'Anodd tyfu fyny fel rhywun du mewn ysgol Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae gan Fis Hanes Pobl Dduon rôl bwysig o ran helpu disgyblion du mewn ysgolion Cymraeg i deimlo'n llai unig, yn ôl cyn-ddisgybl o ardal Caerdydd.
Er bod cwricwlwm addysg newydd Cymru yn golygu bod hanes pobl dduon yn rhan fwy creiddiol o addysg plant erbyn hyn, mae Katie Mutyambizi yn dweud bod nodi Mis Hanes Pobl Dduon dal yn allweddol.
"100% mae tyfu fyny fel rhywun du mewn ysgol Gymraeg yn anodd ac mae'n gallu bod yn eithaf unig," meddai wrth raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru.
"Ond fi'n meddwl bo' fi'n eithaf lwcus o ran y gefnogaeth ges i."
Yn 18 oed erbyn hyn, mae Katie newydd ddechrau astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Nottingham.
Mae'n dweud iddi fwynhau ei hamser yn ysgolion Cymraeg y brifddinas, ond nad oedd hi'n rhwydd bod yn y lleiafrif bob amser.
'Ddim yn credu mod i'n siarad Cymraeg'
"Fi oedd yr unig ferch ddu yn y flwyddyn tan tua'r chweched dosbarth, a o'dd gen i fy mrawd, fy efaill Zach, ond mae'n wahanol gan fod ffrindiau fi gyd yn wyn," meddai.
"Wrth gwrs, fi'n siarad Cymraeg, ond dydi pobl ddim rili'n credu 'mod i'n Gymraeg neu 'mod i'n gallu siarad Cymraeg.
"Fi'n gweithio mewn caffi a ma' lot o bobl yn dod mewn a ma' nhw'n gallu siarad Cymraeg ac os fi'n dechrau siarad Cymraeg ma' nhw bach yn shocked.
"Neu weithiau maen nhw yn anwybyddu e a ddim yn ateb nôl yn y Gymraeg."
Mae Katie, sydd â theulu ar ochr ei thad yn dod o Zimbabwe, yn dweud ei bod wedi wynebu pobl sy'n cwestiynu ei Chymreictod.
"Lot o'r amser ma' pobl yn mynd, 'you're not really Welsh are you?' A fi fel 'ie, fi wedi tyfu lan fan hyn'. Ges i fy ngeni fan hyn."
'Y cwricwlwm yn helpu lot'
I Katie, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhan bwysig o'r broses o addysgu cymdeithas am amrywiaeth hanes Cymru a'r gymdeithas bresennol.
"Mae'n bwysig oherwydd yn anffodus does gan lot o bobl ddim mynediad at hanes pobl dduon," meddai.
"O'dd e'n rili bwysig i fi yn tyfu lan i wybod fy hanes i a hanes pobl eraill.
"Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn galluogi pobl i ganolbwyntio ar hanes pobl dduon yn sbesiffig yn hytrach na chael awr fan hyn a fan draw.
"Fi'n meddwl bydd y cwricwlwm yn helpu lot achos mae'n dechrau gyda phlant.
"Os mae'r plant yna yn gweld pobl o liw yn eu llyfrau, neu ar y teledu, neu ymysg y pethau maen nhw'n astudio, maen nhw'n mynd i ddod i arfer â gweld pobl o liw gwahanol a chred wahanol ac edrychiad gwahanol.
"Ma' nhw jyst yn mynd i ddod i dderbyn pawb o bob lliw."
Yn Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd mae 15% o'r disgyblion yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.
Ym mlwyddyn 6 mae dros 25% o'r disgyblion yn dod o gefndir amlddiwylliannol, ac yn ôl athro'r dosbarth, Tomi Turner, mae nodi Mis Hanes Pobl Dduon yn bwysig tu hwnt i'r disgyblion.
"Ydyn, ni wedi newid ein cwricwlwm fel bod sôn am y math yma o bethau yn digwydd drwy'r flwyddyn a bod dilyniant o flwyddyn i flwyddyn yn be' sy'n cael ei drafod," meddai.
"Ond dwi'n credu bod lle dal i fod iddo fe yn yr ysgol a thu allan, fel bod y gymdeithas gyfan yn gweld y pwyslais ar ddathlu pethau pwysig mae pobl dduon wedi cyfrannu i'n cymdeithas ni."
Un peth mae Mr Turner wedi sylwi arno yw bod yr holl blant yn ymateb yn dda i'r gwersi am Fis Hanes Pobl Dduon.
"Mae'n amlwg bod y pwyslais sy' wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ar drafod anghydraddoldeb yn y gorffennol yn talu ffwrdd achos mae plant gwyn a phlant o bob lliw yn hapus i drafod," meddai.
"Dwi'n credu bod plant o gefndiroedd gwahanol yn hapus iawn i drafod ac yn teimlo bo' fe'n bwysig iawn bo' ni yn trafod.
"Yn ystod trafodaethau dosbarth maen nhw'n frwd iawn tuag at gyfrannu i'r drafodaeth ac yn aml yn hoffi rhannu hanesion eu teuluoedd nhw hefyd."
Gyda phythefnos ar ôl o'r mis, bydd pwyslais arbennig ar gyfraniad pobl dduon yn nociau Caerdydd yng ngwersi'r plant yn ysgol.
"Ni wedi bod yn gwneud gwasanaeth am bobl dduon a siarad am Rosa Parks, Nelson Mandela, Usain Bolt a Martin Luther King," medd Luke, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 6.
"Rwy'n meddwl bod e'n bwysig oherwydd os ni ddim yn cael Mis Hanes Pobl Dduon, base pethe yn aros yr un peth â'r gorffennol, pryd oedd pobl gwyn ddim yn hoffi pobl du.
"Mae'n helpu sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg."
Mae ei gyd-ddisgybl Harry yn cytuno: "Rydyn ni wedi bod yn dysgu am Shirley Bassey ac rwy'n meddwl mae'n bwysig oherwydd os dydyn ni ddim yn dysgu bydden ni ddim yn gwybod ac wedyn pryd ni'n hŷn bydden ni ddim yn gwybod unrhyw beth am bobl ddu."
'Lle i bawb mewn addysg Gymraeg'
Wrth ystyried bod niferoedd disgyblion o leiafrifoedd ethnig mewn ysgolion Cymraeg yn cynyddu, mae Tomi Turner yn gobeithio na fydd y disgyblion mae e'n eu dysgu yn teimlo'r un unigrwydd a wnaeth Katie Mutyambizi.
"Dwi'n hoffi meddwl bydd plant o bob cefndir ethnig yn teimlo bod lle iddyn nhw fod mewn addysg Gymraeg," meddai Mr Turner.
"Dwi'n credu bod e'n llawer mwy arferol bod 'na drawstoriad o gefndiroedd ethnig yn yr ysgol, a'r gobaith yw bydd hynny yn normaleiddio addysg Gymraeg i bawb wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, a bod eu plant nhw yn dod drwy addysg Gymraeg hefyd wedyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022