yma - honiad mae Mr Baum yn gwadu, gan ddweud ei fod wedi bod yn ffyddlon i'r cyn-seren rygbi.

Mae'r ddogfen yn dweud fod Mr Thomas yn cyfaddef tynnu labeli oddi ar ei feddyginiaeth HIV, ond mai i atal ei deulu rhag gwybod beth oedden nhw oedd hynny, nid twyllo Mr Baum.