Dathlu pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cip ar hanes sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn 1872

Mae'r brifysgol sy'n disgrifio ei hun fel yr un gyntaf yng Nghymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.

Fe sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ar y 16 Hydref, 1872.

Daeth y syniad gan nifer o Gymry cefnog Llundain ar ôl cyhoeddi adroddiad sarhaus Brad y Llyfrau Gleision.

Eu bwriad oedd cynnig addysg prifysgol i bawb, gan gynnwys pobl Cymru, oedd cyn hynny wedi teithio dros y ffin i gael eu haddysg yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Topical Press Agency
Ffynhonnell y llun, Rolant Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ddegawd arall cyn i ferched gofrestru'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn ystod y tymor cyntaf fe fynychodd 25 o fyfyrwyr, y cyfan yn ddynion. Roedd hi'n ddegawd arall cyn i ferched gofrestru'n fyfyrwyr yno.

Yn gydlynydd ymchwilio i gasgliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Cara Cullen wedi cyfrannu at gyfrol newydd sy'n dathlu 150 mlynedd y brifysgol.

Dywedodd: "Roedd sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth gyda gweledigaeth i groesawu pobl o bob cefndir felly mae'r myfyrwyr cyntaf yn cynrychioli hynny.

"Mae gyda ni bobl leol, pobl o gefndir gwledig, o ddinasoedd mawr ac mae'r gofrestr gyntaf yn dangos y gwahaniaeth yn y cefndiroedd yna.

"Mae'n dangos bod y brifysgol wedi cychwyn gyda nifer fechan o fyfyrwyr ond wedi tyfu i fod yn brifysgol fawr, ond mae llawer o'r un gwerthoedd yna yn dal i fodoli heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Pamffled yn nodi bwriad sylfaenwyr i agor 'Prifysgol i ddynion ifanc o bob dosbarth ac enwad heb wahaniaethu'

Er bod y syniad wedi ei wireddu gan waith sylfaenwyr cefnog, daeth y rhan fwyaf o'r arian i brynu a sefydlu'r brifysgol gan y werin.

Oherwydd hynny, codwyd digon o arian i brynu'r hen goleg, sef gwesty oedd ar hanner ei adeiladu am £10,000.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cara Cullen wedi cyfrannu at gyfrol newydd sy'n dathlu 150 mlynedd y brifysgol

"Dim y llywodraeth 'naeth benderfynu, 'reit mae angen prifysgol ar Gymru', daeth dim ceiniog gan y llywodraeth o gwbl," meddai'r hanesydd Elgan Philip Davies.

"Yma yn nhref Aberystwyth ei hunan codwyd £1,000, sef £100,000 yn arian heddiw, a hynny trwy fynd o ddrws i ddrws yn gofyn i bobl am arian.

"Fe ddigwyddodd yr un peth ar draws Cymru hefyd o fewn y cymunedau glofaol, y gweithiau llechi ac yn y blaen yn cyfrannu er mwyn cael prifysgol Cymru, i bobl Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Fore Gwener roedd yn rhaid nodi'r pen-blwydd drwy gicio'r bar ar waelod y prom!

Mae perthynas agos y brifysgol a'i chymuned yn parhau hyd heddiw, a chenedlaethau lawer o'r un teulu wedi bod yno yn astudio.

Dafi Jones yw Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth eleni: "Yr un peth sy'n gwneud Aberystwyth yn sbesial i fi yw'r gymuned.

"Ni mor glos yma, nid yn unig fel myfyrwyr ond y brifysgol i gyd. Ti ddim yn teimlo yn ddierth yma.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cael aelod arall o'r teulu yn mynychu Prifysgol Aberystwyth. Dwi'n siarad gyda mam-gu am ei chyfnod hi yma, am gerdded lan o'r hen goleg ac am y pethau sy'n dal yn debyg heddiw."

Ffynhonnell y llun, Rolant Dafis

Caiff cyfrol newydd ei chyhoeddi ddydd Gwener i nodi'r pen-blwydd arbennig.

Mae 'Ceiniogau'r Werin' yn gasgliad o 150 o wrthrychau a straeon pobl am y brifysgol.

Fe ddywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae Ceiniogau'r Werin / The Pennies of the People yn ychwanegiad gwych at y rhaglen amrywiol o weithgareddau sydd wedi'i threfnu i ddathlu'r pen-blwydd arwyddocaol hwn a'n llwyddiannau dros y 150 mlynedd diwethaf.

"Wrth lansio'r gyfrol, talwn deyrnged i'n sylfaenwyr ac i bobl Cymru a gyfrannodd eu ceiniogau prin i sefydlu y coleg prifysgol cyntaf Cymru yma yn Aberystwyth.

"Mae llawer wedi digwydd ers i ni agor ein drysau ym 1872 ond rydym yn parhau yn driw i'n hegwyddorion sylfaenol sef darparu addysg gynhwysol ac ymchwil arloesol sy'n ymateb i anghenion Cymru a'r byd ehangach."