Siopau'n gwerthu cyllyll i bobl ifanc dan 18 oed

  • Cyhoeddwyd
Fe wnaeth deg siop allan o bymtheg yng Nghaerdydd werthu cyllyll i bobl ifanc cudd rhaglen X-ray
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth deg siop allan o bymtheg yng Nghaerdydd werthu cyllyll i bobl ifanc cudd rhaglen X-ray

Mae ymchwiliad cudd gan BBC Cymru wedi canfod fod siopau yng Nghymru yn torri'r gyfraith drwy werthu cyllyll i unigolion o dan 18 oed.

Bydd rhaglen X-Ray ar BBC 1 nos Lun yn dangos sut mae siopau annibynnol ac un cwmni cadwyn yng Nghaerdydd yn gwerthu cyllyll i bobl ifanc yn eu harddegau heb wirio unrhyw ddogfen adnabod.

Mae'n anghyfreithlon i unrhyw fusnes werthu cyllyll i unrhyw un o dan 18 oed.

Yr unig eithriad yw cyllyll poced sy'n plygu ac iddynt ymylon llai na 3 modfedd.

Mae ffigyrau troseddau cyllyll yng Nghymru wedi dyblu yn ystod y degawd diwethaf. Roedd yna ostyngiad bach yn ystod y pandemig ond bellach mae'r cyfraddau ar gynnydd unwaith eto.

Fe wnaeth 10 siop allan o 15 yng Nghaerdydd werthu cyllyll i bobl ifanc cudd rhaglen X-Ray a hynny heb ofyn am unrhyw brawf adnabod.

'Dod yn rhywbeth normal'

Mae Emily Powell o Uned Atal Trais Cymru yn gweithio gyda phlant o dan 18 sydd wedi bod yn cario cyllyll ac sydd yna wedi'u cyfeirio at yr uned. Mae hi'n dweud bod pobl ifanc yn cario cyllyll am nifer o resymau.

"Mae nhw'n teimlo bod rhaid cario arf i'w hamddiffyn," meddai, "ac os yw eu ffrindiau yn cario arfau mae'n dod yn rhywbeth normal ac mae'n teimlo'n iawn iddyn nhw wneud."

cyllyll

Y person ieuengaf i Emily weithio gydag ef yw plentyn wyth oed.

"Fe ddaeth o hyd i gyllell yn ei gegin adref gan fynd â hi i'r ysgol ac yna fe ddaeth yr athrawon o hyd iddi."

Hefyd ar y rhaglen mae dyn o dde Cymru sydd wedi treulio 10 mlynedd yn y carchar wedi iddo drywanu rhywun tra'n ymladd.

Roedd e wedi bod yn cario cyllell yn rheolaidd ers yn 14 oed ac mae'n dweud pam ei fod yn bod pobl ifanc yn parhau i wneud yr un peth.

"Mae'n ffasiynol i blant wneud hynny ar hyn o bryd. Mae rhai siŵr o fod yn eu cario nhw am eu bod ofn ac mae eraill yn eu cario i fod yn cŵl.

"Yr hyn sy'n frawychus yw bod gan bawb gyllell. Wrth i un gael un, mae rhywun arall eisiau un a dyna ddechrau ar y broses nes bod pawb yn cael un," meddai.

'Anhygoel'

Mae'r ffilmio cudd gan X-Ray yn dangos sawl achos o dorcyfraith.

Patrick Green
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Patrick Green o Ymddiriedolaeth Ben Kinsella ei fod wedi'i synnu gan y canfyddiadau

Patrick Green yw Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ben Kinsella - elusen gafodd ei sefydlu wedi i Ben Kinsella, 16, cael ei drywanu i farwolaeth yn 2008.

"Mae'r ffilm yn peri gofid," dywedodd. "Ry'n yn gweld siopau yn diystyru'r gyfraith gan werthu cyllyll i bobl ifanc.

"Ar un achlysur mae'n amlwg bod y siop yn ymwybodol o'r gyfraith ond eto mae'n fodlon torri'r gyfraith a gwerthu cyllell i berson ifanc.

"Mae hyn yn anhygoel ac rwy' wedi fy syfrdanu gan yr hyn welais i."

Mae rhaglen X-Ray i'w gweld nos Lun 26 Medi am 20:00 ar BBC One Wales, ac hefyd ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig