Gorymdeithio o Drawsfynydd i Wylfa
- Cyhoeddwyd
Rhwng 4-10 Medi aeth aelodau o adran ieuenctid CND Cymru ar daith gerdded saith diwrnod o Orsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd i Orsaf Bŵer Niwclear Wylfa.
Roedd y criw yn protestio yn erbyn cynlluniau llywodraeth San Steffan i leoli Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach (SMRs) ar y safleoedd sy'n mynd trwy eu proses ddat-gomisiynu.
Dr Bethan Siân Jones yw Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru: "Daeth y penderfyniad hwn law yn llaw â'r rhwystredigaeth gynyddol rydym ni fel pobl ifanc yn ei deimlo am ymgais y llywodraeth i 'wyrddgalchu' ynni niwclear, a'i werthu fel ffurf o ynni glân, diogel, wedi'i gynhyrchu yn y DU, yng nghyd-destun argyfwng yr hinsawdd."
Mae Bethan Jones o'r farn y dylai unrhyw fuddsoddiadau newydd gael eu gwneud yn adnoddau cynaliadwy a gwyrdd: "Mae pob ceiniog sy'n cael ei wastraffu yn arian nad yw'n cael ei wario ar dechnoleg sydd wedi'u profi i weithio - opsiynau carbon isel, adnewyddadwy megis ynni haul, gwynt a thonnau, yn ogystal ag inswleiddio tai."
"Mae gorsafoedd ynni niwclear yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i'w cynnal a'u cadw", meddai Dr Jones, "hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu cau. Mae hyn yn golygu cost economaidd ac amgylcheddol nad oes neb yn siarad amdani."
"Mae'r criw ohonom sydd wedi penderfynu ymdeithio yn erbyn adeiladu SMRs yn Nhrawsfynydd a Wylfa am i'n lleisiau gael eu clywed yn y trafodaethau a fydd yn darlunio'r dirwedd y bydd yn rhaid i ni a'n plant fyw ynddi yn y dyfodol."
Ar hyd y daith roedd y criw yn cysgu ar loriau neuaddau pentref a chymunedol yn yr ardaloedd roeddent yn aros. Roeddent hefyd yn cynnal nosweithiau cymdeithasol, perfformiadau a cherddoriaeth.
Strategaeth niwclear
Ym mis Mawrth eleni fe ddywedodd Simon Hart, a oedd yn Ysgrifenydd Cymru ar y pryd: "Rwy'n meddwl ein bod wedi symud cryn bellach ymlaen nag erioed - cyn belled ag y cofiaf p'run bynnag - o ran cydnabod yr angen am ddatblygiadau niwclear mawr ac ar raddfa lai."
Dywedodd Hart y gallai'r datblygiad newydd yn Wylfa gyfrannu at "wireddu ein huchelgeisiau sero net a chael swyddi gyda chyflogau da yng Nghymru."
Dyma rhywfaint mwy o'r golygfeydd oedd i'w gweld ar daith y protestwyr:
Hefyd o ddiddordeb: