Bachgen tair oed wedi marw o 'anaf pen catastroffig'

  • Cyhoeddwyd
Ianto Siôr JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ianto Cerwyn Siôr Jenkins fis Awst y llynedd - wythnosau cyn y byddai wedi troi'n bedair oed

Bu farw bachgen tair oed o "anaf pen catastroffig" yn dilyn damwain yn ymwneud â cherbyd pick-up â threlar yr oedd ei dad yn ei yrru ar y fferm deuluol yn Sir Gâr, mae cwest wedi clywed.

Cafwyd hyd i Ianto Jenkins yn farw ar fuarth Fferm Rhosfach, ger Efailwen, yn fuan wedi i'w dad, Guto adael gyda llwyth o bridd.

Yn ôl y patholegydd pediatrig, Dr Andrew Bamber bu farw Ianto "yn syth".

Ychwanegodd bod yr anafiadau'n gyson â "phwysau gwrthrych trwm iawn" fel y byddai'n digwydd o ganlyniad i daro rhywun i lawr gyda cherbyd pick-up a threlar yn cludo pridd.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd tad Ianto, Guto Jenkins, bod ganddo "ddim syniad sut y cafodd ei daro".

Dywedodd y tad 32 oed nad oedd wedi "gweld, clywed na theimlo dim byd anarferol" wrth yrru o'r buarth.

Penderfynodd y rheithgor bod Ianto wedi marw drwy ddamwain, o ganlyniad i anaf i'r pen.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fferm Rhosfach ger Efailwen am 19:00 ar 3 Awst 2021

Roedd Ianto wedi dweud ei fod yn dymuno mynd gyda'i dad i gludo'r pridd cyn newid ei feddwl.

Dywedodd ei nain, Meinir Jenkins, bod chwaer hŷn y bachgen, Seren, wedi rhedeg i'r ffermdy gan weiddi: "Mae Ianto wedi marw."

Daeth o hyd iddo ar y llawr, yn dal ar ei feic, ryw bum medr o'r tŷ, gydag anafiadau difrifol i'w ben.

Bu'n rhaid iddi ffonio ei mab ar ei ffôn symudol i roi gwybod iddo fod Ianto wedi marw.

Clywodd y cwest mai Ianto oedd ail blentyn Guto Jenkins a Chloe Picton, a oedd wedi ysgaru cyn y ddamwain.

Roedd Ianto a Seren yn byw gyda'u mam yng Nghlunderwen, gan dreulio pum niwrnod ar fferm laeth teulu eu tad bob yn ail penwythnos.

'Galwad ffôn gwaethaf fy mywyd'

Yn ei ddatganiad, dywedodd Guto Jenkins bod hi'n anodd disgrifio amgylchiadau'r farwolaeth, ei fod yn derbyn gwasanaeth cwnsela a bod "dim un diwrnod yn mynd heibio" heb feddwl am Ianto.

Esboniodd ei fod heb weld ei blant am 10 diwrnod cyn y ddamwain am ei fod wedi cael Covid-19. Byddai ei fam yn gofalu am y plant tra roedd yn gweithio.

Roedd yn gweithio i gwmni DP Building Supplies. Roedd hefyd wedi dechrau busnes cludo pridd, ond yn osgoi defnyddio'i gerbyd yn y buarth lle ddigwyddodd y ddamwain.

Ar 3 Awst, 2021, roedd wedi gweithio i'w gyflogwr a dywedodd nad oedd yn teimlo'n flinedig nag yn sâl.

Roedd gan Guto Jenkins ddau lwyth o bridd i'w cludo ac fe roedd Ianto, Seren a'u cyfnither wedi mynd gydag ef i ddanfon y llwyth cyntaf.

Wedi i'r plant ddweud eu bod wedi diflasu ar y ffordd yn ôl i godi'r ail lwyth, cawson nhw eu gollwng ar y buarth.

Dywedodd Guto Jenkins fod Ianto'n "chwarae ymhell o'r trelar" tua "gwaelod y buarth."

Edrychodd o'i gwmpas cyn symud y cerbyd. Mae'n dweud na welodd Ianto'n agos ato na chlywed na gweld "dim byd anarferol".

Roedd wedi cyrraedd top lôn y fferm pan derbyniodd "galwad ffôn waethaf fy mywyd" gan ei fam yn dweud bod Ianto wedi marw.

"Wnes i yrru'n ôI yna. Doeddwn i ddim yn deall beth oedd wedi digwydd. Doedd gen i ddim syniad sut y cafodd ei daro."

"Rwy'n dal yn cael flashbacks. Bydd y boen gyda fi weddill fy mywyd. Rwy' wedi torri. Cragen ydw i. Rydych i fod i amddiffyn eich plant."

Gorchymyn gwelliant

Clywodd y cwest bod dim byd o'i le gyda'r cerbyd na'r trelar.

Dywedodd arolygydd Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle (HSE), Rhys Hughes, bod y fferm wedi cydymffurfio â gorchymyn gwelliant ym mis Medi 2021 i sicrhau lle diogel i'r plant gael chwarae.

Roedd yr HSE hefyd wedi anfon llythyr yn atgoffa nad oedd yn addas i fynd â phlant ar deithiau cludo pridd.

Dywedodd Mr Hughes bod gwaed ar y trelar, oedd yn awgrym ei fod wedi taro Ianto.

Pan ofynnwyd a oedd hynny'n gyson â thystiolaeth Mr Jenkins nad oedd wedi teimlo dim byd, atebodd ei fod yn cytuno.

Pynciau cysylltiedig