Cwpan y Byd: Fishlock yn ffit i gemau ail gyfle Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jess Fishlock & Natasha HardingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Fishlock yn holliach - ond bydd y garfan yn gorfod gwneud heb Natasha Harding

Mae Jess Fishlock yn holliach ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd ar ôl methu dwy gêm grŵp olaf Cymru gydag anaf.

Ond ni fydd yr ymosodwr Natasha Harding, un o brif sgorwyr y tîm yn yr ymgyrch hyd yma, ar gael oherwydd rhesymau personol.

Bydd Cymru'n herio Bosnia-Herzegovina ddydd Iau 6 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.

Os ydyn nhw'n ennill, fe fyddan nhw wedyn yn teithio i'r Swistir ar gyfer y ffeinal ar ddydd Mawrth 11 Hydref.

Cafodd Fishlock, chwaraewr mwyaf profiadol y garfan gyda 134 cap, ei hanafu wrth ymarfer gyda'r garfan ar gyfer gemau fis diwethaf.

Bryd hynny fe sicrhaodd Cymru'r ail safle yn y grŵp gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Groeg, a gêm gyfartal yn erbyn Slofenia.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Natasha Harding, sydd wedi sgorio 26 gôl mewn 103 gêm dros Gymru, ydy'r unig absenoldeb amlwg

"Ers hynny mae hi wedi mynd yn ôl i'w chlwb ac rydyn ni wedi cael cyfarfodydd a chynllun mewn lle ar ei chyfer," meddai'r rheolwr Gemma Grainger.

"Mae wedi cael munudau i'w chlwb. Fel allwch chi ddychmygu, mae hi wedi ymroi i fod yn barod ar gyfer y gêm yma yn erbyn Bosnia."

Bydd dau o'r tri thîm Ewropeaidd sy'n ennill rownd derfynol eu gemau ail gyfle yn mynd yn syth i Gwpan y Byd 2023 yn Awstralia a Seland Newydd.

Ond petai Cymru'n un o'r rheiny, a hwythau'n un o ddetholion isaf y gemau ail gyfle, mae'n debygol y byddai'n rhaid iddyn nhw wynebu un rownd arall o gemau ail gyfle fis Chwefror nesaf, yn erbyn tîm o gyfandir arall.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi gwerthu dros 9,000 o docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Bosnia, gyda'r gobaith y byddan nhw'n torri'r record o 12,741 ddaeth i wylio'r merched yn erbyn Slofacia yn gynharach yn y mis.

Y garfan yn llawn

Laura O'Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Georgia Walters, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Ceri Holland, Maria Francis-Jones, Chloe Williams, Morgan Rogers, Chloe Bull.

Bydd y gemau ar gael i'w gwylio'n fyw ar wefan ac ap BBC Cymru Fyw.