Trychineb Gleision: Crwner i ddod i benderfyniad ar gwest

  • Cyhoeddwyd
Mavis Breslin
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n anodd ddim gwybod beth oedd wedi digwydd," meddai Mavis Breslin

Fe fydd penderfyniad a fydd cwest llawn yn cael ei gynnal i farwolaeth pedwar dyn fu farw mewn trychineb pwll glo yn cael ei wneud cyn y Nadolig.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39 pan lifodd dŵr i lofa Gleision yng Nghwm Tawe ym mis Medi 2011.

Yn 2014, fe gafwyd rheolwr a pherchnogion y gwaith yn ddi-euog o ddynladdiad a phenderfynodd y crwner yn erbyn cwest llawn.

Ond mae teuluoedd y rhai fu farw yn ymladd i sicrhau cwest ac yn dweud bod nifer o "gwestiynau heb eu hateb".

'11 mlynedd yn llawer rhy hir i aros'

Ddydd Gwener, mae crwner Abertawe wedi dechrau ar y broses o wneud penderfyniad hir-ddisgwyliedig ar gynnal cwest llawn i'w marwolaethau neu beidio.

Mae teuluoedd y pedwar dyn fu farw, perchnogion y pwll glo a gwleidyddion wedi dadlau ers tro bod angen cwest llawn i ddarganfod beth yn union wnaeth achosi'r trychineb.

"Mae 11 mlynedd yn llawer rhy hir i aros am atebion", meddai Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin.

Bu farw Garry Jenkins, Philip Hill, David Powell a Charles Breslin yn y trychinebFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Garry Jenkins, Philip Hill, David Powell a Charles Breslin yn y trychineb

Yn y gwrandawiad ddechreuodd ddydd Gwener, mae'r crwner Colin Phillips wedi bod yn clywed dadleuon cyfreithiol gan y bargyfreithiwr sy'n cynrychioli'r teuluoedd a'r perchnogion.

Ar 15 Medi 2011, yn dilyn ffrwydro arferol yng Nglofa Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, gorlifodd miloedd o alwyni o ddŵr i'r twnnel lle'r oedd saith glöwr yn gweithio.

Er fod tri o'r saith dyn wedi dianc, methodd y pedwar glöwr arall ffoi.

Er gwaethaf ymdrechion i'w hachub, cadarnhawyd y diwrnod canlynol fod pedwar dyn wedi marw.

Mewn achos llys yn 2014 dyfarnodd rheithgor fod rheolwr a pherchnogion y gwaith yn ddieuog o ddynladdiad.

Mewn protest a gafodd ei chynnal ddydd Iau wrth gofeb y trychineb yng Nghanolfan Gymunedol Cilybebyll, roedd y teuluoedd yn galw ar y crwner i ymateb ar frys i'r dystiolaeth a gyflwynwyd iddo nôl ym mis Ebrill.

'Ni moyn atebion'

Roedd y dystiolaeth yn awgrymu o bosib fod blynyddoedd o fethiannau honedig gan y cyrff rheoleiddio wedi arwain at weithredwyr yn gweithio yn y pwll glo yn anghyfreithlon.

Honnodd Mavis Breslin: "O' nhw'n gwybod oedd illegal workings yn mynd ymlaen yn y Gleision yn 2009, yr un illegal workings wnaeth ladd y dynion yn 2011.

"Mae'n frustrating iawn. Ni moyn atebion. Mae'n bwysig i bob un o' ni. Mae'n anodd ddim gwybod beth oedd wedi digwydd."

Fe gollodd Alex Jenkins ei dad, Garry, yn y trychineb yn 2011
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Alex Jenkins ei dad, Garry, yn y trychineb yn 2011

Dywedodd Alex Jenkins - mab Garry Jenkins, a fu farw yn y digwyddiad - y byddai cwest "yn bwysig i bobl y gymuned wybod beth oedd wedi digwydd".

"O'n i'n lwcus, o'n i gyda fy nhad-cu oedd yn gweithio ym mhwll glo am flynyddoedd," meddai.

"Roedd e'n gallu dweud wrtha i sut oedd pethau yn y pwll glo yn gweithio, a oedd hwnna wedi rhoi siawns i fi wneud lan meddwl fy hun am beth oedd wedi digwydd.

"Ond nid yw pobl y gymuned na'r teuluoedd gyda hwnna. Bydd e'n grêt i bawb gael yr atebion yn swyddogol mewn du a gwyn.

"Mae ddim cael yr atebion yn swyddogol yn galed i ddweud i bobl be ddigwyddodd.

"Does neb swyddogol wedi dweud be ddigwyddodd, dim ond chi sy'n dweud e a mae'n rhoi marc cwestiwn ar ben popeth ni'n dweud."

Gerald Ward and sister Maria Seage own the colliery. Chris Seage is Maria's husband
Disgrifiad o’r llun,

Gerald Ward (chwith) a'i chwaer Maria Seage oedd yn berchen y pwll glo pan ddigwyddodd y trychineb - Chris Seage (dde) yw gŵr Maria

Cafodd cwest ei agor ac yna'i ohirio yn 2013.

Gerald Ward a Maria Seage oedd yn berchen ar y pwll glo pan ddigwyddodd y trychineb.

"Mae shwd gymaint o gwestiynau heb eu hateb," meddai Ms Seage. "Ni angen atebion. Ni eisiau gwybod be ddigwyddodd y diwrnod yna.

"Mae'r teuluoedd a ni eisiau atebion i pam aeth pedwar dyn i'r gwaith y diwrnod yna a byth ddychwelyd."

Wrth gofio'r 11 mlynedd ddiwethaf, fe ddywedodd Ms Seage: "Chi'n byw gyda be' ddigwyddodd pob dydd.

"Chi'n codi lan yn y bore a mynd i gysgu yn meddwl am e. Mae 'di newid ni. 'Dy'n ni ddim y bobl o'n ni cyn y digwyddiad. Fi ddim yn hoffi'r person ydw i nawr.

"Mae'n anodd achos o'n ni gyd fel teulu mawr. O' nhw ddim ond yn weithwyr, o' nhw'n ffrindiau."

'Cyfiawn a theg'

Fe ddywedodd Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod y trychineb yn "dal i greithio'r gymuned".

"Dwi hefyd yn teimlo fod y galwadau sydd wedi bod ar gyfer cwest llawn yn rhai cyfiawn a theg. Dwi'n teimlo bod rhaid i bobl wrando ar eu lleisiau nhw," meddai.

"Maen nhw eisiau gwybod beth yn union a ddigwyddodd a beth arweiniodd at y marwolaethau.

"Er eu lles nhw, i les y gymuned ac er lles y bobl sydd dal i fod yn gweithio dan ddaear dros y Deyrnas Gyfunol, mae angen i ni gael yr atebion na chafodd eu rhoi gan yr achos cyfreithiol."

Dywedodd Christian Howells, oedd yn cynrychioli'r teuluoedd yn y gwrandawiad yn Abertawe, fod yr Awdurdod Glo a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi methu sicrhau fod gofal wedi ei gymryd a darparu ail allanfa ar gyfer y glowyr.

Roedd yn dadlau hefyd nad oedd y ffaith fod dros 11 mlynedd wedi mynd heibio ers y trychineb yn reswm dros beidio cynnal cwest.

Dyweoddd Prashant Popat KC, ar ran MNS Mining, perchnogion y Gleision, nad nad oedd yr achos troseddol ddilynodd wedi dod i gasgliad ynglŷn â sut y buodd y dynion farw.

Ond fe gadarnhaodd cynrychiolydd Malcolm Fyfield, rheolwr y lofa adeg y trychineb i'r crwner nad yw ei gleient o blaid cwest oherwydd y byddai'n "niweidiol i'w iechyd".

Dywedodd Crwner Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot fod na "lawer i feddwl amdano", ac y bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn y Nadolig.

Pynciau cysylltiedig